Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gwneud Marc 34 – Gostyngeiddrwydd a Balchder (2)

12 Mai 2020 | gan Emyr James | Marc 10

34 – Gostyngeiddrwydd a Balchder (2)

Marc 10:32-45

Yr oeddent ar y ffordd yn mynd i fyny i Jerwsalem, ac Iesu’n mynd o’u blaen. Yr oedd arswyd arnynt, ac ofn ar y rhai oedd yn canlyn. Cymerodd y Deuddeg ato drachefn a dechreuodd sôn wrthynt am yr hyn oedd i ddigwydd iddo: “Dyma ni’n mynd i fyny i Jerwsalem; fe gaiff Mab y Dyn ei draddodi i’r prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion; condemniant ef i farwolaeth, a’i drosglwyddo i’r Cenhedloedd; a gwatwarant ef, a phoeri arno a’i fflangellu a’i ladd, ac wedi tridiau fe atgyfoda.” Daeth Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, ato a dweud wrtho, “Athro, yr ydym am iti wneud i ni y peth a ofynnwn gennyt.” Meddai yntau wrthynt, “Beth yr ydych am imi ei wneud i chwi?” A dywedasant wrtho, “Dyro i ni gael eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith yn dy ogoniant.” Ac meddai Iesu wrthynt, “Ni wyddoch beth yr ydych yn ei ofyn. A allwch chwi yfed y cwpan yr wyf fi yn ei yfed, neu gael eich bedyddio â’r bedydd y bedyddir fi ag ef?” Dywedasant hwythau wrtho, “Gallwn.” Ac meddai Iesu wrthynt, “Cewch yfed y cwpan yr wyf fi yn ei yfed, a bedyddir chwi â’r bedydd y bedyddir fi ag ef, ond eistedd ar fy llaw dde neu ar fy llaw chwith, nid gennyf fi y mae’r hawl i’w roi; y mae’n perthyn i’r rhai y mae wedi ei ddarparu ar eu cyfer.” Pan glywodd y deg, aethant yn ddig wrth Iago ac Ioan. Galwodd Iesu hwy ato ac meddai wrthynt, “Gwyddoch fod y rhai a ystyrir yn llywodraethwyr ar y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a’u gwŷr mawr hwy yn dangos eu hawdurdod drostynt. Ond nid felly y mae yn eich plith chwi; yn hytrach, pwy bynnag sydd am fod yn fawr yn eich plith, rhaid iddo fod yn was i chwi, a phwy bynnag sydd am fod yn flaenaf yn eich plith, rhaid iddo fod yn gaethwas i bawb. Oherwydd Mab y Dyn, yntau, ni ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.”

Geiriau Anodd

  • Arswyd: Dychryn.
  • Condemnio: Dyfarnu’n euog, a dweud beth fydd cosb rhywun.
  • Gwatwar: Gwneud hwyl ar ben rhywun.
  • Fflangellu: Chwipio.
  • Atgyfodi: Dod nôl yn fyw.
  • Llywodraethwyr: Pobl sy’n rheoli.
  • Pridwerth: Pris sy’n cael ei dalu i ryddhau carcharor

Cwestiwn 1

Pam rydych chi’n meddwl fod Iesu yn dweud wrth y disgyblion gymaint o weithiau beth oedd yn mynd i ddigwydd iddo?

Cwestiwn 2

Pa fath o bethau ydych chi’n gofyn i Iesu amdanynt?

 Mae pob Cristion wedi cael y profiad o syrthio i’r un temtasiwn fwy nag unwaith. Yn yr adnodau hyn rydym yn gweld dau o’r disgyblion yn gwneud camgymeriad tebyg iawn i’r un wnaethon nhw ym Marc 9:30-37, sef camddeall beth sy’n gwneud dilynwyr Iesu yn bwysig.

 Wrth deithio i Jerwsalem gyda’i ddisgyblion, roedd Iesu yn gwybod fod cyfnod allweddol o’i waith yn dod yn agos. Felly unwaith eto mae’n ceisio eu paratoi ar gyfer yr hyn sy’n mynd i ddigwydd. Mae’n esbonio sut fydd rhaid iddo gael ei wrthod gan ei bobl ei hun cyn cael ei ddirmygu a’i ladd gan y Rhufeiniaid – ac ar ôl tri diwrnod dod nôl yn fyw. Ond dydy’r disgyblion dal ddim yn deall! Maen nhw’n dal i feddwl fod teyrnas y Brenin Iesu yn debyg i deyrnasoedd y byd. Felly mae’r ddau frawd, Iago ac Ioan, yn dod at Iesu ac yn gofyn rhywbeth mawr ganddo. Pan fydd Iesu yn rheoli, a gân nhw eistedd ar y naill ochr a’r llall iddo, yn y llefydd gorau? Maen nhw’n dal i boeni pwy yw’r disgyblion mwyaf pwysig! Maen nhw hyd yn oed yn credu eu bod nhw’n haeddu’r llefydd hyn ac y gallen nhw wynebu yr hyn mae Iesu yn mynd i’w wynebu. Ond er eu bod yn mynd i ddioddef a chael eu lladd fel Iesu, Duw’r Tad sydd i benderfynu pwy fydd yn eistedd wrth ochr Iesu yn y nefoedd.

  Mae gweddill y disgyblion yn flin iawn fod y brodyr wedi gofyn y fath beth (efallai oherwydd eu bod nhw heb feddwl gwneud eu hunain!). Felly, mae’n rhaid i Iesu unwaith eto bwysleisio iddyn nhw nad dyna’r ffordd mae teyrnas Dduw yn gweithio. Dydy pobl Dduw ddim i fod i gystadlu a’i gilydd er mwyn ceisio bod y mwyaf amlwg, mwyaf adnabyddus, mwyaf pwysig – dyna fel mae’r byd yn meddwl. Na, yn union fel y daeth Iesu Grist, y Brenin ei hun, i wasanaethu pobl eraill yn hytrach nag ef ei hun, mae disgwyl i’w ddilynwyr feddwl mwy am eraill nag amdanyn nhw eu hunain. Mae bywyd y Cristion yn un o wasanaethu eraill, a cheisio gwneud yr hyn sydd orau ar eu cyfer.

Cwestiwn 3

Sut ddylai’r hanes yma ddylanwadu ar y pethau rydym ni’n gofyn i Dduw amdanynt?

Cwestiwn 4

Beth mae’n ei olygu i ymddwyn fel gwas?

Gweddïwch

y bydd Duw yn eich cadw chi rhag cwympo i’r un bai, ac am nerth i wneud yr hyn sy’n dda yn ei olwg drwy wasanaethu eraill.