Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gwneud Marc 41 – Yr Atgyfodiad

20 Mai 2020 | gan Emyr James | Marc 12

41 – Yr Atgyfodiad

Marc 12:18-27

Daeth ato Sadwceaid, y bobl sy’n dweud nad oes dim atgyfodiad, a dechreusant ei holi. “Athro,” meddent, “ysgrifennodd Moses ar ein cyfer, ‘Os bydd rhywun farw, a gadael gwraig, ond heb adael plentyn, y mae ei frawd i gymryd y wraig ac i godi plant i’w frawd.’ Yr oedd saith o frodyr. Cymerodd y cyntaf wraig, a phan fu ef farw ni adawodd blant. A chymerodd yr ail hi, a bu farw heb adael plant; a’r trydydd yr un modd. Ac ni adawodd yr un o’r saith blant. Yn olaf oll bu farw’r wraig hithau. Yn yr atgyfodiad, pan atgyfodant, gwraig prun ohonynt fydd hi? Oherwydd cafodd y saith hi’n wraig.” Meddai Iesu wrthynt, “Onid dyma achos eich cyfeiliorni, eich bod heb ddeall na’r Ysgrythurau na gallu Duw? Oherwydd pan atgyfodant oddi wrth y meirw, ni phriodant ac ni phriodir hwy; y maent fel angylion yn y nefoedd. Ond ynglŷn â bod y meirw yn codi, onid ydych wedi darllen yn llyfr Moses, yn hanes y Berth, sut y dywedodd Duw wrtho, ‘Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf’? Nid Duw’r meirw yw ef, ond y rhai byw. Yr ydych ymhell ar gyfeiliorn.”

Geiriau Anodd

  • Sadwceaid: Grŵp o Iddewon crefyddol.
  • Cyfeiliorni: Crwydro oddi wrth y gwirionedd.
  • Ysgrythurau: Gair Duw wedi ei gofnodi gan ddynion.

Cwestiwn 1

Beth nad yw’r Sadwceaid wedi ei ddeall?

Cwestiwn 2

Beth mae Iesu yn ei olygu pan mae’n dweud fod Duw yn Dduw nid i rai marw ond i rai byw?

  Dyma grŵp arall o bobl yn dod nawr i geisio twyllo Iesu. Doedd y Sadwceaid ddim yn credu fod Duw yn mynd i ddod â’i bobl nôl yn fyw ryw ddydd, ac felly maen nhw’n dod â phos i weld os yw Iesu yn gallu ei ddatrys. Maen nhw’n gobeithio dangos fod y syniad o atgyfodiad y meirw yn un twp.

  Y drefn ar y pryd oedd, petai gŵr yn marw heb gael plant, byddai ei frawd neu berthynas agos yn cymryd y wraig er mwyn cael etifeddion iddo. Felly mae’r Sadwceaid yn dychmygu sefyllfa lle mae dyn â saith brawd yn priodi gwraig ac yn marw cyn cael plant. Mae brawd y dyn yn ei chymryd hi yn wraig, ond mae ef hefyd yn marw cyn cael plant. Mae’r un peth yn digwydd nes bod yr holl frodyr wedi marw, ac yna mae’r wraig ei hun yn marw. Wrth gwrs, dydy sefyllfa fel hyn ddim yn debygol o ddigwydd. Ond cwestiwn y Sadwceaid yw, petai hynny’n digwydd, gwraig i bwy fydd hi yn yr atgyfodiad?

  Mae Iesu yn rhoi dau ateb iddynt. Yn gyntaf mae’n delio â’r pos. Dydy eu cwestiwn ddim yn gwneud synnwyr, oherwydd dydyn nhw ddim wedi deall beth mae’r gyfraith yn ei ddweud. Mae priodas yn gytundeb rhwng gŵr a gwraig sy’n cael ei dorri pan mae un ohonynt yn marw – mae’n rhaid bod hynny yn wir, neu byddai unrhyw un oedd yn priodi eto yn godinebu. Dydy priodas ddim yn ymestyn y tu hwnt i’r bedd, ac felly yn yr atgyfodiad fydd y fath yna o berthynas ddim yn bodoli, yn union fel yr angylion.

  Ond dydy Iesu ddim yn gadael y peth yno. Mae eisiau iddyn nhw sylweddoli nid yn unig nad yw eu pos nhw yn broblem, ond fod yr atgyfodiad yn wirionedd. Mae’n eu hatgoffa o eiriau Duw i Moses, pan ddywedodd, “Fi yw Duw Abraham, Isaac a Jacob.” Er bod y dynion hyn wedi marw ers canrifoedd, mae’n Dduw iddyn nhw nawr! Does gan y crediniwr ddim byd i’w ofni gan farwolaeth, oherwydd mae ganddo sicrwydd o fywyd tragwyddol gyda Duw. Mae Iesu eisiau i bawb sylweddoli nad marwolaeth yw diwedd y stori, a bod angen deall y bydd Duw yn atgyfodi pawb ryw ddydd, er mwyn rhoi cyfrif iddo am y ffordd maen nhw wedi byw.

Cwestiwn 3

Sut mae credu yn yr atgyfodiad yn help i ni o ddydd i ddydd?

Cwestiwn 4

Ymateb Iesu yn aml iawn i’r arweinwyr crefyddol yw eu bod nhw heb ddeall yr Ysgrythur. Beth ddylai ein hymateb ni fod wrth glywed hyn?

Gweddïwch

y bydd Duw yn eich galluogi chi i ddeall gwir ystyr y Beibl.