Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 28 Ebrill 2020

4 Mai 2020 | gan Steffan Job | Salm 42

Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog, felly y dyhea fy enaid amdanat ti, O Dduw. Y mae fy enaid yn sychedu am Dduw, am y Duw byw; pa bryd y dof ac ymddangos ger ei fron?

Salm 42:1-2

 

Mae’r wythnosau diwethaf wedi profi y medrwn wneud heb rai pethau. Mae Kebabs, Coffi Starbucks a siocled Cadburys Dairy Milk yn braf, ond nid oes yr un yn hanfodol! Ond mae un peth na all unrhyw wir blentyn i Dduw ei wneud hebddo, a Duw ei hun yw hynny.

Yn amlwg ni all unrhyw berson na dim a grëwyd wneud heb Dduw. Mae’n cynnal pob peth, fel y dywedodd Ioan “Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod.” Ffolineb llwyr yw dweud nad oes Duw a phechod ofnadwy yw cymryd popeth y mae’n roi yn ganiataol. Mae popeth yn y cosmos yn gwbl ddibynnol ar Dduw – Tad, Mab ac Ysbryd Glân, a bydd pawb ryw ddydd yn ymgrymu o’i flaen.

Ond ni all y Cristion wneud heb Dduw mewn ffordd ddyfnach fyth. Mae wedi profi Duw, wedi blasu ei ddaioni ac wedi cael calon newydd sy’n curo am Un yn unig. Mae ei lygaid a’i galon wedi cael eu hagor i weld gwir realiti, dyfnder a harddwch rhyfeddol sancteiddrwydd, cariad a mawredd Duw. Efallai na fyddwn byth yn ei adnabod yn llawn, ond mae gennym dragwyddoldeb i blymio’r dyfnderoedd – geilw dyfnder ar ddyfnder fel mae’r Salm yn mynd ymlaen i ddweud. Ni fydd unrhyw beth arall byth yn bodloni, ac ni fydd Duw yn gadael i un o’i blant gerdded i ffwrdd oddi wrtho.

Wyt ti’n sychedig?

Gristion, rwyt ti mewn perthynas â’r Duw rhyfeddol! Fe’th ddewiswyd, dy achub a’th osod ar lwybr i ogoniant gan dy Dad. Mae gennyt fynediad i orsedd y nefoedd trwy’r Arglwydd Iesu Grist a medri siarad â’th wneuthurwr trwy’r Ysbryd. Nid oes ond Un a all fodloni dy syched.

Sut bynnag yr wyt yn teimlo heddiw a beth bynnag fo dy amgylchiadau, rhaid adleisio’r geiriau hyn a gweddïo am faich dyfnach i adnabod y Duw byw. Ni allwn wneud hebddo.

Steffan Job (Capel y Ffynnon, Bangor)