Gwyn ei fyd y sawl nad yw’n dilyn cyngor y drygionus nac yn ymdroi hyd ffordd pechaduriaid nac yn eistedd ar sedd gwatwarwyr, ond sy’n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.
Salm 1:1-2
I ble rydyn ni’n edrych?
Pan fyddwn ni’n rhannu newyddion rydyn ni’n aml yn dechrau trwy ofyn p’un ydych chi am glywed gyntaf, y da neu’r drwg. Y cadarnhaol neu’r negyddol? Er bod Salm 1 yn dechrau gyda’r negyddol gallwn synio’r cadarnhaol: trwy ddweud beth na ddylai dyn cyfiawn ei wneud gwelwn y gwrthwyneb.
1. ‘Cyngor y drygionus’
Mae’r gair ‘cyngor’ yn ein hatgoffa o gynghorwr, y person rydyn ni’n edrych ato am arweiniad a doethineb. Ydyn ni’n troi at y byd? Wel ydyn, mewn rhai achosion. Pe bai gen i broblem feddygol byddai’n well gen i fynd at y Doctor nag at y Gweinidog! Ond, ar y cyfan, ydy’n penderfyniadau oes ynglŷn â swydd, arian, teulu ayb wedi’u gwreiddio yn y byd neu mewn doethineb Beiblaidd a chyngor duwiol?
Yn gyffredinol, beth yw ein HAGWEDD ni at fywyd?
2. ‘Ymdroi hyd ffordd pechaduriaid’
Mae’n ymddangos mai ‘ymweld’ â’r byd i geisio cyngor wna’r gŵr yn rhan gyntaf adnod 1. Ond wedyn mae’n ‘ymdroi’ yn y byd, yn sefyll ochr-yn-ochr â phechaduriaid ac yn cael ei uniaethu â nhw. Yr awgrym yma yw bod ymddygiad y byd yn cael ei efelychu.
Ydi’n HYMDDYGIAD ni’n efelychu’r byd neu’n sefyll allan am ei fod yn gwbl wahanol?
3. ‘Eistedd ar sedd gwatwarwyr’
Mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth – o ‘ymweld’, i ymdroi, i eistedd. Yma gwelwn ddarlun o berson sy’n setledig ac yn gartrefol ymhlith yr annuwiol: mae wedi dod o hyd i’w orffwysfa. Dyma lle mae’r anghyfiawn yn gysurus. Rydyn ni, o reidrwydd, i fyw ein bywyd ymhlith anghredinwyr (fel arall sut gallwn ni rannu’r Efengyl?) ond ddylem ni ddim teimlo’n gartrefol yn eu plith. Pan fyddwn ni ymhlith cydweithwyr, ffrindiau a theulu, ydyn ni’n ymwybodol o’r gwahaniaeth?
Ble rydyn ni’n fwyaf CYSURUS?
4. ‘Hyfrydwch’
Mae’r Salmydd yma’n symud o’r negyddol i’r cadarnhaol. Yng Ngair Duw y dylai’r crediniwr gael ei hyfrydwch pennaf: trwy ei ddarllen daw’n debycach iddo ef. Dylai’n hamser-tawel dyddiol fod yn bleser ac nid yn fwrn.
Ydyn ni’n cael HYFRYDWCH yn ein hamser-tawel dyddiol?
5. ‘Yng nghyfraith yr Arglwydd’
Trwy gael ei hyfrydwch yng Ngair Duw mae’r crediniwr yn dysgu oddi wrth wahanol esiamplau sut i fyw’n dduwiol. Yr esiampl orau, wrth gwrs, yw’r Arglwydd ei hun. Rhaid i ni batrymu’n bywyd ar un o ddau ddewis, y cyfiawn neu’r anghyfiawn.
O ble rydyn ni’n cymryd ein HESIAMPLAU?
6. ‘Myfyrio…ddydd a nos’
Mae gan bob un ei ffordd wahanol o ddelio â thaflenni cyfarwyddiadau. Mae rhai’n eu darllen yn fanwl o glawr i glawr heb gymaint ag edrych at beth mae’r instructions yn cyfeirio. Mae eraill yn troi atyn nhw fel eu gobaith olaf pan fydd pethau wedi mynd i’r pen. Dylai Gair Duw fod yn fwy na llyfr i droi ato am gyfarwyddyd pa ddaw hi’n ‘ben set’ arnon ni: dylem fod yn troi ato yn ddyddiol am gyfarwyddyd. Dylai un o egwyddorion cenhadaeth y traethau (UBM), ‘Cariad at Ei Air’, nid yn unig ein sbarduno i’w rannu ond hefyd i’w wneud yn ffocws ein holl fywyd. Ond peidiwn ag anwybyddu ‘Cariad at yr Arglwydd’, un arall o’i hegwyddorion, am eu bod nhw wedi’u cyd-glymu’n annatod. Mae angen i ni gadw hynny mewn cof bob amser.
Ble mae’ch FFOCWS chi?
Tirzah Jones, aelod yn Eglwys Malpas Road, Casnewydd