Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 13 Mehefin 2020

9 Mehefin 2020 | gan Tirzah Jones | Effesiaid 6

“Ymrowch i weddi ac ymbil, gan weddïo bob amser yn yr Ysbryd. I’r diben hwn, byddwch yn effro, gyda dyfalbarhad ym mhob math o ymbil dros y saint i gyd…”

Effesiaid 6:18

 

Beth ydych chi’n weddïo amdano?

I lawer o Gristnogion mae disgyblaeth gweddi yn un o’r pethau mwyaf anodd. Dyna pam mae cymaint o lyfrau wedi’u hysgrifennu ar y pwnc! Y gwir yw bod gweddïo’n haws ambell waith na’i gilydd.

Fel credinwyr rydyn ni’n aml yn dweud “Fe weddïa i drosoch chi”, gan amlaf mewn ymateb i gais neu sefyllfa. Ond os ydych chi’n aelod o eglwys gymharol fawr, beth sy’n digwydd pan sylweddolwch wrth edrych ar eich ddyddiadur eglwysig nad ydych chi’n adnabod pawb? Neu pan fydd cais yn cael ei wneud mewn cwrdd gweddi i weddïo dros rywun a chithe’n meddwl am beth yn union rwy’ i weddïo? Neu pan fydd rhywun yn gofyn i chi, “Sut galla i weddïo drostch chi?” a’r realiti yw fod bywyd yn undonog ac na allwch feddwl am unrhyw angen neilltuol!

Tybed a ydych chi’r math o berson sydd yn eich defosiynau personol yn hoffi dilyn thema benodol o fewn y Beibl? Yn ddiweddar rwy’ i wedi bod yn ailystyried y modd mae Paul yn gweddïo dros y credinwyr. A dibynnu ar sut ry’ch chi’n cyfrif, h.y. y gweddïau penodol neu bethau mae’n gweddïo amdanynt, mae rhyw 42 o weddïau Paul y gallwn ni edrych arnyn nhw. Mae’r mwyafrif helaeth yn ymwneud â ffyniant ysbrydol yr eglwysi mae’n ysgrifennu atynt.

’Dyw hyn ddim yn cau allan anghenion penodol. Yn wir, mae adnodau agoriadol Pennod 4 o lythyr Paul at y Philipiaid yn anogaeth i ni wneud hynny. Weithiau mae’n gofyn am weddi dros ryw angen penodol o’i eiddo ef ei hun. Mae’n annog y Philipiaid i ymbil a gweddïo “ar i mi gael fy arbed rhag yr anghredinwyr yn Jwdea”. Ac, wrth gwrs, fe gofiwn am ei weddi benodol ynglŷn â’r ddraenen yn ei gnawd (2 Corinthiaid 12:7).

Dyma ychydig enghreifftiau o weddïau Paul dros gredinwyr yr Eglwys Fore. P’un a ydyn ni’n adnabod pobl yn dda neu ddim yn eu hadnabod o gwbl, byddant o help i ni yn ein gweddïau “dros y saint”.

  • “Llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn dan orthrymder. Daliwch ati i weddïo” (Rhufeiniaid 12:12).
  • “Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth i chwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith” (Rhufeiniaid 15:13).
  • “A’m gweddi yw, ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roi i chwi, yn eich adnabyddiaeth ohono ef, yr Ysbryd sy’n rhoi doethineb a datguddiad. Bydded iddo oleuo llygaid eich deall, a’ch dwyn i wybod beth yw’r gobaith sydd ymhlyg yn ei alwad, beth yw’r cyfoeth sydd ar gael yn yr etifeddiaeth y mae’n ei rhoi i chwi ymhlith y saint, a beth yw aruthrol fawredd y gallu sydd ganddo o’n plaid ni sy’n credu” (Effesiaid 1:17-19).
  • [Yr wyf] “yn gweddïo ar iddo [y Tad] ganiatáu i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, gryfder a nerth mewnol trwy’r Ysbryd, ac ar i Grist breswylio yn eich calonnau trwy ffydd. Boed i chwi sydd â chariad yn wreiddyn a sylfaen eich bywyd, gael eich galluogi i amgyffred ynghyd â’r holl saint beth yw hyd a lled ac uchder a dyfnder cariad Crist, a gwybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth. Felly dygir chwi i gyflawnder, hyd at holl gyflawnder Duw” (Effesiaid 3:16-19).
  • “Dyma fy ngweddi, ar i’ch cariad gynyddu fwyfwy eto mewn gwybodaeth a phob dirnadaeth, er mwyn i chwi allu cymeradwyo’r hyn sy’n rhagori, a bod yn ddidwyll a didramgwydd erbyn Dydd Crist, yn gyflawn o ffrwyth y cyfiawnder sy’n dod trwy Iesu Grist, er gogoniant a mawl i Dduw” (Philipiaid 1:9-11).

Mae Tirzah Jones yn aelod yn Eglwys Efengylaidd Malpas Road, Casnewydd.