“…achos yr oedd yn ddyn da, yn llawn o’r Ysbryd Glân ac o ffydd.”
Actau 11:24
Mae’r gallu i ysgrifennu llythyr yn prysur fynd ar goll yn ein hoes dechnegol ni sy’n dibynnu fwyfwy ar e-bost, testun a ffôn symudol. Nid nad ydym yn gwerthfawrogi’r dulliau modern hyn, yn enwedig yn yr argyfwng presennol. Ond mae’n rhaid i mi ddweud mod i’n dal i gael boddhad o dderbyn llythyr neu gerdyn trwy’r post.
Un o’r pethau sydd wedi fy nharo’n ddiweddar yw pa mor aml mae Paul yn rhoi i ni ddisgrifiad cryno o’r bobl mae’n cyfeirio atynt yn ei lythyrau. Wrth anfon ei gyfarchion personol ar ddiwedd ei lythyr at y Rhufeiniaid, er enghraifft, mae’n disgrifio Mair fel un “a fu’n ddiflin ei llafur”, Rwffws fel “Cristion dethol” a’i fam fel “mam i minnau”. “Cydweithiwr yng Nghrist” yw Wrbanws, “Cristion profedig” yw Apeles, “cyfaill annwyl” yw Stachus, “chwaer annwyl” yw Persis a dau “a fu’n gyd-garcharorion â mi” yw’r disgrifiad o Andronicus a Jwnia. A dyna’r cwbl wyddom ni am y rhan fwyaf o’r rhain – mae bywyd pob un wedi’i grisialu mewn dau neu dri o eiriau. Pe bai rhywun yn gofyn i mi neu i chi roi mewn un frawddeg ddisgrifiad o’n bywyd, tybed beth fyddai’n ddweud amdanom?
Ond mae ’na un person y gwyddom ni dipyn mwy amdano na’r gweddill, a hwnnw yw Joseff, Lefiad o Gyprus. Pwy, meddech chi? Y gŵr, yn ôl Actau 4:36, gafodd ei gyfenwi gan yr apostolion yn Barnabas, ‘Mab Anogaeth’. Ef sy’n cael ei ddisgrifio gan Luc fel “dyn da, yn llawn o’r Ysbryd Glân ac o ffydd.” Dyna grynodeb werth ei harddel, a dyna ddyn i’w efelychu mewn byd sy’n llawn o esiamplau gwael.
Dyma rai o’r nodweddion oedd yn wir am Barnabas y dylem ni geisio’u hefelychu:
- Roedd yn ŵr cyfiawn.
- Roedd yn ufudd i arweiniad yr Ysbryd Glân – ef a berswadiodd y Cristnogion amheus yn Jerwsalem i dderbyn dilysrwydd tröedigaeth Saul wedi iddo ffoi yno o Ddamascus.
- Roedd yn ufudd i Air Duw ac yn “annog pawb i lynu wrth yr Arglwydd o wir fwriad calon”.
- Er yn Lefiad Iddewig, roedd yn hael ei groeso i’r gwrthodedig – y cenedl-ddynion nad oeddent, ar y cyntaf, yn gwbl dderbyniol gan bawb. Fel Cypriad o enedigaeth cafodd ef (ynghyd â Paul) ei ddefnyddio’n helaeth i sefydlu cadwyn o eglwysi yng Nghyprus ac Asia Leiaf er gwaethaf gwrthwynebiad yr Iddewon.
- Roedd am i’r “Duw byw” gael y cwbl o’r gogoniant a haeddai – ni fynnai ddwyn dim oddi arno. Pan oedd pobl Lystra’n tybio mai Zeus oedd ac am offrymu iddo, mynnai mai Ysbryd Glân yr Arglwydd a wnaethai ryfeddodau yn eu plith “i’ch troi oddi wrth bethau ofer”.
- Credai’n ddi-sigl yng ngwaith gorffenedig yr Arglwydd Iesu ar groes Calfaria. Dibrisio a sarhau’r gwaith hwnnw wnâi ychwanegu enwaediad neu unrhyw beth arall. Trwy ras Duw yn unig y mae cael achubiaeth.
Oni fyddai tystiolaeth yr eglwys yn llawer mwy effeithiol pe baem ni i gyd yn debyg i Barnabas.
Tirzah Jones, aelod yn Malpas Road