Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gwneud Marc 40 – Talu Dyled

15 Mai 2020 | gan Emyr James | Marc 12

40 – Talu Dyled

Marc 12:13-17

Anfonwyd ato rai o’r Phariseaid ac o’r Herodianiaid i’w faglu ar air. Daethant, ac meddent wrtho, “Athro, gwyddom dy fod yn ddiffuant, ac na waeth gennyt am neb; yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb, ac yn dysgu ffordd Duw yn gwbl ddiffuant. A yw’n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw? A ydym i dalu, neu beidio â thalu?” Deallodd yntau eu rhagrith, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf? Dewch â darn arian yma, imi gael golwg arno.” A daethant ag un, ac meddai ef wrthynt, “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?” Dywedasant hwythau wrtho, “Cesar.” A dywedodd Iesu wrthynt, “Talwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” Ac yr oeddent yn rhyfeddu ato.

Geiriau Anodd

  • Diffuant: Heb dwyll na ragrith.
  • Di-dderbyn-wyneb: Yn trin pawb yn yr un ffordd.
  • Cesar: Pennaeth yr Ymerodraeth Rhufeinig.
  • Arysgrif: Ysgrifen.

Cwestiwn 1

Pam y mae pobl yn gorfod talu trethi? Beth mae’n ei ddangos?

Cwestiwn 2

Beth ydych chi’n meddwl mae Duw yn haeddu ei dderbyn gennym ni?

  Dychmygwch sut roedd Iesu yn teimlo wrth i’r arweinwyr crefyddol ddod nôl ato unwaith eto. Roedd ef mor amyneddgar wrth iddyn nhw ddychwelyd dro ar ôl tro, er mwyn rhoi prawf arno. Fel paffiwr sy’n cael ei guro bob rownd ond sy’n gwrthod rhoi’r gorau iddi, maen nhw’n ymosod unwaith yn rhagor. Wedi cael amser i feddwl, dyma nhw’n credu eu bod wedi dod o hyd i ffordd i’w dwyllo.

  I ddechrau dyma nhw’n rhoi canmoliaeth fawr iddo. Rhag ofn iddo osgoi ateb y cwestiwn, dyma nhw’n pwysleisio’r ffaith ei fod yn dysgu ewyllys Duw yn hollol onest, heb unrhyw ots beth oedd pobl yn meddwl amdano. Yna, dyma nhw’n codi pwnc dadleuol iawn, sef a oedd hi’n iawn i bobl Dduw dalu trethi i Gesar? Roedd y Rhufeiniaid yn gofyn am arian gan bawb oedd dan eu hawdurdod, ac yn amlwg doedd yr Iddewon ddim eisiau cydnabod yr awdurdod hwnnw. Felly mae Iesu yn cael ei roi mewn sefyllfa anodd unwaith eto. Os yw e’n dweud fod angen talu treth i Gesar, yna bydd y bobl yn troi cefn arno am beidio â sefyll lan i’w gelynion Rhufeinig. Ond petai e’n dweud bod dim angen talu’r dreth, byddai modd ei gyhuddo o wrthryfel yn erbyn Rhufain.

  Er bod Iesu yn gwybod beth sydd yn eu calonnau, mae yn rhoi ateb iddynt, ond nid y math o ateb roedden nhw’n ei ddisgwyl. Mae’n gofyn am gael gweld un o’r darnau arian ac yn tynnu eu sylw at y ffaith mai llun a stamp Cesar oedd arno – Cesar oedd perchen yr arian hwnnw mewn gwirionedd. Yna mae’n rhoi ateb hynod o glyfar iddynt, oherwydd gall yr ateb gael ei ddeall mewn sawl ffordd. Mewn un ystyr roedd Iesu’n dweud ei bod yn iawn i dalu arian Cesar yn ôl iddo; fyddai hyn yn plesio’r Rhufeiniaid. Ar yr un pryd gallai geiriau Iesu olygu y dylai Cesar dderbyn yr hyn roedd e’n ei haeddu – sef cosb Duw; a byddai hyn wedi plesio’r bobl.

  Ond beth felly mae’n ei olygu i dalu pethau Duw i Dduw? Mae’r Beibl yn dweud ein bod ni fel pobl wedi ein creu ar lun a delw Duw – mae stamp y Creawdwr arnom ni i gyd. Felly os ef sydd wedi creu pawb a phopeth ac felly yn berchen y cyfan, yna ef yn unig sy’n haeddu derbyn popeth sydd gennym i’w gynnig.

Cwestiwn 3

Beth mae’n golygu yn eich bywyd chi i roi pethau Duw i Dduw?

Cwestiwn 4

O gofio mai Iesu yw’r Brenin, beth sy’n drawiadol am y ffaith fod rhaid iddo ofyn rywun ddangos darn o arian iddo?

Gweddïwch

y byddwch chi’n byw mewn ffordd sy’n dangos eich bod chi wedi eich creu ar lun a delw Duw.​