‘Mor werthfawr yw dy gariad, O Dduw! Llochesa pobl dan gysgod dy adenydd.’
Salm 36:7
Daw’r defosiwn isod allan o lyfr Mari Jones Daw’r Wennol yn ôl a gyhoeddwyd gan y Mudiad nifer o flynyddoedd yn ôl.
Yr Iâr a’i Chywion
A chaniatáu i’r wyau fod yn y tymheredd cywir dan yr iâr neu mewn deorydd (incubator), ymhen tair wythnos gallwn ddisgwyl cnoc fach ar blisgyn yr wyau, ac yna un arall, ac ymhen ychydig dyna flaen pig cyw bach i’r golwg drwy’r twll. Gallwn fentro wedyn y bydd rhywbeth tebyg yn digwydd i’r gweddill o’r wyau.
Cynlluniwyd blaen pig cyw bach fel caib fechan i dorri drwy’r plisgyn. Fe’i cyll yn ddiweddarach wedi iddo gwblhau ei ddiben.
Dyna lawenydd sydd o ganfod fod bywyd newydd ar fin ymddangos. Am ysbaid wedyn ni fydd dim yn digwydd. Yna symudiad bach arall a daw rhagor o ben y cyw bach i’r golwg. Wedyn, dyna ddarn mwy eto o blisgyn yn disgyn i lawr, a chyn hir daw hanner y cyw i’r golwg.
A ninnau efallai ychydig yn ddiamynedd o eisiau gweld y cyw bach i gyd, daw awydd trosom i roi hwb bach iddo a’i gynorthwyo i ddod allan. O dorri y plisgyn ein hunain, hawdd iawn fyddai i ni ei ddolurio a pheri iddo waedu. Ni fuasai’n garedigrwydd o gwbl i’r cyw bach. Mae ‘amser i eni’, ac at hynny, mae geni i ddigwydd yn ei amser ei hun.
Am iddo ymdrechu ac ymladd ei ffordd allan o’r plisgyn, bydd y cyw bach gymaint â hynny’n fwy abl i wynebu’r byd. Rhaid plygu i’r drefn fod poen ynghlwm wrth bob genedigaeth. Ac os yw’r wyau dan ei gofal, fe wna’r iâr ei gorau glas i’n rhwystro rhag ymyrryd. ‘Gadewch lonydd’ yw ei phrotest. Cefais sawl pigiad cyn dysgu’r wers.
Yn fuan wedi deor y cywion, gwelwn yr iâr yn falchder i gyd ar y buarth yn arddangos ei thylwyth bach – talpiau o beli bach melyn, blewog yn symud o gwmpas yn fân ac yn fuan.
Mae’n ddiddorol gwrando ar y gwahanol gyfarchion sydd ganddi wrth gyfathrebu a’i chywion.
Ar ôl iddi fod wrthi’n crafu a chwalu â’i thraed, a dod o hyd i rywbeth at ei chwaeth – pryf genwair, efallai – fe’i tyr yn fan i’w rannu. Yna geilw’n gynhyrfus ar ei theulu bach i ddod i gyd-wledda ar y tamaid blasus. Byddant yno’n ddiymdroi, bob un am y cyntaf i ymateb i’r gwahoddiad!
Dro arall, ar ôl ysbaid o chwilio a chwalu, daw blinder i’w cyrff bach prysur, a daw galwad i orffwyso – ‘siesta’ fach. Lleda’r iâr ei hadenydd ar y llawr, gan gymell ei rhai bach – yn dawel y tro hwn – i guddio oddi tani. Deallant y gwahoddiad i’r dim. Byddant yno mewn fawr o dro, yn gyfforddus, gynnes, braf. (Er y ceir, mae’n wir, ambell un mwy busneslyd na’i gilydd sy’n mynnu pipian ei ben drwy blu ei hadenydd er mwyn peidio â cholli dim sy’n digwydd yn y byd mawr oddi allan!)
Galwad â nodyn tra gwahanol a glywir gan yr iâr pan synhwyra fod rhyw aderyn ysglyfaethus, neu berygl o fath arall, yn bygwth. Mae ei chri yn cyfleu argyfwng. Gorchymyn ydyw i lochesu oddi tani’n ddiymdroi yng nghuddfan ei diogelwch. Nodyn cynhyrfus sydd iddo, yn hawlio ufudd-dod ar unwaith. A’r pryd hwnnw, gwae’r cyw bach sy’n ddi-hid ac anufudd i’r rhybudd neu’r un a grwydrodd y tu hwnt i glyw ei galwad.
Rhyfeddwn at ofal yr iâr am ei chywion, ond nid yw ond adlewyrchiad gwan o gariad ein Tad nefol at y sawl sy’n ufuddhau i’w alwad i edifarhau a dod ato mewn ffydd. Ac o ddod ato, fe gaiff bopeth y bydd ei angen arno: bwyd, gorffwys, cysgod a diogelwch.
Rhybuddiodd yr Arglwydd Iesu Grist Jerwsalem, y ddinas a gafodd y fath freintiau, fel y rhybuddia ni heddiw: ‘O Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi ac yn llabyddio’r rhai a anfonir atat. Pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech!’ (Luc 13:34; Mathew 23:37).
‘Nis mynnech!’ Dyna eiriau ofnadwy! Ond o ildio i’w alwad, fe ddwg ein heneidiau i ddiogelwch yn awr ac i dragwyddoldeb. Sut y gallwn wrthod y fath alwad rasol!
‘Cuddia fi dan gysgod dy adenydd.’ Salm 17:8
‘Bydd yn cysgodi drosot â’i esgyll, a chei nodded dan ei adenydd; bydd ei wirionedd yn darian a bwcled.’ Salm 91:4