Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 24 Mehefin 2020

22 Mehefin 2020 | gan Meirion Thomas | 1 Thesaloniaid 1

“…oherwydd nid ar air yn unig y daeth atoch yr Efengyl yr ydym ni yn ei phregethu, ond mewn nerth hefyd, ac yn yr Ysbryd Glân, a chydag argyhoeddiad mawr.”

1 Thesaloniaid 1:5

 

Sut y gellir troi calonnau’r di-gred “at Dduw oddi wrth eilunod, i wasanaethu’r gwir Dduw byw”? (1 Thesaloniaid 1:9). Pa fath o nerth sy’n gallu newid pobl sydd wedi rhoi eu holl fywyd, eu harian a’u defosiwn i dduwiau paganaidd? Pan rydych chi wedi arfer â rhoi eich serchiadau ar eilunod mae angen rhyw nerth deinamig i’ch rhyddhau chi o afael y duwiau hynny rydych chi wedi eu trysori.

Yn Actau 17:1-9 rydyn ni’n darllen am ymweliad Paul â Thesalonica. Mae’r naw adnod yn croniclo nerth rhyfeddol yr efengyl mewn cyfnod o gynnwrf, gwrthwynebiad a phrotest. Ar y cefnlen fe welwn derfysg y dyrfa, gweiddi’r dorf a’r gwrthdaro, ac ar y prif lwyfan gwelwn weithredoedd dramatig Duw. Trwy dystiolaeth yr apostolion, ac o ganlyniad i bregethu Paul, mae Iddewon, Groegiaid oedd yn ofni Duw, a chenedl-ddynion eraill yn cael troedigaeth.

Mae pedwar gair allweddol i ddisgrifio sut mae Paul yn mynd ati i gyfathrebu gwirionedd yr efengyl; ymresymu, esbonio, profi, a dweud (ad 2,3). Yr hyn sydd wrth wraidd y pedwar dull yw Gair Duw. Dyma’r unig wirionedd all roi sail gadarn i ni yn y dasg o wynebu duwiau Groeg yr henfyd, yn ogystal a’r eilunod cyfoes sydd â gafael mor gadarn ar ein cymdeithas ni. Mae angen nerth achubol i ryddhau ein meddyliau a’n calonnau o farwolaeth a chaethiwed celwydd y gau-dduwiau hyn. Ffocws neges yr efengyl yw bywyd, dioddefaint, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist, y Meseia, yr un y mae Duw wedi ei apwyntio a’i eneinio. Yn fuan iawn mae’r cenhedloedd yn deall ac yn derbyn mai Iesu yw’r Brenin. Mae E’n teyrnasu’n uwch nag unrhyw awdurdod arall. Mae ei frenhiniaeth Ef yn goroesi pob brenhiniaeth arall. Nid duwiau go iawn yw eu duwiau nhw mewn gwirionedd. Dydyn nhw’n ddim byd ond cysgodion celwyddog, gwag a gwael o’r “gwir Dduw byw… ei Fab o’r nefoedd, y Mab a gyfododd ef oddi wrth y meirw, sef Iesu, yr un sydd yn ein gwaredu oddi wrth y digofaint sydd i ddod” (1:9,10).

Cafodd y neges hon effaith fawr wrth iddi gael ei phregethu “nid ar air yn unig… ond mewn nerth hefyd, ac yn yr Ysbryd Glân, a chydag argyhoeddiad mawr” (1:5). Mae’r Ysbryd Glân yn hanfodol er mwyn troi’r crefyddwyr anghrediniol (fel yr Iddewon) neu’r rhai anghrefyddol (fel y paganiaid Groegaidd). Dyma’r unig neges, a’r unig nerth sy’n gallu achub, ryddhau ac adfer pobl i berthynas â Duw, ac i’w wasanaethu Fe, fel y’n crewyd ni i’w wneud. Mae gallu’r Crist atgyfodedig, trwy nerth yr Ysbryd Glân, ar waith ym mhob credadun. Yn gyntaf, mae’r gallu hwn yn ein hargyhoeddi o’n pechod a’n cywilydd. Yna cawn ein harwain at Grist, a bydd Duw yn agor ein llygaid i weld, a’n clustiau i glywed, a’n calonnau i dderbyn maddeuant, gras a thrugaredd gan y Gwaredwr sy’n ein caru ni. Mae’r Ysbryd Glân yn aruthrol rymus, ac yn llwyr abl i’n gwneud ni, yn ogystal â’r Thesaloniaid, yn wir gredinwyr. Dyma’r nerth sy’n dod â ni o farwolaeth i fywyd. Efallai y byddwn ni’n amrywio yn y graddau yr ydyn ni’n ymwybodol o’r ffydd achubol hyn. Ac efallai y byddwn ni’n ei werthfawrogi yn fwy ar rai adegau na’i gilydd. Mewn cyfnod o adfywiad ysbrydol mae’n bosibl y gwelwn ni’r gallu hyn ar waith yn fwy helaeth. Ond, mae’r nerth, sy’n rhan annatod o’r Ysbryd Glân, yn gweithredu ym mhob cyfnod ac ym mhob man wrth iddo gyflawni’r wyrth o droedigaeth. Yr Ysbryd Glân sy’n rhoi bywyd i enaid anghrediniol. Mae pob troedigaeth yn digwydd o ganlyniad i waith nerthol, awdurdodol, gwyrthiol, grasol Duw. Mae’n anodd credu weithiau eich bod chi a fi yn wyrth ar ddwy droed!

Gadewch i ni ddiolch i’r Arglwydd am ein hachub ni mewn ffordd mor nerthol, ac am y gallu sydd ar waith ynom ni i’n trawsffurfio ni ar gyfer tragwyddoldeb. Gofynnwn gyda Ann Griffiths, “Beth sydd imi mwy a wnelwyf ag eilunod gwael y llawr?” Wrth i ni glywed am nifer o bobl yn gwrando ar oedfaon a thystiolaethau ar lein, gadewch i ni weddio y bydd y Gair yn mynd allan yn nerth yr Ysbryd Glân, gydag argyhoeddiad mawr. Gweddiwch hefyd am y Cristnogion a’r eglwysi sy’n parhau i dystiolaethu heddiw yn Thessaloniki.

Meirion R. Thomas​, Malpas Road