32 – Croesawu Plant
Marc 10:13-16
Yr oeddent yn dod â phlant ato, iddo gyffwrdd â hwy. Ceryddodd y disgyblion hwy, ond pan welodd Iesu hyn aeth yn ddig, a dywedodd wrthynt, “Gadewch i’r plant ddod ataf fi; peidiwch â’u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn. Yn wir, rwy’n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw’n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.” A chymerodd hwy yn ei freichiau a’u bendithio, gan roi ei ddwylo arnynt.
Geiriau Anodd
- Dig: Crac
Cwestiwn 1
Pa fath o bethau sydd efallai yn newid wrth i blant dyfu?
Cwestiwn 2
Os yw plentyn yn gallu deall digon i fod yn Gristion, beth mae hyn yn dweud wrthym am newyddion da Iesu Grist?
Ydych chi wedi clywed yr ymadrodd, “Children should be seen and not heard”? Mae’n awgrymu nad yw plant mor bwysig ag oedolion a bod angen iddyn nhw gadw’n dawel. Mae’n ymddangos fod y disgyblion yn meddwl rhywbeth yn debyg. Wrth i bobl ddod a’u plant i gael eu bendithio gan Iesu, mae’r disgyblion yn ceisio eu rhwystro. Roedden nhw’n meddwl y byddai’r Brenin yn llawer rhy brysur i ddelio â phlant bach, fod llawer o bethau gwell ganddo i’w wneud a’i amser. Ond fel y gwelsom ym Marc 9:30-7, roedd gan Iesu agwedd hyfryd tuag at blant. Yn wir, yr hyn mae Iesu’n ei ddweud yn yr adran hon yw fod gan bob un ohonom rywbeth i’w ddysgu gan blant! Mae Iesu’n dweud fod teyrnas Dduw yn perthyn i rai fel plant, ac mai’r unig ffordd i gael mynediad i’r deyrnas yw cael agwedd plentyn. A yw hyn yn golygu mai dim ond plant sy’n gallu cael eu hachub gan Iesu Grist? Os felly, dydy hynny ddim yn newyddion da i’r holl bobl hynny sy’n oedolion pan maen nhw’n clywed am Iesu y tro cyntaf. Yn amlwg nid dyna mae Iesu yn ei feddwl, neu ni fyddai wedi gwastraffu cymaint o amser yn siarad ag oedolion!
Beth mae Iesu yn ei feddwl yw, os ydych chi eisiau bod yn rhan o deyrnas Dduw, yna mae’n rhaid i’ch agwedd chi fod yr un peth â phlentyn. Beth yw agwedd plentyn? Mae dau beth amlwg y gallwn ni ei ddweud. Mae plant yn dibynnu ar bobl eraill. Dydyn nhw ddim yn gallu gwneud pethau drostyn nhw eu hunain, ond maen nhw’n gofyn i’w rhieni. Felly, mae pob Cristion yn gorfod derbyn nad yw’n gallu helpu ei hunan, a bod rhaid dibynnu ar Dduw. Fe yn unig sy’n gallu achub. Yn ail, mae plant i fod i wrando ar eu rhieni ac i gredu yr hyn maen nhw’n ei ddweud. Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n deall popeth, maen nhw’n gwybod bod eu rhieni yn eu caru ac felly maen nhw’n gwrando ac yn credu. Yn yr un ffordd mae’r Cristion i fod i wrando ar yr hyn mae Duw yn ei ddweud a chredu. Er nad ydym yn deall popeth, rydym yn gwybod fod Duw wedi ein caru achos anfonodd Iesu Grist i farw trosom.
Cwestiwn 3
A yw agwedd Iesu at blant beth fyddech chi’n ei ddisgwyl?
Cwestiwn 4
Sut mae hyn yn mynd i newid y ffordd rydym ni’n rhannu’r neges?
Gweddïwch
am help i ddibynnu ar Dduw ac i gredu ynddo fe, fel plentyn.