46 – Diwedd Amser
Marc 13:24-37
“Ond yn y dyddiau hynny, ar ôl y gorthrymder hwnnw, ‘Tywyllir yr haul, ni rydd y lloer ei llewyrch, syrth y sêr o’r nef, ac ysgydwir y nerthoedd sydd yn y nefoedd.’ A’r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod yn y cymylau gyda nerth mawr a gogoniant. Ac yna’r anfona ei angylion a chynnull ei etholedigion o’r pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd at eithaf y nef. “Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd ei gangen yn ir ac yn dechrau deilio, gwyddoch fod yr haf yn agos. Felly chwithau, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod ei fod yn agos, wrth y drws. Yn wir, rwy’n dweud wrthych, nid â’r genhedlaeth hon heibio nes i’r holl bethau hyn ddigwydd. Y nef a’r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim. “Ond am y dydd hwnnw neu’r awr ni ŵyr neb, na’r angylion yn y nef, na’r Mab, neb ond y Tad. Gwyliwch, byddwch effro; oherwydd ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser. Y mae fel dyn a aeth oddi cartref, gan adael ei dŷ a rhoi awdurdod i’w weision, i bob un ei waith, a gorchymyn i’r porthor wylio. Byddwch wyliadwrus gan hynny — oherwydd ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, ai gyda’r hwyr, ai ar hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore — rhag ofn iddo ddod yn ddisymwth a’ch cael chwi’n cysgu. A’r hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych chwi, yr wyf yn ei ddweud wrth bawb: byddwch wyliadwrus.”
Geiriau Anodd
- Porthor: Dyn sy’n gwylio’r drws.
Cwestiwn 1
Pam y mae Iesu yn dweud fod arwyddion, os nad ydyn ni’n gallu gwybod pryd bydd y diwedd yn dod?
Cwestiwn 2
Sut mae’r disgrifiad o ailddyfodiad Iesu yn ei holl ogoniant yn gwneud i chi deimlo?
Mae Iesu yn symud ymlaen nawr i ddweud beth fydd yn digwydd ar ddiwedd amser. Dydyn ni ddim yn sicr pa mor hir fydd y cyfnod o ddioddef, rhyfela a rhannu’r Efengyl yn para. Mae Iesu ei hun yn cyfaddef mai dim ond Duw’r Tad sy’n gwybod pryd fydd dydd y farn. Nid bwriad geiriau Iesu yma yw i’n helpu ni i weithio allan pryd yn union mae e’n mynd i ddychwelyd i’r byd. Yr hyn mae’n ei ddymuno yw ein bod ni’n byw mewn ffordd sy’n dangos ein bod ni bob amser yn barod.
Mae’r disgrifiad o Iesu Grist yn dod nôl i’r byd yn un brawychus. Bydd y pethau mwyaf rydyn ni’n gallu eu gweld – yr haul, y lleuad a’r sêr – yn mynd yn dywyll ac yn cwympo. Bydd Iesu ei hun yn dod gyda llawer o angylion a bydd y byd i gyd yn ei weld yn ei holl bŵer; Brenin y bydysawd yn ei holl ogoniant. Ac eto, er eu bod yn codi ofn arnom mewn un ffordd, mae’r geiriau hyn yn hynod o gyffrous i’r Cristion. Dyma pryd y bydd Iesu’n dod i gasglu ei holl bobl at ei gilydd, i’w tynnu nhw allan o ddioddef a thywyllwch y byd. Dyma’r dydd pan fydd pob peth drwg ac anghyfiawn yn cael ei gosbi a phan fydd y greadigaeth newydd, teyrnas Dduw, yn dod yn llawn. Mae’r hen nefoedd a’r hen ddaear yn mynd a rhai newydd yn cael eu creu lle y byddwn ni’n cael byw gyda Duw am byth.
Fel y nodwyd ddoe, mewn un ystyr mae’r holl arwyddion roedd Iesu yn sôn amdanynt wedi digwydd yn barod, ac mae rhai yn dal i ddigwydd heddiw. Gwrandewch felly ar rybudd Iesu – dydyn ni ddim yn gwybod pryd yn union mae’n mynd i ddod, ac felly mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn barod ac yn disgwyl amdano i’w groesawu.
Cwestiwn 3
Ym mha ffyrdd gallwn ni fod yn wyliadwrus?
Cwestiwn 4
Petaech chi’n gwybod pryd byddai’r diwedd yn dod, sut byddai hynny’n newid y ffordd rydych chi’n byw?
Gweddïwch
am nerth i gario ymlaen hyd y diwedd, ac y bydd pobl yn troi at Iesu cyn bod y diwedd yn dod.