Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 28 Mai 2020

27 Mai 2020 | gan Dewi Tudur | Hebreaid 4

Gan fod gennym, felly, Archoffeiriad mawr sydd wedi mynd i’r nefoedd, sef Iesu, Mab Duw, gadewch i ni lynu wrth ein cyffes.

Hebreaid 4:14

 

Mae’r pregethwr enwog, John Elias, yn dweud mewn pregeth fod Yr Arglwydd Iesu Grist wedi mynd i’r Groes yn cario tri pheth – ein pechod, ein natur a’n henwau ac mai’r unig beth adawyd yno oedd ein pechod. Golyga hyn ei fod wedi mynd i’r Nefoedd yn cario ein natur a’n enwau!

Fel dyn yr esgynnodd ac fel dyn y mae’n eistedd ar ddeheulaw Duw yn Teyrnasu ac yn Eiriol dros ei bobol. Heddiw, mae’r Arglwydd Iesu Grist yn mwynhau’r gogoniant oedd yn eiddo iddo cyn bod y byd (Ioan 17:5), mae ganddo awdurdod ar bob cnawd (Effesiaid 1:21) ac y mae’n ymarfer yr awdurdod yna er mwyn ei bobl (Effesiaid 1:22). Dyma’r Eiriolwr – nos a dydd, nid yw ei bobol yn angof ganddo! Mae’n ymarfer ei rym a’i awdurdod er mwyn ei eglwys, ac mae hynny’n golygu pawb sydd wedi credu ynddo. “Agorai’r môr pe byddai raid/Mae’r afael sicraf fry.”

Dyma gysur llawn i bobol Iesu Grist. Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu ac Ef sydd ar ddeheulaw Duw yn llywodraethu yn ei fyd. Oherwydd ei waith gorffenedig ar y groes, mae’r Gwaredwr hwn yn teyrnasu a rhaid i ni gredu a phwyso ar y gwirionedd yma.

Ond nid dim ond credu’r peth yn oeraidd mae Duw am i ni wneud, mae hefyd am i ni gael profi hyn. Sylwch sut mae’r awdur yn cyfeirio at ein Harglwydd yn Hebreaid 4:14 – Iesu – dyma’r enw sydd yn ein cyfeirio at ei ddyndod. Dyna pam ei fod yn cyfeirio ato fel un sy’n cyd-ddioddef gyda’n gwendid ac fel un sydd wedi ei demtio, fel ninnau. Dyma pam hefyd ei fod yn ein hannog i nesáu at orsedd gras er mwyn i ni brofi’r trugaredd a’r gras sydd gan y Gwaredwr i’r bobol sy’n dymuno glynu wrtho.

Mae rhai pobol, wrth gael dyrchafiad mewn swydd ac wrth ddringo’r ysgol gymdeithasol yn anghofio hen ffrindiau – ydach chi’n cofio’r yuppies!! Nid felly’r Arglwydd Iesu Grist. Oherwydd, mae Ef yn cario enw pob un o’i bobol. Roedd yr enwau yna ar ei galon pan aeth i’r Groes ac mae’r un enwau yno heddiw. Mae’n adnabod ei bobol wrth eu henwau (Ioan 10:3). Felly, dyma’r ail gysur mawr, nid yn unig ei fod yn teyrnasu, ond mae’n gwneud hynny gyda golwg ar anghenion ei bobol. Mae’n Eiriolwr ac yn Ddiddanydd a gwelwn y ddwy swydd yn un ym mherson a gwaith yr Arglwydd Iesu Grist.

Ond sut mae profi hyn? Mae’r ateb yn syml, yr un Iesu sydd gennym heddiw ag oedd yn ei ddyddiau yma ar y ddaear. Dyma’r un oedd yn gafael mewn pobol oedd yn wahanglwyfus, ac oedd yn siarad yn dosturiol gyda phechaduriaid o bob gradd, Phariseaid a phuteiniaid! Yr un yw ei wahoddiad heddiw “Deuwch ataf fi bawb…”, does dim rhaid i neb gadwi’i bellter oddi wrtho Ef, mae hwn yn derbyn pechaduriaid. Wrth dderbyn y gwahoddiad i nesáu ato mewn gweddi, boed i ni gredu yn ei benarglwyddiaeth a gorffwys ar hynny. Boed i ni hefyd brofi ei ras a’i nerth gan ei fod Ef yn byw bob amser yn eiriol drosom (Hebreaid 7:25). Yr unig beth nad yw bellach yn cario yw ein pechod gan ei fod wedi delio gyda nhw ar y groes (Eseia 43:25).

Cadwch yn saff – ym mhob ystyr!!

Dewi Tudur, Eglwys Efengylaidd Ardudwy