35 – Galw ar Iesu
Marc 10:46-52
Daethant i Jericho. Ac fel yr oedd yn mynd allan o Jericho gyda’i ddisgyblion a chryn dyrfa, yr oedd mab Timeus, Bartimeus, cardotyn dall, yn eistedd ar fin y ffordd. A phan glywodd mai Iesu o Nasareth ydoedd, dechreuodd weiddi a dweud, “Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf.” Ac yr oedd llawer yn ei geryddu ac yn dweud wrtho am dewi; ond yr oedd yntau’n gweiddi’n uwch fyth, “Fab Dafydd, trugarha wrthyf.” Safodd Iesu, a dywedodd, “Galwch arno.” A dyma hwy’n galw ar y dyn dall ac yn dweud wrtho, “Cod dy galon a saf ar dy draed; y mae’n galw arnat.” Taflodd yntau ei fantell oddi arno, llamu ar ei draed a dod at Iesu. Cyfarchodd Iesu ef a dweud, “Beth yr wyt ti am i mi ei wneud iti?” Ac meddai’r dyn dall wrtho, “Rabbwni, y mae arnaf eisiau cael fy ngolwg yn ôl.” Dywedodd Iesu wrtho, “Dos, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di.” A chafodd ei olwg yn ôl yn y fan, a dechreuodd ei ganlyn ef ar hyd y ffordd.
Geiriau Anodd
- Cardotyn: Person sy’n byw trwy ofyn i eraill am arian.
- Mantell: Clogyn.
- Llamu: Neidio.
- Rabbwni: Athro.
Cwestiwn 1
Pam, yn eich tyb chi, mae Bartimeus mor awyddus i ddod at Iesu?
Cwestiwn 2
Beth ydych chi’n meddwl yw’r rheswm mae Bartimeus yn dilyn Iesu ar ddiwedd y stori?
Yn aml iawn yn llyfr Marc mae’n ymddangos mai’r bobl sy’n gweld pethau fwyaf clir yw pobl ddall! Mae hynny yn wir eto fan hyn. Doedd Bartimeus ddim yn gallu gweld dim byd ac oherwydd hynny doedd e ddim yn gallu gweithio. Yr unig ffordd roedd e’n llwyddo i aros yn fyw oedd drwy ofyn i bobl eraill am bethau. Wrth glywed fod Iesu yn mynd heibio, mae’n dechrau gweiddi nerth ei ben am help. Pan mae Iesu yn ei alw draw, mor frwdfrydig oedd ei ymateb. Yn gyntaf, mae’n taflu ei got i ffwrdd. Cofiwch, roedd y dyn yma’n dlawd iawn ac felly roedd ei got yn werthfawr iddo ac yn bwysig i’w gadw’n gynnes. Yna, mae’n neidio ar ei draed ac yn dod yn syth. Ond nid gofyn am arian neu fwyd mae Bartimeus y tro yma. Roedd e’n gwybod fod Iesu yn wahanol. Roedd pobl eraill yn gallu rhoi arian neu bwyd iddo, ond roedd gan Iesu bŵer i’w wella. Roedd ganddo ffydd fod Iesu yn gallu rhoi ei olwg yn ôl iddo. Ond sut y gallai fod mor sicr?
Mae Bartimeus yn defnyddio enw i alw ar Iesu nad ydym wedi ei glywed o’r blaen, sef Mab Dafydd. Roedd Duw wedi addo yn yr Hen Destament y byddai’n anfon Brenin arall fyddai’n dod o deulu arweinydd enwocaf Israel, y Brenin Dafydd. Roedd Bartimeus dall wedi gweld yn gwbl glir mai Iesu oedd y Meseia, yr un roedd Duw wedi ei addo i fod yn Frenin ar bobl Dduw. Roedd yn gweld fod Duw wedi anfon Iesu i ddinistrio pechod, ac i ddod â theyrnas newydd i rym.
Unwaith eto mae’r adnodau hyn yn gofyn i ni chwilio ein calonnau ein hunain. Ydyn ni wedi derbyn mai Iesu Grist yw’r Brenin o linach Dafydd? Ydyn ni wedi gadael y pethau oedd arfer bod yn bwysig i ni a rhedeg at Iesu wrth iddo ein galw? Ydy Iesu wedi delio â’n pechod ni, a’n rhyddhau i’w ddilyn ef?
Cwestiwn 3
Wrth weld Bartimeus yn cario ymlaen i alw, sut ddylai hyn effeithio ar ein gweddïau ni?
Cwestiwn 4
Oes peryg ein bod ni yn defnyddio Iesu i geisio cael yr hyn rydym ni ei eisiau ac yna peidio â’i ddilyn e?
Gweddïwch
gan ddiolch i Dduw am anfon ei Fab, y Brenin, i ddelio â phroblem pechod.