Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gwneud Marc 47 – Haelioni ac Ariangarwch

27 Mai 2020 | gan Emyr James | Marc 14

47 – Haelioni ac Ariangarwch

Marc 14:1-11

Yr oedd y Pasg a gŵyl y Bara Croyw ymhen deuddydd. Ac yr oedd y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion yn ceisio modd i’w ddal trwy ddichell, a’i ladd. Oherwydd dweud yr oeddent, “Nid yn ystod yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.” A phan oedd ef ym Methania, wrth bryd bwyd yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, daeth gwraig a chanddi ffiol alabastr o ennaint drudfawr, nard pur; torrodd y ffiol a thywalltodd yr ennaint ar ei ben ef. Ac yr oedd rhai yn ddig ac yn dweud wrth ei gilydd, “I ba beth y bu’r gwastraff hwn ar yr ennaint? Oherwydd gallesid gwerthu’r ennaint hwn am fwy na thri chant o ddarnau arian a’i roi i’r tlodion.” Ac yr oeddent yn ei cheryddu. Ond dywedodd Iesu, “Gadewch iddi; pam yr ydych yn ei phoeni? Gweithred brydferth a wnaeth hi i mi. Y mae’r tlodion gyda chwi bob amser, a gallwch wneud cymwynas â hwy pa bryd bynnag y mynnwch; ond ni fyddaf fi gyda chwi bob amser. A allodd hi, fe’i gwnaeth; achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y gladdedigaeth. Yn wir, rwy’n dweud wrthych, pa le bynnag y pregethir yr Efengyl yn yr holl fyd, adroddir hefyd yr hyn a wnaeth hon, er cof amdani.” Yna aeth Jwdas Iscariot, hwnnw oedd yn un o’r Deuddeg, at y prif offeiriaid i’w fradychu ef iddynt. Pan glywsant, yr oeddent yn llawen, ac addawsant roi arian iddo. A dechreuodd geisio cyfle i’w fradychu ef.

Geiriau Anodd

  • Gŵyl y Bara Croyw: Yn dilyn y Pasg roedd yr Iddewon yn dathlu wythnos pan nad oeddwn nhw’n bwyta bara oedd yn cynnwys lefain, er cof am y ffordd adawson nhw’r Aifft heb amser i bobi bara gyda lefain.
  • Dichell: Twyll.
  • Ffiol alabastr o ennaint drudfawr, nard pur: Llestr o bersawr drud iawn fyddai’n cael ei ddefnyddio i baratoi corff ar gyfer ei gladdu.
  • Achubodd y blaen: Blaenori neu rhagflaenu.

Cwestiwn 1

Beth ydych chi’n meddwl o’r hyn wnaeth y wraig?

Cwestiwn 2

Sut mae ei hagwedd hi yn wahanol i agwedd Jwdas?

  Mae amser yn mynd yn brin. Deuddydd sydd i fynd tan y Pasg. Dau ddiwrnod cyn i Iesu wynebu’r profiad mwyaf erchyll posibl ac aberthu ei fywyd drosom ni ar y groes – yr aberth mwyaf gwerthfawr erioed. Ac yn y cyfnod hwn rydyn ni’n derbyn dwy esiampl o beth oedd gwerth Iesu Grist yng ngolwg pobl.

  Yr enghraifft gyntaf yw’r wraig sy’n dod ato â ffiol o bersawr tra oedd yn bwyta. Mae hi’n cymryd yr hylif drud hwn ac yn ei dywallt dros ei Brenin, gan lenwi’r stafell ag arogl hyfryd. Roedd y weithred hon yn dangos cariad a pharch mawr at Iesu, ac yn awgrymu ei bod hi’n deall mewn ffordd fod Iesu yn mynd i farw dros bobl fel hi. Beth sy’n gwneud yr holl beth yn fwy rhyfeddol fyth yw ein bod yn dysgu bod yr ennaint hwn yn costio o leia’r un faint â blwyddyn o gyflog. Doedd hi ddim yn petruso gwneud hyn dros Iesu – roedd hi’n ei weld ef yn fwy gwerthfawr nag unrhyw un arall, ac yn haeddu’r gorau y gallai ei gynnig.

  Mor wahanol yw agwedd eraill oedd yn bresennol. Dydyn nhw ddim yn gallu deall pam y mae’r fenyw wedi gwneud hyn yn hytrach na rhoi’r arian at y tlodion. Maen nhw’n ei weld yn wastraff ac yn gamddefnydd llwyr o’r arian. Yn wir, ar ôl y digwyddiad hwn mae Jwdas yn mynd ac yn ei fradychu. Rydyn ni’n clywed mewn man arall yn y Testament Newydd mai Jwdas oedd yn gyfrifol am edrych ar ôl arian y disgyblion a’i fod yn dwyn peth o’r arian. Efallai mai gweld ‘gwastraff’ yr ennaint drud hwn a achosodd iddo fradychu Iesu yn gyfnewid am arian. Y cyfan roedd e’n ei weld yn Iesu oedd cyfle i’w wneud ei hunan yn gyfoethog ac yn bwysig, mewn unrhyw ffordd posibl.

  Rhaid bod yn ofalus gyda’r geiriau hyn. Mae’n bwysig iawn ein bod yn gyfrifol wrth drin yr arian mae Duw wedi ei roi i ni a pheidio â’i wastraffu. Roedd hon yn sefyllfa arbennig, gyda Iesu yn eu plith. Ond yn awr ei fod wedi gadael y ddaear, mae’n bwysig ein bod ni yn dilyn esiampl y wraig, gan geisio ei ogoneddu drwy sicrhau ein bod yn rhoi’r gorau sydd gennym i Iesu ac edrych ar ôl ein brodyr a chwiorydd sydd mewn angen.

Cwestiwn 3

Pam ydych chi’n meddwl y gwnaeth y wraig ymddwyn fel hyn?

Cwestiwn 4

Oes gennych chi rywbeth gwerthfawr? Fyddech chi’n fodlon ei aberthu dros Iesu pe bai angen?

Gweddïwch

am ryddid i fod yn hael gyda’ch holl eiddo, gan ogoneddu Duw a gofalu am bobl sydd mewn angen.