Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 23 Mehefin 2020

22 Mehefin 2020 | gan Dewi Tudur | 2 Cronicl 6

Os bydd yn y wlad newyn, haint, deifiad, malltod, locustiaid neu lindys, neu os bydd gelynion yn gwarchae ar unrhyw un o’i dinasoedd — beth bynnag fo’r pla neu’r clefyd — clyw bob gweddi, pob deisyfiad gan unrhyw un a chan bob un o’th bobl Israel sy’n ymwybodol o’i glwy ei hun a’i boen, ac yn estyn ei ddwylo tua’r tŷ hwn; gwrando hefyd o’r nef lle’r wyt yn preswylio, a maddau, a rho i bob un yn ôl ei ffyrdd, oherwydd yr wyt ti’n deall ei fwriad; canys ti yn unig sy’n adnabod pob calon ddynol; felly byddant yn dy ofni ac yn rhodio yn dy ffyrdd holl ddyddiau eu bywyd ar wyneb y tir a roddaist i’n hynafiaid.

2 Chronicl 6:28-31

 

Mae llawer wedi bod yn gofyn yr un cwestiwn yn y dyddiau argyfyngus yma, sef, “Beth mae Duw yn ddweud wrthym mewn Pandemic?” Mentra rai ddweud yn ddi-flewyn-ar dafod ei fod yn arwydd o farn Duw ac mae eraill yr un mor bendant o’u hateb hwythau – “Nid barn Duw ydyw hyn!” Mae’r ddwy blaid fel eu gilydd wedi bod yn sgwrio drwy’r Beibl am gyfeiriadau i gadarnhau eu safbwynt.

Un peth gallwn ddweud yn bendant ydi fod Duw yn siarad hefo ni bob amser, boed pandemic neu beidio. Martin Luther ddwedodd mai y dyn mwyaf trist yn y Byd yw’r dyn sy’n credu nad yw Duw yn siarad hefo fo.

Yn y bennod yma (2 Chronicl 6) cawn hanes cyfarfod agor y Deml a Solomon yn gweddïo ac yn rhestru gwahanol amgylchiadau mewn bywyd pan y bydd pobl Israel angen troi at Dduw. Mae’n werth darllen y bennod i gyd – mae’r paragraff cyntaf (ad 1-21) yn ein dysgu am fawredd, gogoniant a dymuniad Duw i gyfarfod efo’i bobol.

Yn adnod 28 mae’r cyfeiriad yn benodol at bla – dyna ni, medda ni, dyna ni wedi ffeindio’r cyfeiriad! Ond sylwch yn yr adnod nesaf (29) mae’n sôn am bla arall – pla y galon, pla pechod yw hwn. Mae’r neges yn syml. Rydym angen troi at Dduw yn gyson, “Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn twyllo ein hunain” (1 Ioan 1:8), ac mae edifeirwch i fod yn nodwedd parhaus ym mywyd y Cristion. Yn aml, mae pobl yn meddwl mai rhywbeth ar gychwyn y bererindod ysbrydol yw edifeirwch. Wrth gwrs bod yn rhaid edifarhau a chredu’r efengyl er mwyn dod yn Gristion yn y lle cyntaf. Ond mae cael yr olwg gywir arnom ein hunain, fel pechaduriaid tlawd ac anghenus, i fod yn rhywbeth cyson ym mywyd y Cristion iach.

Yn y bennod nesaf, 2 Chronicl 7 ad 14, mae yna addewid o enau Duw ei hun – os bydd edifeirwch gwirioneddol, yna bydd Duw yn maddau pla y galon. Dyma wirionedd rhyfeddol. Os gwnawn ni gyffesu yr hyn sy’n wir ac edifarhau, yna bydd Duw yn trwsio’r berthynas rhyngom ag Ef a’n maddau! Mae’n galw “hen wrthgilwyr trist, at Iesu Grist, yn ôl”. Ond, sylwch ar y cyfarwyddiadau – mae’n rhaid i’r gweddïwr “ddod i’r tŷ hwn”, y deml yn Jerwsalem – filoedd o filltiroedd i ffwrdd i ni sy’n byw yng Nghymru (nid yr un deml sydd yn Jerwsalem erbyn hyn beth bynnag). Ond dyma ogoniant Efengyl Iesu Grist – “mae pabell Duw gyda dynion” (Dat. 21:3). Mae’r Arglwydd Iesu Grist yn dweud mai darlun yw’r darlun yw’r deml, cysgod ydi hi ohono ef ei Hun (Ioan 2:19). Y man a’r lle i gyfarfod hefo Duw felly ydyw yn yr Arglwydd Iesu Grist. Yn ei berson ac yn ei waith dros bechaduriaid ar y groes, Ef yw “Pabell y cyfarfod”, Ef yw’r “Cyfryngwr rhwng Duw a dynion – y dyn Crist Iesu”. A gallwn gyfarfod â Duw trwy Iesu Grist yn unrhyw le.

Beth mae Duw yn ddweud wrthym yn y pandemic? Mae’n dweud wrthym am edifarhau ac mae’n dweud wrthym am ofyn i Dduw drwsio’r berthynas lle mae angen hynny. Mae’n ein galw yn ôl ac yn dweud “Deuwch ataf fi”!

Cadwch yn saff – ym mhob ystyr.

Dewi Tudur (Eglwys Efengylaidd Ardudwy)​