Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 9 Mai 2020

7 Mai 2020 | gan Dewi Tudur | Luc 12

Meddai wrth ei ddisgyblion, “Am hynny rwy’n dweud wrthych, peidiwch â phryderu am eich bywyd nac am eich corff, beth i’w fwyta na beth i’w wisgo. Oherwydd y mae mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i’w gorff na dillad. Ystyriwch y brain: nid ydynt yn hau nac yn medi, nid oes ganddynt ystordy nac ysgubor, ac eto y mae Duw yn eu bwydo. Gymaint mwy gwerthfawr ydych chwi na’r adar! A phrun ohonoch a all ychwanegu munud at ei oes trwy bryderu? Felly os yw hyd yn oed y peth lleiaf y tu hwnt i’ch gallu, pam yr ydych yn pryderu am y gweddill? Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu; ond rwy’n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i’w chymharu ag un o’r rhain. Os yw Duw yn dilladu felly y glaswellt, sydd heddiw yn y meysydd ac yfory yn cael ei daflu i’r ffwrn, gymaint mwy y dillada chwi, chwi o ychydig ffydd! A chwithau, peidiwch â rhoi eich bryd ar beth i’w fwyta a beth i’w yfed, a pheidiwch â byw mewn pryder; oherwydd dyna’r holl bethau y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio, ond y mae gennych chwi Dad sy’n gwybod fod arnoch eu hangen. Ceisiwch yn hytrach ei deyrnas ef, a rhoir y pethau hyn yn ychwaneg i chwi. Peidiwch ag ofni, fy mhraidd bychan, oherwydd gwelodd eich Tad yn dda roi i chwi’r deyrnas. Gwerthwch eich eiddo a rhowch ef yn elusen; gwnewch i chwi eich hunain byrsau nad ydynt yn treulio, trysor dihysbydd yn y nefoedd, lle nad yw lleidr yn dod ar y cyfyl, na gwyfyn yn difa. Oherwydd lle mae eich trysor, yno hefyd y bydd eich calon.

Luc 12:22-34

 

Daw’r geiriau yma yn syth ar ôl i’r Arglwydd adrodd y ddameg am y ffermwr ffôl oedd yn meddwl ei fod yn mynd i fyw am byth a bod ei gyfoeth yn mynd i roi boddhad enaid iddo. Gall Gristnogion ail adrodd camgymeriadau y ffermwr, a dyna pam fod y Gwaredwr yn troi ei sylw at ei ddisgyblion yn adnod 22.

Yn aml mae gorbryder am bethau’r byd, ynghyd â bydolrwydd yn codi o’r un man – diffyg ffydd. Mae’r anogaeth i beidio byw mewn pryder a gawn yn adnod 29 yn ganolog ac mae’r gair yn cyfleu cwch bach mewn storm ar y môr sy’n cael ei daflu o don i don. Ond mae’r rhesymu dwyfol sydd yn y paragraff yma yn gallu dod â ni o le pell yn ysbrydol i ffydd sicr a thawelwch ym methau Duw. Sylwch:-

Ystyriwch y brain. Mae trefn glir yn y cread ac ym myd natur. Mae’r deddfau a roddwyd mewn lle gan Dduw, yn golygu fod bod brain yn cael eu bwyd – nid hap a damwain mo hyn. Gwaith mawr ein bywyd ydi nid casglu bwyd a dillad ond yn gyntaf canfod pwy a sut un yw’r Duw yma.

Ystyriwch y lili. Mae’n drefn berffaith a phrydferth. Mae’r drefn ei hun yn dweud rhywbeth wrthym am fawredd, gogoniant ac ie, prydferthwch y Duw a’i creodd. Mae’r lili yn dweud ei bod yn werth i ni geisio dod i adnabod y Duw a’i creodd ac a’i dilladodd.

Ond y mae gennych chi Dad. Mae’n bosib dod i adnabod Duw fel tad, – yn wir, dyma beth yw hanfod y berthynas rhwng y Cristion â Duw. Nid oes yn rhaid i’r Cristion boeni am fwyd na dillad gan fod y Duw sy’n gyfrifol am greu a chynnal y byd yn dad iddo, trwy yr Arglwydd Iesu Grist. Mae’r berthynas rhwng y Cristion a Duw yn berthynas ddwy ffordd gan fod Duw hefyd yn adnabod y Cristion fel ei blentyn! Dyma natur y berthynas a dyma wirionedd i sgubo ymaith pob ofn, ansicrwydd, pryder ac amheuon. Daw’r cwbl atom ar lwybr ffydd ond sut mae modd derbyn y ffydd yma?

Ceisiwch yn hytrach ei deyrnas ef. Mae’r gair “ceisio” yn golygu dymuniad dwfn y galon i roi Duw yn gyntaf a phopeth arall yn ail-bethau. Rhaid i ni roi ein bryd ar Dduw a chael bod mewn perthynas gydag ef. Mae hynny‘n golygu edifarhau am ein pechod a derbyn yr hyn sydd gan Dduw ar ein cyfer, sef yr efengyl. Y newyddion da fod Yr Arglwydd Iesu Grist, Mab Duw wedi byw a marw drosom ni.

Peidiwch ag ofni. Sawl gwaith y mae’r Arglwydd Iesu Grist yn gorfod dweud y geiriau yna wrth ei ddisgyblion? Mae Iesu am i ni ganolbwyntio, nid ar yr hyn sy’n eisiau ond ar yr hyn sydd genym yn Iesu Grist. O wneud hyn cawn y deyrnas a phob dim arall y mae ei angen. Yn Iesu Grist mae pob peth yn eiddo i ni “Mae’r cwbwl sydd o werth yn trigo ynddo Ef”. “Pob Gras … Caf feddu’r oll a’u meddu’n un wrth feddu d’anian di dy Hun”. Os yr Arglwydd yw fy Mugail, “ni bydd eisiau arnaf”.

Cadwch yn ddiogel, gorff, enaid ac ysbryd!

Dewi Tudur, Eglwys Efengylaidd Ardudwy