Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 25 Mehefin 2020

24 Mehefin 2020 | gan Bill Hughes | Eseia 43

Yn awr, dyma’r hyn a ddywed yr ARGLWYDD

a’th greodd, Jacob, ac a’th luniodd, Israel:

“Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di;

galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt.

Pan fyddi’n mynd trwy’r dyfroedd, byddaf gyda thi;

a thrwy’r afonydd, ni ruthrant drosot.

Pan fyddi’n rhodio trwy’r tân, ni’th ddeifir,

a thrwy’r fflamau, ni losgant di.

Oherwydd myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw,

Sanct Israel, yw dy Waredydd;

rhof yr Aifft yn iawn trosot,

Ethiopia a Seba yn gyfnewid amdanat.

Eseia 43:1-3

 

Yn ystod y cyfyngiadau sydd ar ein bywydau oherwydd y Coronafirws, rwy’n siŵr fod y mwyafrif ohonom wedi treulio amser yn meddwl sut beth fydd bywyd yn y dyfodol. Nid oes dwywaith na fydd yn dod â llawer o newidiadau yn ei sgil fydd yn gofyn i ni ailwampio patrymau ein bywyd eglwysig, ein bywyd gwaith a’n bywyd teuluol.

Rwyf am sôn am rai pethau mae’r Ysgrythur yn eu dysgu i ni sydd yn berthnasol, credaf i – sef Rhagluniaeth, Tangnefedd a Rhyfyg.

Beth bynnag a ddaw, rhaid i ni sicrhau nad ydym ni’n tynnu ein llygaid oddi ar Grist. Yng ngeiriau’r emynydd: ‘Ffyddlondeb mawr y nef / A bery yn ddi-lyth, / Nid oes a’i newid ef / O’r nef i uffern byth.’

Efallai na fyddwn bob amser yn deall sut mae’r Arglwydd yn ymdrin â ni, ond fe’n hanogir i gerdded yn ôl ffydd ac nid yn ôl golwg, gan wybod ei fod yn gallu rhoi pob gras i ni yn helaeth, ac mae hyn yn cynnwys y profiadau yr ydym i gyd yn mynd drwyddyn nhw yn awr ac yn y dyfodol.

Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn cadw rhagluniaeth a phenarglwyddiaeth Duw mewn golwg ar adeg fel hyn, oherwydd er gwaethaf yr holl ansicrwydd ymddangosiadol a’r dryswch cynyddol, maen nhw’n cynnig anogaeth i ni a sail i ni obeithio. Ein Tad sydd wrth y llyw, bob amser. Gall ymddangos weithiau fod Ei Ragluniaeth yn gweithredu ar gyflymder araf iawn a gall hyn ein gwneud yn anniddig, yn ddiamynedd, yn anfodlon neu hyd yn oed yn ddigalon. Ond rhaid i ni wneud ein gorau glas i osgoi ymateb fel hyn, oherwydd nid yw Ei arafwch yn golygu na all ymdopi â’r sefyllfa. Nid yw’n ein pryfocio chwaith, nac yn chwarae gemau gyda ni. Yn ei diriondeb mae’n tymheru’r gwynt i’r oen wedi’i gneifio, a dyma sy’n galluogi Ei blant i brofi Tangnefedd Duw. Mae wedi addo i ni, pan fyddwn yn mynd trwy ddyfroedd a thân profiad, na fydd yn caniatáu iddyn nhw ein llethu’n llwyr (Eseia 43:1-4).

Dyma ein Tangnefedd ni, ond yna rhaid i ni ofalu bod myfyrio am ei Ragluniaeth a’i Dangnefedd yn ein deffro i beryglon Rhyfyg.

Ar ôl cael ein bendithio yn ystod y Pandemig trwy bregethu Gair Duw yn feunyddiol a’r ymdeimlad anarferol o ystyr gwir gymdeithas a chyfeillgarwch Cristnogol, mae mor hawdd i ni anghofio a dechrau ymddwyn yn rhyfygus tuag at Dduw a’i fendithion trwy eu cymryd yn ganiataol.

Gall yr ymdeimlad o fraint a ddaw o berthyn i eglwys gariadus a gofalgar, sy’n anrhydeddu Duw ac yn pregethu’r Gair, ddechrau pylu ac felly gallwn dybio y bydd yno bob amser. Dyna ddigwyddodd i eglwys yn Sardis a anogwyd i fod yn wyliadwrus a chryfhau’r pethau oedd ar ôl ac oedd ar ddarfod amdanynt  (Datguddiad 3:1-2).

Heb os nac oni bai mae yna ymdeimlad mawr o ryddhad wrth i ni feddwl am ddod allan o’r Cloi Mawr ac anelu at y nod yn nyfodol Duw, ond rhaid i ni byth anghofio bendithion y gorffennol.

Mae pechodau’r gorffennol yn cael eu maddau a’u hanghofio yn rhyfeddol. Mae gras a daioni Duw yn drech na ffolineb y gorffennol, ynghyd â’i ganlyniadau. Mae bendithion y gorffennol yn dal i ddylanwadu ar ein bywydau ac ni ddylid byth eu tanbrisio na’u cymryd yn ganiataol. Dyma’r sail y gallwn sefyll yn gadarn arni a symud ymlaen, ac rydym yn gwneud hynny yn y sicrwydd bod y dyfodol, pa mor dywyll bynnag y mae’n ymddangos i ni, bob amser yn well na’r gorffennol oherwydd bod yr Arglwydd yn dda.

Os oes rhywun nad yw’n credu yn darllen hwn, gadewch imi gloi trwy ddweud hyn: gyda Christ mae’r gorau bob amser eto i ddod; ond heb Grist mae’r gwaethaf eto i ddod. Boed i’r Arglwydd Iesu agor eich llygaid i weld, fel y mae gwir gredinwyr yn ei weld, ryfeddodau Ei Ragluniaeth, Ei Dangnefedd a’i Ras.

Yn ddiffuant,

Bill Hughes