Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 2 Mai 2020

4 Mai 2020 | gan Steffan Job | Genesis 2

Ac erbyn y seithfed dydd yr oedd Duw wedi gorffen y gwaith a wnaeth, a gorffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith.

Genesis 2:2

 

Pwy sydd yn eich adnabod orau?

Mae’n siŵr y byddai’r atebion gan bawb yn amrywiol – gŵr neu wraig, tad neu fam, brawd neu chwaer neu ffrind hyd yn oed. Mae’n fendith cael person sy’n eich adnabod yn dda, ac mae’n fendith ddyfnach pan fo’r person hwnnw yn ddoeth a deallus. Dyfnhau yn bellach a wnaiff y fendith pan gaiff y cyfan ei uno gyda chariad – medrwn drystio person doeth, sy’n ein hadnabod ac sydd eisiau’r gorau i ni. Gwnawn yn dda i wrando ar gyngor a chymorth y math hwn o berson.

Does neb yn eich adnabod chi yn well na Duw. Does dim yn guddiedig oddi wrtho, ef sydd wedi’ch llunio ac mae yn eich deall yn llwyr – mae hyd yn oed yn gwybod faint o wallt sydd ar eich pen (haws gwybod i rai nag eraill)! Mae Duw hefyd yn hollol ddoeth a hollwybodol fel y dywedodd Paul “O ddyfnder cyfoeth Duw, a’i ddoethineb a’i wybodaeth! Mor anchwiliadwy ei farnedigaethau, mor anolrheiniadwy ei ffyrdd!” Ac wrth gwrs mae’r cyfan wedi ei uno gan gariad rhyfeddol, di droi’n ôl y Tad.

Os oes un y medrwn ymddiried yno, Duw yw hwnnw. Medrwn ddod at ei eiriau yn llawn hyder gan wybod ei fod yn gwybod yn sicr beth sydd orau ar ein cyfer. Fyddai Duw byth yn rhoi gorchymyn neu ganllaw i ni oni bai ei fod er ein lles ac er ei ogoniant, a ffolineb llwyr fyddai anwybyddu’r hyn y mae’n ei ddweud.

Ydych chi’n cael gorffwys?

Gall gorffwys fod yn anodd y dyddiau yma. Mae prysurdeb yn atal rhai, gyda gofalon gwaith, eglwys, y plant neu rywbeth arall yn pwyso ar amser. I rai eraill mae euogrwydd yn ei gwneud hi’n anodd ymlacio gyda’r gri fewnol y dylent fod yn gwneud rhywbeth yn tarfu ar y cyfle y mae’r Arglwydd wedi ei roi. I eraill mae poeni a gwylio’r newyddion yn ddiddiwedd yn broblem, ac yna i eraill mae galwad y sgrin a gwefannau cymdeithasol yn rhy gryf.

Beth bynnag eich sefyllfa ar hyn o bryd, a phwy bynnag yr ydych chi, mae geiriau ac esiampl gariadus yr Arglwydd yn glir – gwnewch yn siwr eich bod yn gorffwyso rhywbryd yn yr wythnos hon!

Steffan Job (Capel y Ffynnon, Bangor)