Gwyn ei fyd y sawl na fydd yn cwympo o’m hachos i
Mathew 11:6
Dyma’r geiriau cysurlon a chalonogol a anfonodd Iesu at Ioan Fedyddiwr. Eu bwriad oedd annog Ioan i beidio gadael i rwystredigaeth a dioddefaint y carchar danseilio ei ffydd. Hawdd iawn colli sicrwydd a dechrau amau’r Arglwydd ei hun pan ddaw treialon a phrofedigaethau i’n rhan. Mae John Bunyan yn Taith y Pererin yn dweud wrthym i Gristion dreulio cymaint â thri diwrnod a thair nos yng Nghastell Amheuaeth. Ac mae’r ‘per ganiedydd’ o Bantycelyn yn cyffesu’n gwbl onest fod “anghrediniaeth gaeth…ac ofnau maith eu rhi” yn peri iddo ofni’r dyfodol, a “gwendid o bob math a llygredigath cry’” yn ei lethu’n barhaus.
Mae adegau o’r fath yn real ac yn ein digalonni am eu bod yn creu ansicrwydd. A oedd Ioan yn siomedig fod cyfnod ei weinidogaeth wedi dod i ben yn y fath ffordd annisgwyl? Onid oedd, wrth herio anufudd-dod pechadurus Herod, wedi bod yn ffyddlon i Air Duw? A oedd wedi cam-ddeall natur teyrnas Crist a’i weinidogaeth? Pa resymau bynnag oedd yn gyfrifol am ei amheuon, roeddent mor real fel ei fod hyd yn oed yn cwestiynu person Iesu – “Ai ti yw’r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?” Geiriau cwbl annisgwyl o enau’r gŵr oedd wedi datgan yn glir, ar ddechrau gweinidogaeth Iesu, mai ef oedd “yr hwn y soniwyd amdano gan y proffwyd Eseia”. Y pregethwr tanbaid a gyhoeddodd mor hyderus – “Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau y byd” a “Mi a welais, ac a dystiolaethais mai hwn yw Mab Duw ”! (Ioan 1:29&34). Ond trodd caethiwed yr hyder a’r sicrwydd yn amheuaeth ddryslyd, feichus. Sut oedd dod o hyd i’r allwedd fyddai’n datgloi cadwynau ei ansicrwydd? I ble y gallai droi i gael ‘sicrwydd bendigaid’ unwaith eto.
“Anfonodd ddau o’i ddisgyblion i ofyn iddo…” (adnodau 2&3). Mae’n mynd â’i amheuaeth boenus at Iesu. Meddai C. H. Spurgeon “He sends to headquarters to make assurance doubly sure.”
Ein braint a’n llawenydd ni yw gallu mynd ag unrhyw broblem at yr Arglwydd mewn gweddi – “Take it to the Lord in prayer.” Awn gan gyffesu’n anghrediniaeth i bresenoldeb yr Un sy’n ffynhonell sicrwydd diamheuol. Mae Iesu’n delio’n dyner a chariadus â Ioan. Yn benodol, mae’n atgoffa Ioan o addewidion Meseianaidd Eseia oedd yn rhag-fynegi’r ffaith y byddai gweinidogaeth wyrthiol Crist yn brawf o’i awdurdod. Yna, mae’n anfon y ddau ddisgybl yn ôl gyda’r geiriau, “Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych yn ei glywed ac yn ei weld” (adnod 4). Ni all neb wrthod credu tystiolaeth rhai sydd wedi gweld â’u llygaid eu hunain. Dyna sail sicr ffydd. Ac mae holl addewidion Duw, er amled ydynt, ynddo ef yn “Ie”. “Dyna pam mai trwyddo ef yr ydym yn dweud “Amen” er gogoniant i Dduw.” (2 Corinthiaid. 1:20.
Gadewch i ni ymdrwytho yn addewidion di-sigl ac adfywiol Duw. Byddai’r hyn a glywodd y ddau ddisgybl Iesu’n dweud wrth y dyrfa fel yr oeddent yn ymadael yn sicr o gysuro’i meistr helbulus. Byddai’r dystioaeth yn foddion bendith iddo wrth ddyfalbarhau’n amyneddgar er mwyn Crist. Paid â rhoi i fyny, paid â rhoi i mewn, dos yn dy flaen! Oes yna le diogelach a dedwyddach na than fendith yr Arglwydd? Fydd ei amgylchiadau ddim yn newid; yn wir, mae dienyddio creulon yn ei ddisgwyl. Ond er y bydd y cleddyf yn llwyddo i wahanu ei ben oddi wrth ei gorff, ni fydd yn gallu ei wahanu ef oddi wrth gariad Duw yn Iesu Grist. Yn fuan bydd yn mynd i mewn i’r gwynfyd tragwyddol. Byw heddiw dan fendith Iesu yw ein llawenydd a’n nerth. Byw’n oes oesoedd dan ei fendith fydd ein pleser, ein dedwyddwch a’n hyfrydwch diddarfod.
Wel, f’enaid, dos ymlaen,
’dyw’r bryniau sydd gerllaw
un gronyn uwch, un gronyn mwy,
na hwy a gwrddaist draw:
dy anghrediniaeth gaeth
a’th ofnau maith eu rhi’
sy’n peri it feddwl rhwystrau ddaw
yn fwy na rhwystrau fu.
’R un nerth sydd yn fy Nuw
a’r un yw geiriau’r nef,
’r un gras, a’r un ffyddlondeb sy’n
cartrefu ynddo ef:
fy ngwendid o bob math
a’m llygredigaeth cry’
ni threchant, er eu natur gas,
hyd fyth mo’r gras sydd fry
Mi welaf fyrdd dan sêl,
fu’n ofni fel fy hun,
nawr wedi dringo’r creigiau serth
i gyd drwy nerth yr Un;
yn canu’r ochor draw,
heb arnynt fraw na phoen,
ganiadau hyfryd Calfarî,
dioddefaint addfwyn Oen.
William Williams
Meirion Thomas, Malpas Road