Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel; yr oedd pob un yn gwneud yr hyn oedd yn iawn yn ei olwg ei hun.
Barnwyr 17:6
Daw’r defosiwn isod allan o lyfr Mari Jones Daw’r Wennol yn Ôl a gyhoeddwyd gan y Mudiad nifer o flynyddoedd yn ôl.
Gwyliwch Y Buchod!
‘Tybed oes modd cael eich help am funud fach?’ Dyna’r cais cynnil a ddaeth imi un diwrnod am gymorth i symud buchod a’u lloi o un rhan o’r ffarm i ran arall. Meddyliais y gallwn lanw bwlch yn burion ac allan â mi at y gorchwyl.
‘Gwyliwch y buchod!’ Dyna’r unig siars a gefais. Ychydig a wyddwn ar y pryd beth a olygai hynny!
Roedd y cae y ceisiem symud y buchod a’r lloi allan ohono ar dipyn o oriwaered. Droeon fe dybiem ein bod wedi’u casglu at ei gilydd i’r adwy ym mhen y cae, ond yn sydyn a dirybudd cymerai y lloi yn eu pennau ruthro heibio i ni ar wib nerfus, gibddall. Nid oedd modd eu rhwystro, ac fe’u dilynid wedyn yn wyllt wirion gan eu mamau.
Coeliwch fi, roedd hi’n anodd cael y blaen arnynt unwaith yr anelent at waelod y cae. Rhedent ar garlam a’u cynffonnau yn yr awyr, gan roi ambell ysgytwad i’w cyrff a sbonc sydyn. Caent hwyl braf ar ein pryfocio.
Os yw hyn yn wir am wartheg, mae’n ddwbl wir am ddefaid ac ŵyn. Mae’r rheini’n wylltach byth! Wrth geisio eu casglu i’r gorlan am y tro cyntaf yn y tymor, fe a’r ŵyn trwy ddwylo rhywun mewn munud. Mae’n dda o beth fod modd defnyddio cŵn i’w meistroli.
Ond am fuchod a chanddynt loi ifainc, does wiw i gi ddod yn agos. Rhywbeth ydyw ci ganddynt i’w gornio a’i ddifetha o fodolaeth y funud honno, cyn iddo gael hanner cyfle i fygwth dim ar eu hil. A gwae’r neb a ddigwydd sefyll rhwng y fuwch gynddeiriog a’r ci!
Y gamp fawr yw cael y buchod neu’r mamogiaid i aros yn llonydd yn eu hunfan, er i’w hepil eu gadael ar ras wyllt. Cyn wired â dim, yn hwyr neu’n hwyrach, fe ddaw eu hil yn ôl atynt yn dawel a chall. Ond heb safiad pendant gan y mamau, does gan y lloi na’r ŵyn ddim syniad beth a ddisgwylir ganddynt. Dim ond esiampl y rhieni a rydd siawns iddynt sobri a dod atynt eu hunain.
Do, bu cryn dipyn o redeg a chwifio ffyn yn yr awyr, a threthwyd ein hamynedd i’r eithaf y diwrnod hwnnw wrth geisio symud y buchod a’u lloi. Bu’n ymdrech ddi-ben-draw rhyngom, cyn i ni lwyddo yn y diwedd i’w cael i ymdawelu ac ufuddhau. Dim rhyfedd i mi gael fy rhybuddio, ‘Gwyliwch y buchod!’
Er i’r da byw gael hwyl am ein pennau yn ceisio awdurdodi arnynt y diwrnod hwnnw, ni allem lai na theimlo y byddai eu hymddygiad yn bur wahanol pe sylweddolent mai eu lles hwy oedd gennym mewn golwg. Diben y cyfan oedd eu symud i well porfa mewn cae cyfagos. Ond am fod pob un yn ceisio mynd ei ffordd ei hun, trodd y cwbl yn anhrefn llwyr. A dyna beth oedd anarchiaeth yng nghymdeithas y da byw y pnawn hwnnw. Nid da oedd byw, iddynt hwy nac i minnau!
‘Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel; yr oedd pob un yn gwneud yr hyn oedd yn iawn yn ei olwg ei hun.’ (Barnwyr 17:6). Anhrefn llwyr oedd hi yn hanes cenedl Israel yn ystod y cyfnod hwnnw, fel sawl gwaith ar ôl hynny. Felly’n union y mae hi yn ein hanes ninnau pan wrthodwn hawl Duw arnom. Gwelir bai ar yr ifainc, ar rieni, ar ysgolion ac ar grefydd. Ond y gwir yw, ‘troesom bawb i’w ffordd ei hun’ a gwrthod y Duw sydd am ein tywys i ‘borfeydd gwelltog’.