Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 12 Mehefin 2020

10 Mehefin 2020 | gan Bill Hughes | Eseia 30

Er hynny, y mae’r ARGLWYDD yn disgwyl i gael trugarhau wrthych

Eseia 30:18

 

Bore da bawb.

Hoffwn rannu gyda chi heddiw rai myfyrdodau am Siomedigaethau a Darganfyddiadau.

Yn Actau 16, wedi i ni ddarllen am y pethau rhyfeddol wnaeth Duw yn Lystra ac Iconium down at yr adran sydd yn sôn am eiddgarwch Paul a’i gyfeillion i bregethu’r efengyl yn Asia. Ond cawsant eu rhwystro. Yna rhoddodd Paul ei fryd ar fynd i Bithynia. Ond unwaith eto, er na wyddom sut ddaeth y neges i Paul, dywed ef yn eglur na chaniatawyd iddo fynd yno gan Dduw. Felly, gyda’i gynlluniau wedi’u difetha, hawdd yw dychmygu’r siom a deimlai am na chafodd gyflawni’r hyn oedd ar ei galon.

Oni wyddom yn iawn am freuddwydion a chwalwyd a dyheadau a ddifethwyd neu na chawsant eu gwireddu? Hwyrach mai uchelgais plentynnaidd i fod yn beldroediwr, yn feddyg neu’n dywysoges oedd gennym. Yn ein harddegau hwyrach i ni roi’n bryd ar ennill gradd dosbarth cyntaf neu ddilyn gyrfa fel dawnsiwr bale neu fel peilot awyrennau ac yna darganfod nad oedd gobaith gwireddu’r freuddwyd wedi’r cwbl. Hwyrach ein bod wedi’n siomi’n ofnadwy o ddarganfod nad oedd dyfodol i berthynas ramantaidd gyda rhywun roeddem wedi gwirioni’n llwyr arnynt.  O’r fath siomedigaethau!

I rai bydd hiraeth a syched am gariad gyda nhw ar hyd eu bywydau. Nid breuddwydio am enwogrwydd neu gyfoeth oeddent. Yn syml, dymuniad eu calon erioed oedd cael priodi ond cael eu gwrthod a’u siomi oedd eu hanes. I rai parau priod wedyn daw’r siom a thorcalon o fethu cael plant wedi iddynt hiraethu am brofi’r llawenydd o fod yn rhieni am flynyddoedd.

Mynega’r emynydd J Edward Williams y profiad yn y cwpled: “Ymhob ystorom, siom a loes, Pan lifo’r dagrau’n lli.”

Ar lwybrau bywyd cawn sawl siomedigaeth pan brofwn, fel Paul, hiraeth am ein Bythinia ni. Nid siawns na ffawd ond Duw sydd yn cau’r drws. Ynghanol y siomedigaeth poenus, mor anodd oedd i ni weld a derbyn mai llaw Duw oedd yn cau’r drws.

Gall ei siomedigaethau Ef fod yn amrywio o berson i berson ond pan mae Duw yn cau’r drws bydd wastad ganddo reswm da i wneud hynny. Dim ond yn ddiweddarach welodd Paul pam fod y drws wedi ei gau. Roedd gan Dduw gynlluniau eraill i Paul a’i gyfeillion – ddaeth i’r amlwg gyda’r alwad ryfeddol i fynd draw i Facedonia. Yn dilyn yr alwad honno cychwynnodd y criw ar eu hunion ar fordaith arweiniodd i ganlyniadau y tu hwnt i’w dychymyg. Mae hen ddywediad Saesneg sydd yn dweud y gall drws mawr agor er ei fod yn hongian ar golynnau bychain iawn. Roedd dyfodol cyfandir cyfan a gweddill y byd yn dibynnu ar yr un cwch bychan yma gychwynnodd ar ei fordaith i Facedonia. Dwi’n amau dim fod Paul wedi edrych yn ôl ar y cyfnod dryslyd yma a diolch i Dduw wrth sylweddoli mai ei law Ef gaeodd sawl drws cyn agor yr un hollbwysig yma. Mae’n bosib na fyddai erioed wedi clywed y cri o Facedonia petai wedi mynd i Fythinia.

Un o fy hoff adnodau yw Eseia 30:18 “Er hynny, y mae’r Arglwydd yn disgwyl i gael trugarhau wrthych.”

Ysgwn i faint ohonom sydd wedi darganfod y gwirionedd yma ac wedi byw i ddiolch i Dduw am wneud i ni ddisgwyl!

Bydd y siomedigaethau ddaw i’n rhan yn ystod ein bywydau yn teimlo’n real iawn a bydd y boen a ddaw yn eu sgil hefyd yn real iawn. Gall ein gobeithion gael eu chwalu, chaiff ein breuddwydion am wasanaethu fel Cristion mewn maes arbennig mo’u gwireddu; chawn ni ddim yr atebion roeddem yn eu dymuno i weddïau.

Ond fydd Duw ddim yn gwneud camgymeriadau. Gall droi ein siomedigaethau yn ddarganfyddiadau rhyfeddol a’n methiannau presennol yn fuddugoliaethau’r dyfodol. Ar brydiau mae angen i ni, fel Paul, blygu o flaen Duw a diolch am ei ragluniaeth rhyfeddol. Mae angen i ni ddweud gyda’r dyrfa wrth fôr Galilea “Da y gwnaeth ef bob peth” (Marc 7:37) er i ni efallai gael trafferth mawr i ddeall a derbyn beth sydd yn digwydd ar y pryd. Gall ein Bythinia ni fod yn Facedonia Duw.

Weithiau fyddwn ni ddim yn gweld y darlun llawn nac yn gwneud y darganfyddiadau hyn tra yn y byd yma, ond pan fyddwn yn cyrraedd “Y peraidd dir hyfrydlon, Yr ardal euraid dirion” fel y disgrifia Pantycelyn byddwn yn darganfod popeth fu’n guddiedig. Yn y nefoedd byddwn yn gweld yn glir resymau’n Duw am bob siomedigaeth ac yn medru dweud gyda’r salmydd: “Y Duw hwn, y mae’n berffaith ei ffordd” (Salm 18:30).

Yng Nghrist,

Bill Hughes