Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 15 Mehefin 2020

12 Mehefin 2020 | gan Meirion Thomas | Rhufeiniaid 5

“…y GRAS hwn yr ydym yn sefyll ynddo”

Rhufeiniaid 5:2

Mae cadwyn o aur pur yn Rhufeiniaid 5:1-5: ffydd, heddwch, gras, gorfoledd, cariad a gobaith. Ac mae dolenni’r gadwyn wedi’u cyd-sicrhau yn “ein Harglwydd Iesu Grist”. Gadewch i ni ffocysu ar un o’r dolenni gwerthfawr, GRAS. Pam mae gras mor rhyfeddol? Am ei fod yn anhygoel ac anhaeddiannol. Rhodd rad ac am ddim i rai sy’n cael eu disgrifio yn yr adnodau amgylchynol fel rhai dinerth, annuwiol, pechadurus a gelyniaethus. Dyna i chi grynodeb o’n natur ddynol drist, ein gogwydd parhaus a’n cyflwr ysbrydol gerbron Duw. I newid ein sefyllfa rhaid wrth ymyrraeth nerthol. Ni all dim byd llai na mewnlifiad o ras Duw ein newid. Ac fe ddaeth y rhodd hael trwy “…helaethrwydd gras yr un dyn, Iesu Grist” (adnod 15). Nid fel gwirionedd haniaethol neu athrawiaeth ddieithr y daw gras, ond mewn person go iawn. Pan ddaeth “y Gair yn gnawd” un o agweddau llachar ei ogoniant oedd y realiti ei fod, fel Mab unigryw Duw, “yn llawn gras a gwirionedd” (Ioan 1:14). Ac yna, yn adnod 16, cawn y datganiad rhyfeddol: “O’i gyflawnder ef yr ydym ni oll wedi derbyn gras ar ben gras.”

Agwedd arall ar ras Duw yn Iesu Grist yw ei gyflawnder helaeth a diderfyn. Mae’r geiriau sy’n cael eu defnyddio tua diwedd Pennod 5 yn drawiadol am eu bod yn disgrifio’r rhaeadr iachusol a bywiocaol hon fel “helaethrwydd o ras”. Mae pechod wedi dwyn barn a chondemniad arnom ac mae teyrnasiad marwolaeth gyda’i ymdeimlad o ddigalondid, gorthrwm a distryw yn cynyddu fwyfwy. Dim ond tywalltiad grymusach o ras all newid y sefyllfa’n gyfan gwbl. Mae dynamig a gallu gras yn gorfoleddu dros bechod ac anobaith. Yn ôl adnod 20, pan fo trosedd yn amlhau fe ddaw “gorlif helaethach o ras” – geiriau cysurlon sy’n mynegi curiad calon yr efengyl.

Mae’r bennod yn gorffen gyda’r geiriau “ac felly, fel y teyrnasodd pechod trwy farwolaeth, y mae gras i deyrnasu trwy gyfiawnder, gan ddwyn bywyd tragwyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd” (adnod 21). Mae gras sofran yn gorfoleddu ac yn llywodraethu’n fuddugoliaethus am dragwyddoldeb. Rydym ni i gyd yn unedig yn yr un gras digymar hwn am ei fod yn ein huno â’r Arglwydd ac â’n gilydd. Safwn gyda’n gilydd yn undod gras achubol, cynhaliol, perffeithiol a sancteiddiol ein Gwaredwr. Mae gras yn dechrau, yn parhau ac yn cwblhau holl waith Duw ym mhob un sy’n credu.

Mae byw dan helaethrwydd gras ein Harglwydd Iesu yn fraint na all cyfoeth ei phrynu. Nid oes gan ymdrech dynol, gweithgaredd, nac arferion crefyddol y fath allu gwaredigol a llawenydd sy’n bodloni. Mae cael gair o ras, gorsedd gras ac Ysbryd gras yn llifo’n uniongyrchol oddi wrth ein Harglwydd Iesu yn golygu’n bod yn byw’n wahanol. Mae sawl athro Beiblaidd wedi defnyddio’r ymadrodd “o wisg y bedd i wisg gras” i ddisgrifio’r newid rhyfeddol sy’n digwydd yn ein bywyd wrth ddod yn Gristnogion. Mwynhewch heddiw y digonolrwydd, y sicrwydd a’r nerth sydd o sefyll yng ngras ein Harglwydd Iesu. Ymrowch o ddydd i ddydd i dyfu mewn gras. Canwch yn ddiolchgar emyn enwog John Newton, Amazing Grace, yn y Saesneg neu yng nghyfieithiad Gareth Jones (Llanbed):

O ryfedd ras, mor wych yw’r sain,
I adyn fel myfi;
Ar goll y bûm, ond nawr fe’m caed,
Er dall, nawr gwelaf fi.
 
Os gras a ddysgodd imi ofn,
Trwy ras o’m hofn rwy’n rhydd;
Mor werthfawr yr ymrithiodd gras
Yr awr y cefais ffydd.
 
Er maith beryglon, maglau, gwaith,
Ces ddyfod trwy’r holl lu;
Ie, gras a’m cadwodd hyd y daith,
A gras a’m dwg i’r tŷ.
 
Pan fyddom yno ddengmil blwydd
A’n llewyrch fel yr haul,
Bydd dyddiau canu clod i Dduw
Heb ddiwedd byth, na thraul.

 

Meirion R. Thomas​, Malpas Road