Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 2 Mehefin 2020

28 Mai 2020 | gan Bill Hughes | Actau 13

Wedi hwylio o Paffos, daeth Paul a’i gymdeithion i Perga yn Pamffylia. Ond cefnodd Ioan arnynt, a dychwelyd i Jerwsalem. Aethant hwythau yn eu blaenau o Perga a chyrraedd Antiochia Pisidia, ac aethant i’r synagog ar y dydd Saboth, ac eistedd yno. … Cododd Paul, ac wedi amneidio â’i law dywedodd: “Chwi Israeliaid, a chwi eraill sy’n ofni Duw, gwrandewch.”

Actau 13:13-14, 16

 

Hoffwn rannu rhai meddyliau gyda chi a ysgogwyd gan y darn yn Actau 13 lle dywedir wrthym fod dyn ifanc yn yr eglwys yn Antioch o’r enw Ioan Marc, a oedd wedi mynd gyda Paul a Barnabas i’w helpu yn eu gwaith dros yr Efengyl.

Pan oedden nhw yn Perga, am ryw reswm trodd Ioan Marc yn ei ôl, gadael y gwaith, a dychwelyd i Jerwsalem. Wyddon ni ddim ai rhesymau iechyd oedd yn gyfrifol, neu a oedd yn costio gormod iddo, neu a oedd eisiau cysur eglwys ei gartref.  Efallai oherwydd ei fod yn ddyn iau, credai nad oedd yn cael y cyfleoedd roedd yn eu haeddu neu nad oedd yn cael ei werthfawrogi’n ddigonol. Beth bynnag oedd y rheswm, fe drodd ei gefn ar y lleill, ac aethon nhw ymlaen hebddo. Yn nes ymlaen arweiniodd hyn at ddadl ffyrnig rhwng Paul a Barnabas pan benderfynodd Ioan Marc yr hoffai ymuno â nhw eto. Roedd Barnabas eisiau iddo fynd gyda nhw, ond roedd Paul yn teimlo oherwydd ei fod wedi troi ei gefn ar y gwaith unwaith, nad oedd yn addas i gymryd rhan eto. Roedd yr anghydfod mor ddifrifol nes peri i Paul a Barnabas wahanu. Profodd Ioan Marc ei werth yn y pen draw ac ailgydiodd yn ei wasanaeth ac yng nghymdeithas ei gydweithwyr fel y mae 2 Timotheus 4:11 yn egluro. Nid oes dwywaith nad oedd y digwyddiad cyfan yn peri gofid mawr, ac fe gododd yn syml oherwydd bod un dyn wedi penderfynu am ba reswm bynnag, ei fod am adael gwaith Duw.

Mae yna adegau pan fydd dyn neu fenyw yn dechrau dangos amharodrwydd mawr i gymryd rhan yng ngwaith Duw, neu efallai’n colli diddordeb ynddo.  Gallan nhw ganiatáu i gysuron cartref a’r teulu a phatrwm sefydlog eu bywyd presennol eu hatal rhag dilyn yr hyn y mae Duw yn galw arnynt i fod ac i’w wneud.

Mae hyn oll yn ein hatgoffa bod ein bywydau a’n gwasanaeth yn nwylo Duw yn y pen draw. Gall ein rhoi mewn eglwysi neu sefyllfaoedd addas lle gallwn ei wasanaethu. Ar y llaw arall, wrth i ni ei wasanaethu fe all ein hatal rhag cael cyfleoedd pellach. Gall ein hannog ond gall hefyd ein rhwystro ar brydiau. Ond mae’r cyfan yn cael ei wneud mewn cariad mawr a chydag amynedd mawr, a gyda phwrpas doeth. Efallai y bydd yn tarfu ar ein hamgylchiadau er mwyn inni dyfu’n ysbrydol ac er mwyn i ni fyw bywyd mwy defnyddiol byth mewn maes gwasanaeth gwahanol.

Mae rhai ohonom wedi darganfod bod yr hyn yr oeddem yn ei ofni, neu’n poeni fwyaf amdano mewn perthynas ag ewyllys Duw ar ein cyfer, wedi dod yn rhywbeth llawer ehangach a dyfnach nag yr oeddem erioed wedi’i feddwl neu ei ddychmygu. Fe’n harweiniwyd i fan lle cawsom fendith fwy a gwasanaeth ffrwythlon.

Mae ystyriaeth arall yn codi o’r darn hwn. Gall bod mewn lle fel yr eglwys yn Antioch lle mae Duw yn gweithio ac yn bendithio fod yn fraint enfawr, ond gall hefyd fod yn beryglus. Gallwn dybio, oherwydd bod y gwaith yn mynd rhagddo, ein bod ni ein hunain yn symud ymlaen gyda Duw, ac efallai nad yw hynny’n wir.

Dyw hi ddim o reidrwydd yn beth iach edrych i mewn drwy’r amser, gan ein harchwilio ein hunain a’n meddyliau, ein gweithredoedd a’n cymhellion a meddwl tybed beth mae’r Arglwydd yn ei wneud gyda ni. Serch hynny, o bryd i’w gilydd mae’n angenrheidiol ac yn llesol gwneud hynny, er mwyn gweld a ydym yn gwrando ar lais Duw neu leisiau eraill, neu hyd yn oed ein llais ein hunain. Weithiau dŷn ni ddim yn gwrando o gwbl, oherwydd dŷn ni ddim yn disgwyl i Dduw siarad â ni. Neu efallai oherwydd ein bod yn amharod i’w eiriau ef aflonyddu ar ein bywydau.

Hyd yn oed yn y sefyllfa anarferol hon lle rydyn ni’n cael ein hunain yn cyfarfod gyda’n gilydd trwy dechnoleg fodern, mae Duw yn dal i siarad mor eglur a rhyfeddol trwy Ei fugeiliaid ffyddlon. Mae’r cwestiwn yn codi wedyn: Ydyn ni’n gwrando? Mae angen i ni i gyd roi sylw, a gwrando’n ofalus ar yr hyn y mae’n ei ddweud rhag inni gael ein gadael ar ôl yng ngwaith cyson Ei deyrnas.

Yn gywir ac yn ddiffuant,

Bill Hughes