Clyw, nefoedd! Gwrando, ddaear! Oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD: “Megais blant a’u meithrin, ond codasant mewn gwrthryfel yn f’erbyn. Y mae’r ych yn adnabod y sawl a’i piau, a’r asyn breseb ei berchennog; ond nid yw Israel yn adnabod, ac nid yw fy mhobl yn deall.”
Eseia 1:2-3
Daw’r defosiwn isod allan o lyfr Mari Jones Yng Nghysgod y Gorlan a gyhoeddwyd gan y Mudiad nifer o flynyddoedd yn ôl.
Cydbwysedd
Caf hyfrydwch mawr bob tro yr ail-hedir ‘Cae Fron’ yma, am nad yw ond ‘chydig lathenni o ffenest y gegin. Diddorol eto eleni fu gwylio’r holl weithgareddau — aredig y cyfan yn ofalus, ac yna llyfau’r pridd yn siwrwd mân. Ei fwydo wedyn â’r cemegau angenrheidiol, er mwyn cyflawni pob diffyg a allai fod ynddo fel ag yr oedd. Taenellu’r ‘basic slag’ drosto er mwyn codir cyfartaledd o ffosffad sydd ynddo. Yna ychwanegu ‘compound’ er mwyn chwyddo’r nitrogen a’r potas i’r lefel cywir. Y cyfan er mwyn gwneud gwely boddhaol fydd yn cyd-fynd ag amodau tyfiant yr hadau rêp (sy’n dyfiant gwyrdd un flwyddyn ¡ besgi ŵyn), a hadau’r gwelltglas y gobeithir ei weld yn dyfiant parhaol.
Gwyliwn y cyfan yn bryderus yn ystod haf sych eleni. Tybed beth a ddeuai o’r had mewn cae mor llechweddog â hwn — cae a wynebai lygad yr haul drwy gydol y dydd? Cyfyng iawn fu hi arnynt ar brydiau. Buont yn brwydro am eu heinioes. Er hynny, rhyfeddais lawer wrth weld mor dda fu’r tyfiant.
Diddorol oedd gwylio’r criw cyntaf o ŵyn a ganiatawyd ¡ wledda arno. Yn naturiol ddigon edrychwn ymlaen at eu gweld yn ei flasu’n awchus am y tro cyntaf, ond diarhebwn wrth weld mor gynnil a gochelgar y bwytaent. O gael y fath amheuthun blasus rhwng eu dannedd tybiais y buasent yn rhuthro ato. Mor fuan y cawsant eu digoni! Cyn hir, er cystal a brased y bwyd o’u cwmpas, gwelwn hwy yn gwthio eu pennau ¡ fôn y cloddiau fel pe baent yn chwilio am rywbeth dewisol dros ben. Tybed beth allasai fod na lwyddent i’w gael yn y tyfiant newydd? Oddi wrth ddygnwch y chwilio, hawdd oedd deall y galwai eu cyrff am rywbeth oedd ar goll yn y borfa fras gerllaw, rhywbeth y gwyddent wrth reddf oedd yn angenrheidiol er lles eu cyrff. Diau i’r arad wrth droi’r borfa wyneb ¡ waered eu hamddifadu or union beth y chwilient amdano. Er cystal y cemegau, dangosodd yr ŵyn mai yn y dalar o gylch y cae ac yn y tir na allwyd ei droi ac ym min y cloddiau yr oedd yr union flewyn y chwilient amdano.
Agor llidiart i gae arall fu’r hanes, iddynt gael pori hen borfa yn ogystal â’r newydd. Yno y treulient hanner eu hamser yn pigo yma ac acw bob yn ail a gorwedd – pigo’r gwelltyn oedd orau at eu chwaeth a’u hangen. Hawdd oedd gweld na allent gymryd ar y tro ond cyfran fach or protein a gynhwysai’r tyfiant gwyrdd. Buan iawn, o’u llenwi 4 pheth da yn unig, yr âi eu cylla’n llai ac fe olygai hynny lai o waith chwilio am fwyd a rhagor o orffwys i’r bwyd droi’n gnawd. Rhaid oedd iddynt felly ofalu ychwanegu’r peth prin angenrheidiol yma ato cyn gorlenwi.
Cawsom ambell golled ddieisiau o famau ŵyn, a rhai cyfeb, yn y gorffennol o’u cadw’n hir mewn tir wedi ei aredig a’i ail-hadu. Am nа chawsant ddigon o gynhaliaeth gytbwys yn y tyfiant newydd—a’r ŵyn yr un pryd yn tynnu’n gyson oddi arnynt—âi’r mamau’n anymwybodol, yn sydyn i bob golwg. Mawr fyddai’r brys ¡ geisio’u dal cyn i’r anadl olaf ddiflannu, a ’mofyn chwistrelliad o galch neu magnesiwm, yn ôl fel y bydd yr arwyddion, a’i gynhesu’n hastus i dymheredd gwaed y ddafad rhag iddo beri gormod o sioc i’w chyfansoddiad. Rhyfedd mor fuan yr adweithiant pan gyflenwir y diffyg sydd yn eu cyrff. Dadebrant o funud i funud. Byddant ar eu traed eto mewn dim o dro. A’r hyn a’n gwyleiddia bob tro yw sylweddoli y buasent wedi chwilio am y ddeilen fuasai’n cyflenwir diffyg eu hunain pe byddai o fewn cyrraedd iddynt yn rhywle.
Caf fy hun yn gofyn i mi fy hun, tybed a ŵyr anifeiliaid beth sydd orau er eu lles yn well nag y gŵyr dyn beth sydd orau er ei les yntau? Aiff dyn ar ôl y peth sydd orau ganddo ar y pryd, pa un bynnag a wna les iddo ai peidio. Ni wad anifail ei gynneddf; os bydd modd fe chwilia nes cael yr hyn sydd yn angenrheidiol iddo. Ond gyda’i holl ddoethineb fe ddiystyra dyn angen mwyaf ei fywyd — yr angen am Dduw.
Gallwn lenwi ein bywyd â phethau sydd ynddynt eu hunain yn ddigon da a chyfreithlon. Gallwn lenwi ein pennau hefyd â gwybodaeth gywir ac uniongred—a’n calonnau yn wan ac yn eiddil ac yn oer tuag at Dduw. Un peth sydd angenrheidiol, meddai Iesu Grist, a Mair a ddewisodd y rhan dda honno, sef ei adnabod Ef yn iawn a thyfu yn yr adnabyddiaeth honno. Heb hynny gall y bwyd cryfaf a’r athrawiaeth orau droi’n fwrn i’r enaid ac yn farwol i’r eithaf. Rhaid wrth gyfuniad mewn bywyd o ddeall a theimlad, athrawiaeth a phrofiad.