Y mae dy air yn llusern i’m troed, ac yn oleuni i’m llwybr.
Salm 119:105
Daw’r defosiwn isod allan o lyfr Mari Jones Yng Nghysgod y Gorlan a gyhoeddwyd gan y Mudiad nifer o flynyddoedd yn ôl.
Ail Gynnig
‘Ddo’ i byth hefo’r car eto i Gaerdydd ma.’ O glustfeinio llwyddais i ddeall John yn dweud hyn dan ei anadl. (Ni wn eto a oeddwn i glywed ai peidio.) Newydd ddarganfod yr oeddem inni gymryd y ffordd anghywir unwaith yn rhagor – y tro hwn wrth adael Caerdydd. Dywedai pob arwydd a welem bellach mai i Ferthyr Tudful y cyfeiriem ac nid i Gasnewydd fel yr oeddem yn bwriadu.
Wel wel! rhyfeddem gyda chywilydd atom ein hunain. Sut yn y byd mawr y bu inni gamgymryd y cyfarwyddiadau a gawsom? Dyna anodd fyddai gorfod cyfaddef ein dylni i’r un a roesai’r cyfarwyddiadau inni.
Ai pob tro yn yr olwynion a ni ymhellach i’r cyfeiriad anghywir. O sylweddoli ein camgymeriad diflannodd pob mwyniant teithio yn llwyr. ‘Doedd dim amdani bellach ond bod ar ein gwyliadwriaeth am y ddihangfa gyntaf posibl oddi ar y ffordd honno.
O’r diwedd daethom o fewn golwg i lwybr dihangfa. Dyna ddiolchgar oeddem i ddianc o ruthr gwyllt dibaid y Iôn ddwyffordd. Rhoddai hyn gyfle inni ailastudio’r cyfarwyddiadau a gawsom ar ddarn amlen cyn cychwyn.
Syrthio i’r demtasiwn o feio’n gilydd a wnaethom gyntaf. ’D âi hynny â ni i unman! Yna ceisio cysuro ein gilydd a rhoi’r bai ar ein hoedran – fel arfer cyndyn iawn ŷm i’w gyfaddef! Wedyn beiem y cyfarwyddyd, na chawsom ddigon o rybudd o’r ffyrdd anghywir y temtid dau bach fel ni o’r wlad i’w cymryd.
A ninnau yn drist yn dechrau cofleidio’r syniad na ddeuem byth eto yn ein car ein hunain i’n hannwyl Gaerdydd, yn araf taenodd ton o ollyngdod drosom o sylweddoli mai’r prif reswm am ein holl ddilunwch oedd na feddem fap o’r ddinas a’r cylch! O astudio hwnnw ein hunain gwelem ein lleoliad yn glir. Deallem y cyfeiriad yn iawn ac i ble yr arweiniai pob ffordd, a beth i’w ddisgwyl ar bob un ohonynt, yn lle gorfod dibynnu’n gyfan gwbl ar gyfarwyddiadau gwahanol rai – rhyw amlinelliad bach, cyfyng, o’r ffordd gan hwn a’r llall. Dyna a ddaw o ymgynghori â rhai yn disgwyl bws, a hwythau lawer tro heb brofiad o gwbl o yrru modur. Yn aml, nid y rhai sy’n hen gyfarwydd â’r cylch yw’r rhai gorau chwaith i gynorthwyo. Adwaenant hwy yr amgylchedd yn rhy dda i drafferthu cyfrif pa nifer o oleuadau ffordd i fynd drwyddynt cyn newid cyfeiriad, neu sawl mynedfa i’w hanwybyddu cyn troi allan o ynys draffig. Rhyw adeilad neu’i gilydd yw eu harwydd hwy fel arfer.
le, wrth astudio’r map yn gyfan y cawn y darlun yn llawn. Peth peryglus mewn bywyd ydyw cymryd ein harwain drwy dameidiau ynysol o’r Beibl, a hwnnw’n aml allan o gyswllt â gweddill y dystiolaeth. Mor bwysig yw ein bod yn cymryd ein cyfarwyddo gan y gwirionedd cyfan fel y’i ceir yng Ngair Duw.
Y diwrnod hwnnw yng Nghaerdydd, bu’n rhaid mynd yn ôl i’r lle y cymerasom drofa anghywir er mwyn dod o hyd i’r ffordd gywir unwaith eto. Ac o gael ein hargyhoeddi a’n cywiro gan y gwirionedd, yr un yw’r hanes. Mynd yn ôl a wnaeth Abram i’r lle y bu Duw yn real iddo ddiwethaf. Dychwelodd o’r Aifft, ar ôl iddo gymryd y drofa anghywir a mynd yno yng nghyfyngder y newyn a gwadu Sarai ei wraig, ac aeth hyd Bethel, ‘y man lle’r oedd wedi gwneud allor ar y cychwyn; ac yno galwodd Abram ar enw’r ARGLWYDD’ (Genesis 13:4).
‘Cadw fy ngham yn sicr fel yr addewaist, a phaid â gadael i ddrygioni fy meistroli’ (Salm 119:133).
‘Y mae meddwl rhywun yn cynllunio’i ffordd, ond yr ARGLWYDD sy’n trefnu ei gamre’ (Diarhebion 16:9).