Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 11 Mehefin 2020

9 Mehefin 2020 | gan Iwan Rhys Jones | Salm 34

Ofnwch yr ARGLWYDD, ei saint ef, oherwydd nid oes eisiau ar y rhai a’i hofna.

Salm 34:9

 

Ofn

Pwy sydd heb deimlo ofn rywbryd neu’i gilydd? Neb, mae’n debyg.

Gadewch inni weld sut mae’r Beibl yn trin y syniad o ofn.

Yn y Testament Newydd, y gair Groeg am ‘ofn’ yw ffobos. Y gair hwn sydd wrth wraidd y term ‘ffobia’, gair sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer ofn abnormal o rywfath. Yn yr Efengylau cawn hanes y disgyblion yn profi nid ffobia, efallai, ond yn sicr ofn dirfawr, a hwythau mewn cwch ar lyn Galilea, “Rhwng tri a chwech o’r gloch y bore daeth ef [sef lesu] atynt dan gerdded ar y môr. Pan welodd y disgyblion ef yn cerdded ar y môr, dychrynwyd hwy nes dweud, ‘Drychiolaeth yw’, a gweiddi gan ofn” (Mathew 14:25-26).

Dro arall, gall ofn ddynodi ansicrwydd, fel yn achos yr Apostol Paul wrth iddo ddisgrifio sut y daeth at y Corinthiaid, “Mewn gwendid ac ofn a chryndod mawr y bûm i yn eich plith” (1 Corinthiaid 2:3).

Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos fel y gall y Cristion brofi ofn fel pob person arall. Ond mewn rhai ffyrdd mae’r credadun yn cael ei gadw rhag ofn.

Felly, wrth ddisgrifio profiad y Cristion gall Paul yn ei lythyr at y Rhufeiniaid ddweud, “nid ysbryd caethiwed sydd unwaith eto’n peri ofn yr ydych wedi ei dderbyn, ond Ysbryd mabwysiad” (Rhufeiniaid 8:15). Mae hyn yn ein hatgoffa nad yw perthynas y Cristion a’i Dduw yn un sydd wedi’i nodweddu gan arswyd, gan fod Duw yn dad iddo.

Braint y credadun hefyd yw gwybod am bresenoldeb a gofal Duw drosto mewn amrywiol amgylchiadau, ac felly gall y Salmydd dystio, “Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf niwed” (Salm 23:4).

Y mae i ofn ei werth hefyd. Cysylltir ‘ofn’ yn y Beibl weithiau ag ufudd-dod, addoliad, parch ac anrhydedd; ‘parchedig ofn’, a defnyddio’r hen ymadrodd. Dyma eiriau Moses wrth ddisgrifio’r math ymateb a ddylai nodweddu pobl Israel, “Yn awr, O Israel, beth y mae’r ARGLWYDD dy Dduw yn ei ofyn gennyt? Dy fod yn ofni’r ARGLWYDD dy Dduw trwy rodio yn ei ffyrdd a’i garu, a gwasanaethu’r ARGLWYDD dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid” (Deuteronomium 10:12).

Yna yn y Testament Newydd fe welwn sut y gall ofn, yn yr ystyr o barch at ein Harglwydd, fod yn sbardun i fywyd sydd yn parchu eraill hefyd. Dyma, felly, gyngor yn y llythyr at yr Effesiaid, “byddwch ddarostyngedig i’ch gilydd, o barchedig ofn at Grist.” (Effesiaid 5:21)

Iwan Rhys Jones, ‘Ofn’, pennod allan o Geiriau Bywyd a gyhoeddwyd gan MEC yn 2017.