50 – Bradychu a Gadael
Marc 14:43-52
Ac yna, tra oedd yn dal i siarad, dyma Jwdas, un o’r Deuddeg, yn cyrraedd, a chydag ef dyrfa yn dwyn cleddyfau a phastynau, wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid. Yr oedd ei fradychwr wedi rhoi arwydd iddynt gan ddweud, “Yr un a gusanaf yw’r dyn; daliwch ef a mynd ag ef ymaith yn ddiogel.” Ac yn union wedi cyrraedd, aeth ato ef a dweud, “Rabbi,” a chusanodd ef. Rhoesant hwythau eu dwylo arno a’i ddal. Tynnodd rhywun o blith y rhai oedd yn sefyll gerllaw gleddyf, a thrawodd was yr archoffeiriad a thorri ei glust i ffwrdd. A dywedodd Iesu wrthynt, “Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan i’m dal i? Yr oeddwn gyda chwi beunydd, yn dysgu yn y deml, ac ni ddaliasoch fi. Ond cyflawner yr Ysgrythurau.” A gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi. Ac yr oedd rhyw lanc yn ei ganlyn ef, yn gwisgo darn o liain dros ei gorff noeth. Cydiasant ynddo ef, ond dihangodd, gan adael y lliain a ffoi’n noeth.
Geiriau Anodd
- Pastynau: Darnau o bren.
- Beunydd: Bob dydd.
- Llanc: Dyn ifanc.
Cwestiwn 1
Ydych chi erioed wedi cael eich brifo gan rywun oedd yn dweud ei fod yn ffrind i chi?
Cwestiwn 2
Oes gennych chi unrhyw syniad pwy oedd y llanc a ddihangodd yn noeth?
Mae’n un peth pan ydym ni’n cael ein brifo gan bobl sy’n galw eu hunain yn elynion i ni, ond mae’n beth llawer gwaeth i gael ein bradychu gan un o’n ffrindiau agosaf. Ond dyna’n union sy’n digwydd i Iesu.
Mae Jwdas, un o’r disgyblion, un o’r rhai oedd yn adnabod Iesu orau, yn dod gyda milwyr er mwyn ei arestio. Rhag ofn nad yw’r milwyr yn adnabod Iesu, ac er mwyn ceisio osgoi ei wneud yn rhy amlwg beth roedd e’n ei wneud, mae Jwdas wedi trefnu ffordd o ddangos iddyn nhw pwy oedd Iesu. Fel rhyw fath o jôc creulon, yr arwydd fyddai cusan! Mae’r peth mor haerllug; mae Jwdas yn defnyddio arwydd o serch a chariad er mwyn bradychu’r Arglwydd oedd yn haeddu dim ond ei gariad.
Wrth iddyn nhw ddal Iesu, dydy’r disgyblion ddim yn gwybod beth i’w wneud. Rydym ni’n dysgu mewn man arall mai Pedr a dorrodd glust gwas yr archoffeiriad. Mae’n siŵr ei fod yn awyddus i brofi i Iesu nad oedd yn mynd i’w adael. Ond dyna sy’n digwydd. Mae pob un ohonyn nhw’n rhedeg i ffwrdd ac yn gadael eu Brenin. Mae Marc yn sôn am berson dienw arall oedd yn dilyn Iesu, oedd yn gorfod gadael ei ddillad er mwyn dianc. Allwn ni ddim fod yn sicr, ond mae’n bosibl iawn mae cyfeirio ato ei hunan mae Marc fan hyn, ond bod gormod o gywilydd ganddo i gyfaddef hynny.
Wrth i ni ddarllen yr hanes trist hwn, mae’n rhwydd iawn i ni fod yn feirniadol o’r disgyblion unwaith yn rhagor. Ond mae’n bwysig nad ydyn ni’n ein twyllo ein hunain. Petaen ni wedi bod yno, a fydden ni wedi ymddwyn yn wahanol?
Ond dyma sut roedd rhaid i bethau ddigwydd. Gwrandewch ar eiriau Iesu eto. Mae’n deall ac yn disgwyl yr hyn sy’n digwydd. Mae bron yn awgrymu nad oedd angen iddyn nhw fynd i’r fath drafferth. Er mwyn marw roedd e wedi dod i’r byd yn y lle cyntaf.
Cwestiwn 3
Pam ydych chi’n meddwl y daeth cymaint o bobl gydag arfau er mwyn arestio un dyn?
Cwestiwn 4
Ym mha ffyrdd ydyn ni weithiau yn gallu bod â chywilydd o Iesu? Pam nad oes angen i ni deimlo fel hyn?
Gweddïwch
am nerth i fod yn barod i farw dros Iesu, a diolchwch iddo na fydd e fyth yn eich bradychu chi.