Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 20 Mai 2020

19 Mai 2020 | gan Steffan Job | Ioan 5

Parodd hyn i’r Iddewon geisio’n fwy byth ei ladd ef, oherwydd nid yn unig yr oedd yn torri’r Saboth, ond yr oedd hefyd yn galw Duw yn dad iddo ef ei hun, ac yn ei wneud ei hun felly yn gydradd â Duw.

Ioan 5:18

 

Sut ydyn ni’n gweld Iesu?

Yn ddiweddar roeddwn yn edrych ar baentiad o Iesu – roedd wedi ei ddarlunio fel dyn siriol gwyn, gyda gwallt yn llifo ac wedi ei amgylchu gan nifer o bobl yn syllu ar ei wyneb yn llawn parch a chariad. Er nad ydym yn gwybod sut olwg oedd ar Iesu mewn gwirionedd (yn sicr nid fel y llun hwnnw!), rydym yn gwybod nad oedd ei fywyd bob amser yn hawdd, ac nid oedd torfeydd bob amser yn ei addoli.

Fe allai achosi gwrthdaro ac anesmwythyd go iawn mewn pobl – yn enwedig yr arweinwyr crefyddol. Yn yr adnod hon a ddaw ar ddiwedd y darn lle mae Iesu wedi iacháu’r dyn wrth bwll Bethesda, gwelwn fod yr arweinwyr crefyddol yn galw am waed ac yn ei gasáu.

Fel pe na bai dweud wrth y dyn am gario ei wely ar y Saboth ac felly torri traddodiad yr henuriaid yn ddigon drwg. Roedd yn honni ei fod yn Dduw ei hun! Roedd Iesu’n chwalu eu delfryd arwynebol o grefydd, gan ddangos na allai dilyn rheolau yn unig wneud person yn iawn gyda Duw. Roedd angen i rywbeth dyfnach ddigwydd, a thrwy eu hymateb i Fab Duw oedd yn sefyll o’u blaenau, roedd y dynion hyn yn condemnio eu hunain.

Mae’n hawdd inni sefyll yn ôl a chondemnio’r dynion hyn hefyd, ond rhaid inni fod yn ofalus nad ydym yn gwneud yr un peth.

Ni allwch roi Iesu mewn blwch, hyd yn oed blwch cadarn diwygiedig ac efengylaidd! Trwy adfywiad y galon gan yr Ysbryd, braint pob gwir blentyn i Dduw yw plygu a chydnabod Iesu yn Arglwydd. Rhaid i Iesu ddod uwchlaw pob traddodiad, ac yn anad dim ein teimladau a’n rhagfarnau. Ef yw delwedd y Duw anweledig a chyntaf-anedig y greadigaeth. Ef yw’r un cyfryngwr rhwng Duw a dynion, y gonglfaen, a goleuni’r byd.

Gadewch inni wynebu heddiw gyda gostyngeiddrwydd mawr gan wasanaethu Iesu – nid yn unig fel yr un a roddodd ei fywyd drosom, ond fel Brenin ac Arglwydd pawb!

Steffan Job, Capel y Ffynnon, Bangor​