Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 17 Mehefin 2020

12 Mehefin 2020 | gan John Martin | Ioan 5

“A wyt ti’n dymuno cael dy wella?”

Ioan 5:6

 

Dyma’r cwestiwn a ofynnodd Iesu i ddyn claf oedd yn gorwedd gyda llawer tebyg iddo wrth bwll Bethesda. Wyddom ni fawr ddim amdano. Dyw’r hanes ddim yn ei enwi nac yn dweud faint oedd ei oed. Beth mae yn ddweud yw iddo fod yn dioddef o’i anabledd “ers deunaw mlynedd ar hugain.” Ydy hynny’n golygu ei fod wedi’i eni’n anabl, ai yn ddiweddarach y cafodd ei daro’n wael? Tybed ai’r parlys oedd yn ei flino?

Un dyn ymhlith llawer – Ble bynnag yr âi Iesu byddai tyrfa bob amser yn ei ddilyn, llawer ohonyn nhw’n glaf ac angen iachâd, felly pam mae’r dyn hwn yn cael ei ddewis o blith y “dyrfa o gleifion” wrth y pwll. Oedd e’n well neu’n fwy haeddiannol na’r lleill? Dyna gwestiwn sy’n cael ei ofyn mewn rhyfeddod gan Gristnogion sydd wedi profi’r iachawdwriaeth sydd yng Nghrist – Pam fi? Yr un rhyfeddod sydd y tu ôl i eiriau Paul:  “A dyma air i’w gredu, sy’n teilyngu derbyniad llwyr. Daeth Crist Iesu i’r byd i achub pechaduriaid. A minnau yw’r blaenaf ohonynt. Ond cefais drugaredd…” (1 Timotheus 15 ac 16). Roedd y ffaith fod yr Arglwydd wedi dangos ei drugaredd a’i ddewis ef o bawb, yn ei arswydo.

Cwestiwn rhyfedd? – Mae’n siŵr fod cwestiwn Iesu’n swnio’n rhyfedd, os nad yn greulon, i berson oedd yn ymwybodol o’i anabledd ac eisoes yn chwilio’n aflwyddiannus am iachâd. Ond roedd yn gwestiwn angenrheidiol. Doedd cydnabod ei gyflwr ddim yn ddigon; roedd yn rhaid iddo addef hynny wrth ddyn cwbl ddieithr. Roedd yn rhaid ei gael i dderbyn ei fod yn dioddef o gyflwr llawer gwaeth ac mai iechyd ysbrydol i’w enaid oedd ei wir angen. Rydym ni i weld yn anabledd y claf hwn ein cyflwr ni – pechaduriaid mewn angen am faddeuant. Mae geiriau Iesu wrtho yn ddiweddarach: “Dyma ti wedi gwella. Paid â phechu mwyach, rhag i rywbeth gwaeth ddigwydd i ti” yn dangos fod y Gwaredwr yn awyddus i’w ddiogelu rhag canlyniadau ei bechod.

Anabledd difrifol – Roedd ei broblem gorfforol yn golygu na allai symud heb help, na allai ennill ei fywoliaeth, ac na allai wneud unrhyw gyfraniad o bwys i gymdeithas. I bob pwrpas, roedd yn esgymun. Yn yr un modd, mae’n problem ysbrydol ni wedi cael effaith ddinistriol ar ein bywydau. Mae pechod yn broblem sydd gennym ers ein geni ac mae wedi’n gwahanu oddi wrth Dduw ers hynny.

Ffisigwr dibechod – Mae angen i ni gael ein cymodi â Duw trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Yn hytrach na’n gadael yn ein cyflwr naturiol, pechadurus, daeth ef i’r byd i’n hachub. Ac yn wahanol i ni, cafodd ei eni yn ddibechod, bu fyw mewn ufudd-dod llwyr i’w Dad, ac aeth i’r groes fel aberth yn ein lle a derbyn cosb haeddiannol ein pechod ni. Ef oedd yr unig Un a allai gymryd y cyfrifoldeb am ein pechodau, yr unig Un a allai gymryd arno’i hun ein heuogrwydd a’n cosb.

Ateb y cwestiwn – Efallai bod rhywun nad yw’n Gristion yn darllen hwn. Rydych wedi clywed yr efengyl, yn deall ei neges, a hyd yn oed yn derbyn mai’r unig ateb i’ch problem yw credu yn yr Arglwydd Iesu Grist, ond mae rhywbeth yn eich dal yn ôl. Mae’n bosib deall pethau i raddau helaeth fel Felix (Actau 24), bod o fewn dim i ildio fel Agripa (Actau 26), ond mae’r ymroddiad yn eisiau. Cyfaddefwch nad yw popeth yn iawn yn eich bywyd, fod arnoch angen achubiaeth a help gan yr unig Un a all eich helpu. Ydych chi am gael eich gwella? Mae’r cwestiwn yn gofyn am ateb a nawr, heddiw, yw’r amser i wneud.

John Martin, Eglwys Efengylaidd Llanbed