Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 5 Mai 2020

5 Mai 2020 | gan Meirion Thomas | Rhufeiniaid 8

….dioddefiadau’r presennol…gogoniant!

Rhufeiniaid 8:18

 

Mewn byd cyfnewidiol, syrthiedig a phechadurus mae dioddefaint yn anochel. Fe wyddom i gyd, i wahanol raddau, beth yw dioddefaint cyffredinol – poenau, gwahanol fathau o anhwylderau a chlefydau, gwendid corfforol ac, yn y pen draw, marwolaeth a’i amryw gystuddiau. Rydym hefyd yn ymwybodol o ddioddefaint penodol o ganlyniad i amgylchiadau neu ddigwyddiadau arbennig. Damweiniau erchyll, trychinebau neu drallodion sy’n peri dioddefaint personol unigryw. Ond gall dioddefaint effeithio ar deuluoedd cyfan, ar gymunedau, ar genhedloedd, a hyd yn oed ar y byd yn grwn, fel mae’r pandemig presennol wedi’i ddangos. Mewn llawer rhan o’r byd erledigaeth sy’n gyfrifol am y dioddefaint.

Yng nghanol stormydd dioddefaint yr hyn mae’r rhan fwyaf o bobl yn chwilio amdano yw cefnogaeth a chydymdeimlad, cysur a llygedyn o obaith. Cwbl ddilys yw ceisio ymresymu neu ateb eu cwestiynau ag atebion slic. Ydych chi’n cofio sut y bu i Iesu, wedi iddo’n fwriadol oedi mynd i Fethania, golli dagrau wrth glywed Mair a Martha’n dweud bod eu brawd wedi marw? Mae Iesu’n wylo gyda’r rhai sy’n wylo. Mae’n uniaethu’i hun â thristwch a galar ei ffrindiau. Nid yw ei ymateb yn oeraidd a dideimlad; mae’n rhannu eu colled a’u gofid. Bydd Ef ei hun ymhen ychydig yn wynebu’r gwarth o gael ei wrthod; yn dioddef poen a chreulondeb angerddol y groes – “yn ŵr clwyfedig, cyfarwydd â dolur”. Heb unrhyw amheuaeth, mae cymhwyster a gallu Iesu i gysuro a chydymdeimlo â phob math o ddioddefwyr yn unigryw. Ac ar ben hynny, mae’n cynnig gobaith trwy ddatgan mai Ef yw’r “atgyfodiad a’r bywyd”.

Pa faint bynnag ein dioddefaint, mae’r Arglwydd yn addo’i bresenoldeb, ei dangnefedd, a’i allu i’n cynnal a’n nerthu. Er i Paul ofyn iddo deirgwaith am symud rhyw boen tebyg i frathiad draenen a ddioddefai’n barhaus, yr hyn a addawodd yr Arglwydd iddo oedd ei ras digonol Ef. Yn aml, mae dibenion rhyfedd ac anesboniadwy i ddioddefaint. Yn ôl yn Rhufeiniaid 5:1-5 mae Paul yn amlinellu cadwyn o fendithion rhyfeddol sydd wedi’u cydgysylltu – ffydd, tangnefedd, gobaith, gogoniant a chariad. Ond mae hefyd yn pwysleisio realiti dioddefaint am ei fod yn cynhyrchu dyfalbarhad a chymeriad. Y bobl fwyaf cymwys i sôn am wersi dioddefaint yw’r rheiny sydd â phrofiad personol ohono. Ar wahân i Iesu ei hun, pwy’n well na Job, y salmydd Dafydd, a’r apostol Paul. Mae pob un ohonynt yn tystiolaethu i ddioddefaint gael effaith drawsnewidiol, achubol ar eu bywydau. Mae eu persbectif, eu profiad a’u hymwybyddiaeth o fawredd, daioni a gogoniant Duw fel petaent yn disgleirio’n fwy llachar na chynt. Mae eu hamynedd, eu dyfalbarhad a’u diolchgarwch fel petaent yn fwy real. Felly hefyd eu llawenydd, er trwy anawsterau a dagrau.

Pen draw ein holl ddioddefaint yw’r gogoniant “a ddatguddir i ni” – pa well cymhelliad ac anogaeth. Mae’r adnodau o gwmpas 8:16 yn sôn am iachawdwriaeth sylfaenol yn dod i’w chyflawniad terfynol fel creadigaeth sy’n ochneidio, ond yn ein sicrhau y bydd credinwyr sy’n ochneidio yn cael eu “rhyddhau o gaethiwed a llygredigaeth, a’u dwyn i ryddid a gogoniant plant Duw”. Nid amlygiad rhyfeddol o ogoniant mawreddog o’n cwmpas ni yn unig fydd hwn, ond – rhyfeddod o bob rhyfeddod – ynom ni. Bydd yn trawsnewid ein holl berson, meddwl, corff ac ysbryd; bydd yn ein gwneud yn gymwys ar gyfer gogoniant y nef a’r ddaear newydd lle na fydd pechod, na phoen na dagrau. Gall y golwg hwn ar ogoniant ein cynnal drwy’n hamryw dreialon, ein tristwch a’n colled. “Oherwydd y baich ysgafn o orthrymder sydd arnom yn awr, darparu y mae, y tu hwnt i bob mesur, bwysau tragwyddol o ogoniant i ni” (2 Corinthiaid 4:17). Dyna un rheswm pam y dylem lawenhau yn ein treialon a’n dioddefaint. Ond y mae gennym hefyd addewid Duw y bydd yr Ysbryd Glân, ar gyfrif ein gwendid a’n hanallu, yn eiriol ar ein rhan. Bydd ef yn ochneidio ochr yn ochr â ni, tra ar yr un pryd yn gwybod ewyllys Duw ar ein cyfer. Ac yn fendigedig y tu hwnt i hynny mae eiriolaeth Crist ei hun – mae Ef “ar ddeheulaw Duw…yn ymbil trosom” 8:34. Bydded i’r holl anogaethau a’r bendithion hyn ein cynnal a’n nerthu heddiw ac i’r dyfodol.

Meirion Thomas, Malpas Road