“Oherwydd dioddefodd Crist yntau un waith am byth dros bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, i’ch dwyn chwi at Dduw.”
1 Pedr 3:18 (BCND)
Mae 1 Pedr 3:18 yn un o adnodau mawr yr efengyl lle mae pob gair yn llawn ystyr. Hoffwn ystyried y geiriau a hyderaf y byddant yn anogaeth i chi wrth inni edrych ar galon ein ffydd.
Crist. Mae’r Groeg, fel cyfieithiad William Morgan, yn dechrau â Christ (‘Oherwydd bu Crist . . . ‘) a does dim ffordd fwy cadarnhaol i ddechrau adnod. Rwy’n cofio fel plentyn meddwl mai cyfenw Iesu oedd ‘Crist’, ond fe ddês i ddeall yn ddigon cyflym ei fod yn cyfeirio at ei weinidogaeth: Iesu yw y ‘Crist’, sy’n dod o’r Groeg am ‘Meseia’ / ‘gwas eneiniog’. Rydym yn cael ein hatgoffa o benodau fel 2 Samuel 7 ac Eseia 42. Dyma’r Un wedi ei anfon gan Dduw y Tad i ddod â gobaith, heddwch ac iachawdwriaeth i’r byd. Gallwn fod yn sicr fydd pob peth sy’n dilyn yng ngweddill yr adnod yn effeithiol.
Dioddefodd dros bechodau. Mae hyn yn mynd â ni at ddelweddau aberthol yr Hen Destament. Gallwn feddwl yn benodol am Oen y Pasg a system aberthol Lefiticus. Roedd Iesu’n deall yn iawn ei fod wedi dod i ‘roi ei einioes yn bridwerth dros lawer’. Nid damwain oedd ei farwolaeth. Dyma gynllun perffaith Duw. Heb dywallt gwaed nid oes maddeuant pechod ac ar y Groes cymerodd Iesu bechod, bai a chosb ei bobl fel y gallent gael eu puro a’u maddau.
Unwaith am byth. Mae’n rhwydd meddwl bod angen i ni gyrraedd rhyw safon o ‘ddaioni’ cyn y bydd Duw yn ein derbyn, neu fod angen i ni brofi ein bod yn ddigon teilwng neu sori. Hyd yn oed fel Cristnogion gallwn syrthio i’r trap o feddwl bod angen i ni ‘wneud i fyny’ am ein pechodau trwy weithredoedd neu ddefosiwn. Mae angen i ni barhau i gofio bob amser fod Iesu wedi marw ‘unwaith am byth’. Os ydych chi’n sylweddoli eich bod wedi pechu a syrthio o safon a gogoniant Duw, edifarhewch a chredwch yn yr Arglwydd Iesu ac fe gewch eich achub. Parhewch i edrych ar Groes Iesu yn unig. Nid oes iachawdwriaeth yn neb arall ac nid oes enw arall – na ffordd arall – y cawn ein hachub drwyddo.
Y Cyfiawn dros yr Anghyfiawn. Mae’r cyferbyniad yma yn rhyfeddol a dwi ddim yn credu y byddwn ni wir yn gwerthfawrogi grym yr efengyl tan i ni ddeall mor fawr yw’r gagendor rhwng sancteiddrwydd Iesu a’n pechod ni. Mae’r aberth yn dderbyniol gan Dduw y Tad am fod Iesu mor ogoneddus a phur. Mae’n ddigon rhyfeddol fod Mab Duw wedi cymryd cnawd a byw bywyd gwbl gyfiawn; ond ei fod e hefyd wedi marw ar Groes dros yr anghyfiawn? “Dyma gariad pwy a’i traetha’?” Ydych chi wedi sylweddoli eich bod yn bechadur ‘sâl’ a ‘cholledig’ a bod Iesu wedi dod i achub pobl fel hynny? Ydych chi wedi gofyn am faddeuant trwy farwolaeth aberthol Iesu yn eich lle?
I’ch dwyn chwi at Dduw. Mae bendithion yr efengyl yn ddiddiwedd a byddwn yn treulio tragwyddoldeb yn darganfod mwy amdanyn nhw. Rwy’n siŵr bod sawl addewid yng Ngair Duw wedi bod o gysur i chi yn ystod y cyfnod hwn. Ond dyma efallai’r fendith fwyaf oll: cael y fraint o ddod yn blentyn i Dduw a’i adnabod fel Tad. Bu farw Iesu i’n dwyn ni at Dduw. Wrth i chi ddechrau’r diwrnod beth am ystyried rhai o’r bendithion niferus sy’n tarddu o’r gwirionedd rhyfeddol hwn?
Steffan Jones, Mount Elim, Pontardawe