Pan welodd yr Arglwydd hi, tosturiodd wrthi a dweud, “Paid ag wylo.”
Luc 7:13
Wrth i mi eistedd wrth fy nghyfrifiadur heno i ysgrifennu’r defosiwn hwn, rwy’n gwybod nad oes gen i eiriau huawdl i’w rhannu, dim darluniau clyfar i’w rhoi, nac unrhyw ddoethineb benodol i’w rhannu. Beth sydd gen i rydw i yn ei roi i chi …
Mae Crist yn tosturio wrthym. Beth bynnag yw ein hamgylchiadau heddiw a beth bynnag yr ydym yn ei wynebu, gallwn fod yn sicr bod ei lygaid arnom ni. Mae tosturi Crist yn beth rhyfeddol. Mae’n ddyfnach na thrueni, ac yn fwy na chydymdeimlad. Mae’n symud gan ei galon ef, tuag at ein calonnau ni wrth iddo’n gweld a’n ceisio yn ein hangen.
Fe’i symudodd yn nhragwyddoldeb i’n caru ni. Fe’i symudodd ym Methlehem i gyfyngu ei hun i gorff dynol er ein mwyn. Fe’i symudodd yn Gethsemane i barhau â’r llwybr ofnadwy i’r groes ac fe’i cadwodd ar y groes honno wrth iddo farw drosom. Gan fod Iesu yr un peth ddoe, heddiw ac am byth, gallwn fod yn sicr bod ei dosturi yn parhau i’w symud heddiw wrth iddo ein gwylio a gweithio yn ein bywyd. Ei Ysbryd ef sy’n ein cynnal.
Gadewch imi ei wneud yn bersonol… Gristion, gan fod Iesu wedi gwaedu i farwolaeth drosoch chi ar Galfaria, gallwch fod yn sicr bod ei galon yn gwaedu drosoch heddiw. Mae hwn yn gysur y tu hwnt i gysur ac yn dod â heddwch y tu hwnt i unrhyw beth y gall y byd ei gynnig. Nid yw’n unrhyw syndod bod Crist wedi dweud wrthym na ddylai ein calonnau gythryblu nac ofni! Mae’n agos atom ac mae’n tosturio wrthym!
Gadewch inni orffwys yn nhosturi Crist heddiw a gadael i’n cariad ddyfnhau tuag at yr un sy’n decach na deng mil.
Steffan Job (Capel y Ffynnon, Bangor)