Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 27 Mehefin 2020

26 Mehefin 2020 | gan Iwan Rhys Jones | 1 Ioan 2

Ac yn awr, blant, arhoswch ynddo ef, er mwyn inni, pan fydd ef yn ymddangos, gael hyder a bod heb gywilydd arnom ger ei fron ef ar ei ddyfodiad.

1 Ioan 2:28

 

Hyder

Mae’n amlwg o ddarllen y Testament Newydd bod lle i hyder ym mywyd y Cristion. Gadewch inni weld ychydig o’r hyn a ddywedir, wrth ystyried un o eiriau Groeg y Testament Newydd am ‘hyder’, sef parrēsia.

Defnyddir parrēsia yn llyfr yr Actau wrth ddisgrifio mor eofn oedd y credinwyr cynnar yn eu tystiolaeth i’r neges am Grist, ac eto, nid oedd hyn yn nodwedd y gellid ei hegluro fel peth naturiol. Dyna a gasglwn wrth ymateb y Cyngor lddewig tra’n gwrando ar Pedr ac Ioan yn egluro am Iesu Grist: “Wrth weld hyder Pedr ac Ioan, a sylweddoli mai lleygwyr annysgedig oeddent, yr oeddent yn rhyfeddu” (Actau 4:13). Roedd yr hyder hwn yn dod oddi wrth Dduw, fel sy’n amlwg o ddisgrifiad Luc, awdur llyfr yr Actau, wrth iddo adrodd yr hyn ddigwyddodd wedi i Pedr ac Ioan ddychwelyd at eu cyd-gredinwyr: “Ac wedi iddynt weddïo, ysgydwyd y lle yr oeddent wedi ymgynnull ynddo, a llanwyd hwy oll â’r Ysbryd Glân, a llefarasant air Duw yn hy (parrēsia)” (Actau 4:31).

O sôn am weddi, anogir yr Hebreaid i fentro’n hyderus mewn gweddi: “Felly, gadewch inni nesáu mewn hyder at orsedd gras” (Hebreaid 4:16). Ymhellach, mae’r Apostol Ioan yn ceisio calonogi ei ddarllenwyr ynglŷn â chael ateb i weddi trwy ddweud: “A hwn yw’r hyder sydd gennym ger ei fron ef [sef Iesu]: y bydd ef yn gwrando arnom os gofynnwn am rywbeth yn unol â’i ewyllys ef” (1 Ioan 5:14).

Mae hyder hefyd yn rhywbeth y gall y sawl sy’n ‘aros’ yng Nghrist ei gael yn wyneb ail-ddyfodiad Crist a hyd yn oed Dydd y Farn: “Ac yn awr, blant, arhoswch ynddo ef, er mwyn inni, pan fydd ef yn ymddangos, gael hyder a bod heb gywilydd arnom ger ei fron ef ar ei ddyfodiad” (1 Ioan 2:28; gweler hefyd 1 Ioan 4:17).

Gorffennwn gyda geiriau awdur y llythyr at yr Hebreaid: “Peidiwch felly â thaflu eich hyder i ffwrdd, gan fod gwobr fawr yn perthyn iddo” (Hebreaid 10:35). Anogaeth sydd ganddo i beidio â rhoi’r gorau i arddel y ffydd yn wyneb anawsterau. Yn wir, rhaid dal gafael ar yr hyn sy’n sail i hyder y credadun.

Iwan Rhys Jones, ‘Hyder’, pennod allan o Geiriau Bywyd a gyhoeddwyd gan MEC yn 2017.