Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 29 Mai 2020

28 Mai 2020 | gan Elin Bryn | Rhufeiniaid 8

Os yw Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu oddi wrth y meirw yn cartrefu ynoch, bydd yr hwn a gyfododd Grist oddi wrth y meirw yn rhoi bywyd newydd hefyd i’ch cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd, sy’n ymgartrefu ynoch chwi.

Rhufeiniaid 8:11

Neithiwr daeth ryw awydd arnaf i fynd at y piano i weld os fyddai’r awen i gyfansoddi’n fy nharo. Dechreuais chwarae ambell i gord, yna ymestyn at Caneuon Ffydd i ddewis geiriau i roi ar alaw. Digwyddais droi i’r adran ‘Y Bywyd Cristnogol a’r Bywyd Tragwyddol’ a dod ar draws emyn cyfarwydd Pantycelyn, ‘Boed fy nghalon i ti’n demel.’

Wedi chwarae o gwmpas hefo alaw a chordiau am ryw ychydig, mi fodlonais ar beth oedd gen i a dechrau myfyrio mwy ar y geiriau wrth ganu. Er fy mod wedi eu canu sawl gwaith, ac wedi cael bendith ohonynt, fe sylweddolais eto neithiwr hyfrydwch gwirionedd y geiriau hyn.

Bellach rhyw hen atgof ydy mynychu adeilad y Capel ar y Sul, ac os ydych chi fel fi mae’r atgof yma’n cynnau dipyn o hiraeth ynof. Hiraeth am fod gyda’n gilydd yn deulu’r ffydd yn ein hardal ni, hiraeth am gael gwrando ar Air Duw ac ymateb hefo’n gilydd, hiraeth am gael gweddïo a chyd-ganu hefo’n gilydd, hiraeth am gael clywed a gweld y plant yn cadw reiat a hiraeth am y baned!

Ond yr hyn a gododd fy nghalon wrth i mi ganu oedd y gwirionedd nad oes rhaid i mi hiraethu am gael mynd i mewn i bresenoldeb Duw. Mae drysau’r Capel wedi cau, do. Ond fe rwygwyd y llen o’r top i’r gwaelod! Nid oes rhwystr rhag dod yn agos at Dduw bellach. Wrth i ni ddarllen yr adnod yma o lythyr Paul at y Rhufeiniaid (8:11) fe welwn yn glir nad oes cyfyngiadau bellach!

Mae’n Harglwydd Dduw wedi dod i ymgartrefu ynom ni! Ac os yw’n ymgartrefu ynom mae’n dod a rhoi bywyd newydd i ni. Cyn i Dduw ein hachub ni, roeddem yn farw’n ysbrydol, yn bell oddi wrtho, yn llygredig. Ond rŵan rydym yn fyw ac wedi’n dewis i fod yn blant i Dduw! Onid ydy’r gwirionedd yma yn ein hachosi i ganu’n llawen:

‘Ac o fewn y drigfan yma
Aros, Iesu, aros byth:
Gwledd wastadol
Fydd dy bresenoldeb im.’

 

Efallai ein bod ni wedi’n nadu’n ddiweddar rhag y pleserau oedd ar gael i ni cyn-cofid, ac mae’n rhy hawdd i ni droi’n golwg at yr hyn sydd ar goll ac ymgolli yn y dyheu wrth hiraethu. Nid dweud ydw i nad oes lle i hiraethu, ond y perygl ydy ein bod yn dueddol o drigo gormod yn ein hiraeth. Gwyddwn fy mod i wedi trigo’n ormodol ynddo’n ddiweddar. Ond pan gofiwn beth yw’r gwirionedd, bod gennym gwmpeini pur ein Duw, yn wastadol. Cofiwn a llawenhau oherwydd mae hyn yn ‘rhagori fil o weithiau ar bleserau gwag y byd’. Felly, os ydyn ni’n hiraethu heddiw, beth am droi at yr emyn hon a’i chanu i’n hatgoffa bod lle i’n henaid fod wrth ei fodd.

Elin Bryn, Capel y Ffynnon​, Bangor