Felly, bydded i’r sawl sy’n tybio ei fod yn sefyll, wylio rhag iddo syrthio.
1 Corinthiaid 10:12
Daw’r defosiwn isod allan o lyfr Mari Jones Yng Nghysgod y Gorlan a gyhoeddwyd gan y Mudiad nifer o flynyddoedd yn ôl.
Pregeth y Coed
‘Sut aeth hi arnoch chi, a pham y digwyddodd?’ oedd y cwestiynau a ofynnem i’n gilydd am ddyddiau ar ôl y storm erchyll o wynt a gawsem – eu gofyn yn aml a mân lechi a brigau dan draed.
I ledu un rhan o’r ffordd dyrpeg yn ddiweddar bu rhaid symud y rhes agosaf allan o goed gleision y fforest. Sylwyd mor wreiddiog oeddynt. Gan mai hwy a wynebai ddannedd y ddrycin amlaf, gorfu iddynt wthio eu gwreiddiau yn ddwfn am gadernid. Yn garedig cysgodent weddill y coed, ac ni fu rhaid iddynt hwy afradu eu nerth i wreiddio’n isel. Rhyw fyw yn arwynebol fu eu hanes, gan ganolbwyntio eu tyfiant ar i fyny mewn ymchwil am oleuni. Ni fu iddynt drafferthu hyd yn oed i ffurfio canghennau, ond at y brig. Lle ceir unrhyw fath o fywyd, ymdrech am oleuni yw hi bob amser. Ond fe hyrddiwyd hwy i lawr yn draphlith gan y storm. A dyna dristwch ddaeth trosom trannoeth o weld mor noeth y fan.
Yn ysglyfaeth i’r storm hefyd syrthiodd llu o hen goed yn bendramwnwgl i’r llawr, rhai oedd wedi dal sawl ysgytfa cyn hyn. Fe leda pob coeden ei gwreiddiau fwyaf i’r cyfeiriad lle y tery’r gwynt amlaf. Daeth y gwynt y tro hwn o gyfeiriad annisgwyl, a thrawyd hwy yn eu gwendid, mewn man yr esgeuluswyd ei warchod. Prawf oedd y storm yma ar goed ifainc diwreiddiau ac ar hen rai diddarpar.
Ger y ffordd dan y tŷ, safai onnen fawr, ac yn y fan lle gwahanai’r boncyff yn ddwy brif gangen, gwahoddwyd gwlybaniaeth i aros yno. Mae’n amlwg iddo droi yn bydredd. Daeth un o’r canghennau anferth yma i lawr yn garnedd, gan rwystro trafnidiaeth am gyfnod. Hawdd gweld y dilynir hi eto gan y llall. ‘Chydig a wyddem am y gwendid nes y’i profwyd gan y storm.
Rhywbeth diniwed iawn yw gweld sbrigyn o eiddew yn dechrau crafangio ei ffordd i fyny coeden. Am na all fyw arno’i hunan, cynydda drwy nadreddu ei hun am y pren a gwthio ei wreiddiau drwy’r croen i sugno o’i nodd. Os datgysylltir o’r ddaear eiddew a dyfodd ar dalcen adeilad, buan y gwywa; ond er dadwreiddio eiddew a ddringodd goeden gall hwnnw barhau i fyw. Fel y cynydda dwg fwyfwy o nodd y goeden, mwy yn wir nag a all hi ei hepgor. Yr eiddew yn awr yw’r meistr; mae’r goeden bellach dan ei awdurdod; ganddo fo mae’r gair olaf. Dedfrydodd eiddew sawl coeden i farwolaeth. Tybed a sylweddolodd y dinistriai ei hun yr un pryd? Roedd y rhaff am ei wddf yntau hefyd!
Ni raid wrth storm fawr i ddymchwel coeden â chancr ynddi, neu â’i bywyd wedi ymrannu a’i ysbeilio gan arall.
Gyfeillion, os caiff rhywun ei ddal mewn rhyw drosedd, eich gwaith chwi, y rhai ysbrydol, yw ei adfer mewn ysbryd addfwyn. Ond edrych atat dy hun, rhag ofn i tithau gael dy demtio. Galatiaid 6:1