Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Y mae wedi’n bendithio ni yng Nghrist â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd.
Effesiaid 1:3
Bendith
Wrth i rywun disian mewn cwmni о bobl mae’n bosibl y clywch un araII yn ymateb trwy ddweud, “Bendith”. Mewn cylchoedd Cristnogol fe glywch y cyfarchiad, “Pob bendith”. Dyma ddau ymadrodd cyfarwydd yn ein hiaith bob-dydd sy’n defnyddio’r gair ‘bendith’; gair o’r Beibl, wrth gwrs. Ond beth yw ei arwyddocâd yno?
Ym mhennod agoriadol Llyfr Genesis y daw’r cyfeiriad cyntaf at fendith yn y Beibl pan ddywedir bod Duw wedi bendithio “y morfilod mawr, a’r hoII greaduriaid byw sy’n heigio yn y dyfroedd yn ôl eu rhywogaeth, a phob aderyn asgeliog yn ôl ei rywogaeth” (Genesis 1:21). Gwelwn ar unwaith nad yw bendith Duw wedi ei gyfyngu i fodau dynol, ond bod ei fendith yn ymestyn i greaduriaid eraill hefyd.
Yn achos y creaduriaid, mae bendith Duw wedi ei gysylltu â ffrwythlondeb ac wrth fendithio’r pâr dynol cyntaf cysylltir y bendithio hefyd â ffrwythlondeb, “Bendithiodd Duw hwy a dweud, ‘Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi…” (Genesis 1:28). Gwelwn felly, nad yw bendith wedi ei gyfyngu i’r ysbrydol neu’r crefyddol. Yn wir, mae bendith Duw yn sicrhau llwyddiant, lles, neu lawnder ar gyfer agweddau gwahanol ar fywyd mewn amrywiol ffyrdd.
Efallai mai’r enghraifft fwyaf nodedig yn уг Hen Destament o Dduw yn bendithio, yw’r addewid a roes Duw i Abraham, “ynot ti bendithir holl dylwythau’r ddaear” (Genesis 12:3).
Mae’r Testament Newydd yn cydio yng ngeirfa bendith hefyd. Prin bod gwell adnod i’w chrybwyll yn y cyswllt hwn na geiriau agoriadol y llythyr at yr Effesiaid, “Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Y mae wedi’n bendithio ni yng Nghrist â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd” (Effesiaid 1:3). Mae’r geiriau hyn yn ein hatgoffa am fendith sydd yn benodol yng Nghrist. Mae cyfoeth neu lawnder y fendith yn cael ei egluro yn yr adnodau dilynol o’r bennod agoriadol o Effesiaid. Yn eu plith mae mabwysiad yn blant Duw, maddeuant ein camweddau a phrynedigaeth.
Yn yr Hen Destament, gwelwn fod addewid Duw i fendithio yn rhywbeth di-droi’n ôl. Cawn enghraifft drawiadol o hyn mewn hanesyn digon rhyfedd yn llyfr Numeri. Yno, cofnodir bod brenin Moab, sef Balac, am ddwyn aflwydd ar bobl Israel a’u melltithio. Er mwyn sicrhau hynny, cyfloga broffwyd o Midian or enw Balaam. Er gwaethaf ymdrechion gorau Balaam, ofer ydynt. Mae’n gorfod cydnabod “a phan fo ef [sef Duw] yn bendithio, ni allaf ei atal” (Numeri 23:20).
Tarddle’r fendith, ym mha agwedd bynnag ar fywyd, yw Duw ei hun. Mae angen gair neu addewid oddi wrth Dduw, a’i allu ef, i sicrhau’r realiti.
Iwan Rhys Jones, ‘Bendith’, pennod allan o Geiriau Bywyd a gyhoeddwyd gan MEC yn 2017.