48 – Dathlu’r Pasg
Marc 14:12-26
Ar ddydd cyntaf gŵyl y Bara Croyw, pan leddid oen y Pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, “I ble yr wyt ti am inni fynd i baratoi i ti, i fwyta gwledd y Pasg?” Ac anfonodd ddau o’i ddisgyblion, ac meddai wrthynt, “Ewch i’r ddinas, ac fe ddaw dyn i’ch cyfarfod, yn cario stenaid o ddŵr. Dilynwch ef, a dywedwch wrth ŵr y tŷ lle’r â i mewn, ‘Y mae’r Athro’n gofyn, “Ble mae f’ystafell, lle yr wyf i fwyta gwledd y Pasg gyda’m disgyblion?”‘ Ac fe ddengys ef i chwi oruwchystafell fawr wedi ei threfnu’n barod; yno paratowch i ni.” Aeth y disgyblion ymaith, a daethant i’r ddinas a chael fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt, a pharatoesant wledd y Pasg. Gyda’r nos daeth yno gyda’r Deuddeg. Ac fel yr oeddent wrth y bwrdd yn bwyta, dywedodd Iesu, “Yn wir, rwy’n dweud wrthych y bydd i un ohonoch fy mradychu i, un sy’n bwyta gyda mi.” Dechreusant dristáu a dweud wrtho y naill ar ôl y llall, “Nid myfi?” Dywedodd yntau wrthynt, “Un o’r Deuddeg, un sy’n gwlychu ei fara gyda mi yn y ddysgl. Y mae Mab y Dyn yn wir yn ymadael, fel y mae’n ysgrifenedig amdano, ond gwae’r dyn hwnnw y bradychir Mab y Dyn ganddo! Da fuasai i’r dyn hwnnw petai heb ei eni.” Ac wrth iddynt fwyta, cymerodd fara, ac wedi bendithio fe’i torrodd a’i roi iddynt, a dweud, “Cymerwch; hwn yw fy nghorff.” A chymerodd gwpan, ac wedi diolch fe’i rhoddodd iddynt, ac yfodd pawb ohono. A dywedodd wrthynt, “Hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, sy’n cael ei dywallt er mwyn llawer. Yn wir, rwy’n dweud wrthych nad yfaf byth mwy o ffrwyth y winwydden hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.” Ac wedi iddynt ganu emyn, aethant allan i Fynydd yr Olewydd.
Geiriau Anodd
- Lleddid: Cael ei ladd.
- Stenaid: Llond llestr mawr.
- Goruwchystafell: Ystafell Ian llofft.
- Cyfamod: Cytundeb.
Cwestiwn 1
Ydych chi’n meddwl roedd e’n beth da fod y disgyblion yn eu hamau eu hunain?
Cwestiwn 2
Pam ydych chi’n meddwl fod Iesu yn defnyddio bara a gwin fel darlun o’r ffordd roedd yn rhoi ei gorff a’i waed er mwyn ei bobl?
Y peth diwethaf a welson ni oedd Jwdas yn gadael Iesu a’r disgyblion, yn troi ei gefn ar y bobl oedd wedi bod fel teulu iddo ers tair blynedd, ac yn chwilio am ffordd i fradychu Iesu. Yn ei galon roedd wedi gwadu’r cwbl, er ar y tu allan roedd yn dal i edrych fel un o ddilynwyr Iesu. Ac eto, wrth ddarllen y geiriau yma, does dim amheuaeth pwy sy’n rheoli’r sefyllfa.
Rydyn ni’n gweld gwybodaeth a gallu Iesu yn y ffordd mae’n trefnu rhywle iddyn nhw ddathlu’r Pasg gyda’i gilydd. Yn hytrach nag anfon y disgyblion i ddod o hyd i rywle, mae’n gwybod y byddan nhw’n gallu dilyn dyn dieithr i’r man cywir. Yna, wrth iddyn nhw fwyta gyda’i gilydd, mae Iesu yn dangos ei fod yn gwybod yn iawn fod un ohonyn nhw yn mynd i’w fradychu. Doedd cynllwynion Jwdas ddim wedi eu cuddio rhag Iesu, nac yn syndod iddo o gwbl. Roedd hyn i gyd yn gorfod digwydd. Dyma’r ffordd roedd Duw wedi ei threfnu o’r dechrau, y ffordd roedd y proffwydi wedi dweud amdani ganrifoedd yn gynt.
Roedd yr Iddewon yn lladd oen fel aberth er mwyn cofio’r Pasg cyntaf pan wnaeth Dduw eu hachub o fod yn gaethweision yn yr Aifft. Cosbodd Duw wlad yr Aifft drwy ladd mab hynaf pob teulu, ond gwnaeth gytundeb i arbed unrhyw dŷ oedd wedi lladd oen a rhoi’r gwaed yn arwydd ar y drws. Yn awr, wrth wynebu ei farwolaeth, mae Iesu yn gwneud cytundeb newydd â’i bobl. Mae’n cymryd bara a gwin, ac yn dweud fod ei gorff yn mynd i gael ei dorri fel y bara, a’i waed yn mynd i gael ei dywallt fel y gwin. Y rheswm roedd e’n gwneud y pethau hyn oedd dros bobl eraill. Yn union fel y Pasg cyntaf pan laddwyd oen er mwyn achub pobl Dduw a’u rhyddhau o’r Aifft, roedd Iesu ar fin marw yn lle pechaduriaid er mwyn eu rhyddhau o gaethiwed a chosb pechod. Y cyfan y mae’n rhaid i ni ei wneud yw credu bod aberth Iesu yn ddigon da a bydd ei waed yn ein glanhau ni o’n holl beiau.
Cwestiwn 3
Wrth feddwl am y ffaith mai un o’r Deuddeg a fradychodd Iesu, sut ddylai hynny wneud i ni deimlo?
Cwestiwn 4
Ym mha ffyrdd mae aberth Iesu yn fwy gwerthfawr na lladd oen?
Gweddïwch
gan ddiolch i’r Arglwydd Iesu am roi ei fywyd er mwyn achub ei bobl.