Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair.
Ioan 1:1
Diddorol sylwi fod Ioan wrth ddisgrifio’r Arglwydd Iesu wedi ei arwain gan yr Ysbryd i wneud hynny drwy ddefnyddio’r cysyniad o air. Ni ddylai hyn ein synnu, wedi’r cyfan un o’r pethau sy’n dod drosodd yn fwyaf clir yn y Beibl a thrwy hanes dynoliaeth yw bod Duw yn siarad a chyfathrebu.
Ei lais a ddefnyddiodd Duw i greu’r byd, a thrwy ei lais yr oedd yn siarad gydag Adda ac Efa yn yr ardd. Drwy ei lais y siaradodd gyda Moses drwy’r berth oedd yn llosgi a geiriau ddefnyddiodd ar garreg i roi’r gorchmynion i’r Israeliaid ar Sinai. Gwelwn y patrwm yn parhau drwy weddill yr Hen Destament ac yna wrth i ni gyrraedd yr Arglwydd Iesu – lle y gwelwn Dduw yn siarad fwyaf clir gyda’r ddynoliaeth yn ei sancteiddrwydd a’i ras.
Mae Duw yn parhau i siarad heddiw drwy’r Ysbryd, nid yn unig drwy ddarllen y Beibl neu drwy bregethu’r gair, ond yn ein calonnau ym mhob profiad a rhan o fywyd. Does dim un cornel o’r byd, dim profiad nac eiliad o amser nad yw Duw yn medru ei ddefnyddio i siarad gyda ni.
Efallai y byddwn yn clywed ei lais yn sibrwd wrth i ni gael ein cyfareddu yn edrych ar ogoniant creadigrwydd a phrydferthwch byd natur. Neu weithiau clywn ei lais yn disgyblu drwy weld y ffordd ddiras y byddwn yn ymateb i sefyllfa anodd yn y gwaith. Efallai y byddwn yn clywed ei lais yn ein galw’n ôl wrth iddo’n harwain i sefyllfa anodd, neu yn tynnu rhyw ddelw i ffwrdd ohonom. O ddydd i ddydd gall y Cristion brofi prydferthwch cariad, arweiniad, gofal a pherthynas yr Arglwydd wrth iddo siarad mewn cymaint o ffyrdd gwahanol.
Am fraint i wybod ar ddechrau wythnos y byddwn yn cyd-gerdded gyda’r Arglwydd drwy bob dim. Gadewch i ni weddïo y bydd ein llygaid, clustiau a chalonnau ar agor ac yn sensitif i wrando ar ei lais bob cam o’r ffordd.
Steffan Job (Capel y Ffynnon, Bangor)