Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 23 Mai 2020

22 Mai 2020 | gan Samuel Oldridge | Hebreaid 12

Am hynny, gan fod cymaint torf o dystion o’n cwmpas, gadewch i ninnau fwrw ymaith bob rhwystr, a’r pechod sy’n ein maglu mor rhwydd, a rhedeg yr yrfa sydd o’n blaen heb ddiffygio, gan gadw ein golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ffydd. Er mwyn y llawenydd oedd o’i flaen, fe oddefodd ef y groes heb ddiffygio, gan ddiystyru gwarth, ac y mae wedi eistedd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw.

Hebreaid 12:1-2

 

Teimlo fel rhoi’r ffidil yn y to?

Weithiau mae’r bywyd Cristnogol yn teimlo mor anodd nes ein bod yn cael ein temtio i daflu’r cwbl i ffwrdd unwaith ac am byth. Wedi’r cyfan, gallem ofyn sut alla i barhau i ymddiried pan fo popeth yn mynd o’i le? Sut mae dal ati i frwydro er mod i fel petawn i’n colli dro ar ôl tro? Sut mae dal ati mewn ras sydd fel petai heb linyn terfyn?

Mae’n bosib mai nid rhoi’r ffidil yn y to sydd arnoch chwant ei wneud, ond eich bod wedi blino’n ysbrydol ac yn ansicr sut i gario ymlaen.

Gwrandewch ar Hebreaid 12:1-2.

Nid ni yw’r cyntaf i redeg ras ffydd. Mae tyrfa niferus, amhosib ei chyfri, yn y gogoniant sydd wedi cwblhau’r ras a derbyn y wobr. Trwy ffydd, fe wynebon nhw dreialon ac anhawsterau heb roi fyny (gweler Hebreaid 11). Yn yr un modd mae angen i ninnau ddal ati.

Er pa mor ryfeddol yw’r gwirionedd yma, mae rhywbeth arall eto i’n cymell ymlaen drwy dreialon ras ffydd. Edrychwn ar Iesu a oddefodd boen a gwarth y groes “er mwyn y llawenydd oedd o’i flaen”. Y llawenydd hwn sy’n ein cymell mor daer i ddal ati. Ond sut beth oedd y llawenydd oedd o flaen yr Iesu?

1. Y llawenydd o gyflawni ewyllys ei Dad.

Hyd yn oed fel bachgen cai Iesu lawenydd o gyflawni ewyllys ei Dad nefol. Pan ddaeth ei rieni o hyd iddo yn y deml a’i holi, ei ateb oedd “Oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthyn i’m Tad?” (Luc 2:49) Mewn unigrwydd, torcalon, dioddef, gwarth ac yn y pendraw mewn marwolaeth, y llawenydd yma oedd yn cynnal yr Iesu. Achos, gyda’r Salmydd, â’i law ar ei galon gallai dystio “Da gennyf wneuthur dy ewyllwys, O fy Nuw: a’th gyfraith sydd o fewn fy nghalon.” (Salm 40:8). A ninnau’n blant Duw drwy ffydd, gadewch i ni ddal ati gan hoelio’n llygaid ar y llawenydd ddaw o gyflawni ewyllys Duw.

2. Y llawenydd o ennill “y rhai a roddaist i mi”(Ioan 17:9) yn eiddo iddo Ef ei hun.

Yng ngeiriau’r emynydd William Williams, Pantycelyn:

‘Fe ddaeth i wella’r archoll
Trwy gymryd clwyf ei Hun –
Etifedd nef yn marw
I wella marwol ddyn:
Yn sugno  maes y gwenwyn
A roes y sarff i ni,
Ac wrth y gwenwyn hwnnw
Yn marw ar Galfari.’

 

A pham fyddai Iesu’n gwneud hynny? Er mwyn y llawenydd o achub pechaduriaid Iddo’i Hun. Am ba reswm arall fyddai’r Iesu’n dweud wrth ei ddisgyblion ei fod yn mynd i baratoi lle iddynt a “Mi a ddeuaf drachefn, ac a’ch cymeraf chwi ataf fy hun; fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd (Ioan 14:3). Am ei fod yn eu caru ac yn ymhyfrydu ynddyn nhw. Gan ein bod yn blant Duw wedi’n prynu â gwaed, ac er mwyn i eraill gael eu dwyn i mewn i’r un mabwysiad, gadewch i ni ddal ati.

3. Y llawenydd o ddod i mewn i’w ogoniant

Yn nyddiau cynnar ei weinidogaeth wynebodd yr Iesu nifer o demtasiynau. Ceisiodd un o’i gyfeillion agosaf ei atal rhag mynd i’r groes hyd yn oed. Ond ni lwyddwyd atal yr Iesu rhag gorffen yr hyn y daeth i’r byd i’w gyflawni. Cymerodd y llwybr at y groes gan osod ei wyneb “fel callestr” (Eseia 50:4-9) tuag at y nod. A pham? Gan nad oedd llwybr arall fyddai’n ei arwain i’w ogoniant. Dioddefaint oedd seiliau’r llwybr yma at ei ogoniant. A’r un yw’n hanes ninnau. Mae’r gogoniant sydd o’n blaen yn gwbl sicr, yr un mor sicr a’r anhawsterau fydd ar hyd y llwybr. Felly, fel plant annwyl fydd yn etifeddu’r gogoniant – gadewch i ni ddal ati.

Teimlo fel rhoi’r ffidil yn y to? Digon posib. Am wneud hynny go iawn? Byth bythoedd.

Sam Oldridge, Borras Park