Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist?
Rhufeiniaid 8:35
Bod ar wahân
Wrth i’r cyfyngiadau ddechrau rhyddhau ychydig bach yma yng Nghymru mae gennym hawl i gwrdd yn yr awyr agored â phobl o un aelwyd arall, ac efallai bod y teimlad o arwahanrwydd yn dechrau lleihau. Dros y misoedd diwethaf mae’n siwr ein bod ni gyd wedi bod yn ymwybodol iawn o’r pellter rhyngom â theulu’r eglwys, teulu naturiol, ffrindiau a chydweithwyr. I lawer o’n brodyr a’n chwiorydd ar draws y byd y norm yw bod ar wahân i gredinwyr eraill. Cyn y sefyllfa bresennol, rydyn ni wedi cael ein bendithio â blynyddoedd heb gyfyngiadau arnom o gwbl, ac hyd yn oed ar hyn o bryd rydyn ni’n ddiolchgar am dechnoleg sy’n caniatau i ni gwrdd â’n gilydd yn rhithiol. Mae’r holl bethau hyn y tu hwnt i’n rheolaeth ni. Dyna fendith fawr yw geiriau Rhufeiniaid 8:35, “Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist?”
Cariad arhosol
Mae cariad pobl yn gallu bod yn fregus; gall y berthynas fwyaf sefydlog wynebu anawsterau a chyfnodau simsan (ac mae hyd yn oed y briodas fwyaf ‘perffaith’ yn y pendraw yn dod i ben mewn marwolaeth). Ond yng Nghrist mae gennym gariad digyfnewid a diysgog. Sut ydyn ni’n gwybod hyn? Roedd Duw yn barod i anfon ei fab i arddangos y cariad hwnnw (ad.32), a does dim unrhyw awdurdod dynol yn gallu newid hynny.
Cariad annibynnol
Dewisodd Duw ni cyn seilio’r byd (Effesiaid 1:4-5). Mae Duw yn ein hadnabod ni’n drylwyr (Salm 139). Mae E’n gwybod yn iawn am ein natur bechadurus ni. Dyw ei gariad Ef ddim yn dibynnu ar ein ymddygiad na’n gweithredoedd da ni. Ni allwn ni fyth haeddu ei gariad – mae Ei gariad yn hollol annibynnol ohonom ni. Dywed Ioan wrthym ni fod cariad Duw yn tarddu o’r hyn yw Duw, “oherwydd cariad yw Duw.” (1 Ioan 4:8). Pan fyddwn ni’n gwneud llanast llwyr o bethau ar adegau, dyna gysur mawr yw gwybod nad yw Duw yn gallu stopio ein caru ni!
Cariad y tu hwnt i amgylchiadau
Dydi cariad Duw ddim yn dibynnu ar ein hymddygiad ni ond dyw e ddim chwaith yn cael ei newid gan amgylchiadau. Dydi Duw ddim yn addo na fydd Cristnogion yn gorfod wynebu treialon a phroblemau. I’r gwrthwyneb, mae’r adran hon yn cymryd yn ganiataol y bydd pethau anodd o ryw fath yn dod ar ein traws ni gyd. Ond mae yma addewid; beth bynnag fydd y problemau (hyd yn oed os fyddwn ni’n wynebu cael ein merthyri er Ei fwyn), mae cariad Duw yn sylfaen gadarn y gallwn ni ddibynnu arno’n llwyr. Mae Paul yn rhestri nifer o anawsterau posibl all ddod ar ein traws, ac yna, rhag ofn ei fod wedi hepgor rhywbeth o’r rhestr, mae’n gorffen gyda “na dim arall a grewyd” (ad 39). Does dim un o’r pethau hyn yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw. Sut ydyn ni’n gallu bod yn hyderus yn hyn? Sut ydyn ni’n gwybod bod hyn yn wir? Mae Paul yn ein pwyntio ni nôl at Grist. Mewn adegau anodd a digalon, pan rydyn ni’n teimlo’n bell o Dduw, cawn ein hatgoffa bod cariad Duw yn fwy na’r amgylchiadau anoddaf posibl.
Mae Tirzah Jones yn aelod yn eglwys Malpas Road, Casnewydd