Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 6 Mai 2020

6 Mai 2020 | gan Elin Bryn | Actau 3

Dywedodd Pedr, “Arian ac aur nid oes gennyf; ond yr hyn sydd gennyf, hynny yr wyf yn ei roi iti; yn enw Iesu Grist o Nasareth, cod a cherdda.”

Actau 3:6

 

Sut ydych chi’n teimlo erbyn hyn? Ydy’r ‘lock-down’ wedi dod yn norm i chi? Ydy cadw dwy fetr o bellter yn dod yn ail natur i chi? Mae’n anhygoel sut ‘da ni’n addasu fel cymdeithas mor handi mewn sefyllfaoedd o argyfwng.

Ond, yn yr addasu mae dipyn yn gorfod newid, mae gollwng gafael ar yr hen ffordd o fyw yn anodd. Mae yna gyfnod poenus weithiau o addasu rhwng yr hen a’r newydd. Yna mae’r newydd yn dod yn rhan o’r drefn feunyddiol.

Beryg bod trefn feunyddiol pawb wedi newid erbyn hyn, i rai ohonom mae wedi prysuro. Mae’r tŷ bellach yn swyddfa, yn ysgol neu hyd yn oed yn gampfa! Mae’r holl weithgareddau gwaith a hamdden wedi’u cyfyngu i un man a phawb yn byw ar ben ei gilydd. I’r rhai eraill ohonom ni mae’n amserlen wedi gwagio’n sylweddol, gwaith wedi arafu, cynlluniau cymdeithasol wedi’u canslo. Mae’r tŷ’n wag bellach a thrip i’r siop wedi dod yn uchafwbynt yr wythnos! Neu efallai bod eich gwaith yn dod a chi wyneb yn wyneb hefo’r haint. Mae pwysau’r cyfrifoldeb o gynnig gofal yn gydymaith a mae hi’n daith flinedig.

Beth bynnag bo’n sefyllfa erbyn hyn, mae’n byd ni wedi newid. Mi allwn ni’n hawdd digalonni, wrth weld poen ein pobl a theimlo na allwn ni’n wneud unrhyw beth i helpu.

Ond y cysur mawr, yr anogaeth ryfeddol ydy, yn y bôn, dydy’r hyn allwn ni ei gynnig go iawn ddim wedi newid! Efallai bod ein gallu i roi help ymarferol wedi newid, ond fel Pedr ac Ioan slawer dydd mae rhywbeth gwell gennym ni i gynnig. Dim ‘arian nag aur’, dim ein ‘cwmni neu ein gofal’ ond Iesu Grist ei hun! Yn y cyfnod llawn newid, mae gennym ni’r sicrwydd bod Iesu Grist yn Arglwydd dros y cyfan, yn dal i achub. Mae gennym hyder bod mendio i’w gael yng ngrym enw ein gwaredwr, a bod mendio tragwyddol ynddo.

Felly, pan fydden ni’n teimlo bod ein dwylo’n wag heb unrhyw beth i’w gynnig. Gadewch i ni gofio hefo’n gilydd heddiw ’ma, ein bod ni, fel Pedr ac Ioan ar ei ffordd i’r deml yn llawn o’r Ysbryd Glân, a bod gennym ni’r gallu i droi at ein Harglwydd mewn gweddi, ac ein bod ninnau heddiw yn gallu cynnig Iesu Grist i bobl. Boed hynny’n gyfeillion dros y ffôn neu’r we, yn gydweithwyr neu ddieithryn mewn sefyllfa annisgwyl. Gadewch i ni gofio mai angen pobl go iawn, ydy dod i adnabod Iesu a’i foli’n Argwlydd.

Elin Bryn (Capel y Ffynnon, Bangor)