“Y mae’r nefoedd yn datgan gogoniant Duw, a’r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo.”
Salm 19:1
Un o’r pethau rwy’ wedi’i golli fwyaf ers dechrau’r ‘lockdown’ yw gallu mynd am dro ar hyd glan y môr. Mae’n un o’m hoff bleserau; rwy’ bob amser wedi mwynhau edrych ar y môr, a hynny ym mhob tywydd. A’r hyn sy’n rhoi’r mwyaf o hyfrydwch i mi yw gweld yr haul yn machlud gyda’r hwyr gan beintio’r awyr â myrdd o liwiau. Yn ddieithriad, yr adnod sy’n dod i’r meddwl yw y gyntaf yn Salm 19 “Y mae’r nefoedd yn datgan gogoniant Duw, a’r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo.”
Yn fuan wedi i ‘lockdown’ ddod i rym fe benderfynais y byddwn yn ystod y cyfnod ‘mynd am dro’ oedd yn cael ei ganiatáu yn edrych am rywbeth fyddai’n fy atgoffa o ryfeddod y greadigaeth. Ac mae bron yn anghredadwy sawl machlud haul a thameidiau o harddwch rwy’ wedi’u gweld tra’n cerdded o fewn fy milltir sgwâr, a hynny mewn dinas.
Ble bynnag yr edrychwn rydym wedi’n hamgylchu gan fyd sy’n datgan gogoniant Duw! Harddwch naturiol syfrdanol, a’r cyfan wedi dod i fodolaeth mewn ufudd-dod i air o enau Duw. Ar wal fy ystafell fyw mae gen i lun o lan-môr Aberogwr wedi’i dynnu o’r awyr ac rwy’n hoff iawn ohono. Ond nid yw’r boddhad o edrych arno i’w gymharu â’r pleser o gerdded ar hyd y traeth. Er cystal yw, adlewyrchiad gwael o’r traeth yw’r llun: yn yr un modd adlewyrchiad gwan o ogoniant Duw yw’r greadigaeth er ei holl ysblander. Dychmygwch sut y bydd hi yn y nefoedd pan fydd pob ‘filter’ wedi’i ddileu. Mae’r salmydd yn dweud wrthym fod y ffurfafen yn rhoi i ni gip ar ogoniant Duw, rhagflas o’r hyn sydd i ddod!
Gaf i’ch annog chi, does wahaniaeth ble rydych yn byw, i edrych bob dydd am rywbeth fydd yn eich atgoffa o ogoniant ein byd a’r hyn oll sy’n ei amgylchu. Bydd yn codi’ch calon ac yn cyfeirio’ch golwg at ein Gwaredwr. Boed iddo’ch arwain i addoli’r Duw a greodd fydysawd mor rhyfeddol, a’ch llenwi ag awydd angerddol i dreulio tragwyddoldeb gydag ef.
Tirzah Jones, aelod yn Eglwys Malpas Road, Casnewydd.