Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 19 Mai 2020

18 Mai 2020 | gan Iwan Rhys Jones | Ioan 15

“Os yw’r byd yn eich casáu chwi, fe wyddoch ei fod wedi fy nghasáu i o’ch blaen chwi. Pe baech yn perthyn i’r byd, byddai’r byd yn caru’r eiddo’i hun. Ond gan nad ydych yn perthyn i’r byd, oherwydd i mi eich dewis chwi allan o’r byd, y mae’r byd yn eich casáu chwi.”

Ioan 15:18-19

 

Buddugoliaeth! Dyna beth mae cefnogwyr chwaraeon yn dyheu amdani; cael gweld y tîm neu’r unigolyn maent yn ei gefnogi yn gorchfygu pob rhwystr ac yn cario’r dydd.

Mae gan y Testament Newydd hefyd dipyn i’w ddweud am y Cristion sy’n gorchfygu yn wyneb gwahanol her. Gadewch i ni weld.

Un her yw’r byd, sef y byd gelyniaethus i’r disgybl. Gall Iesu Grist gynnig gair o gysur i’w ddisgyblion wrth iddynt wynebu byd o’r fath, wrth eu hatgoffa am ei fuddugoliaeth ef: “codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu’r byd” (Ioan 16:33).

Caiff Cristnogion hefyd y sicrwydd bod modd iddynt hwy gael buddugoliaeth dros y byd: “Pwy yw gorchfygwr y byd ond y sawl sy’n credu mai Iesu yw Mab Duw?” (1 Ioan 5:5). Y gyfrinach, yn ôl yr adnod hon, yw ffydd; ffydd sydd yn canolbwyntio ar Iesu Grist.

Os yw’r byd yn herio’r Cristion yn gyson, mae’n rhaid bod yn effro i beidio â gadael i’r byd a’i safonau drechu’r Cristion. Dyna sy’n cyfrif am y rhybudd canlynol gan yr Apostol Paul: “Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni” (Rhufeiniaid 12:21).

Nid yw Cristnogion nac eglwysi yn gallu cymryd pethau’n ganiataol, fel y gwelwn yn negeseuon Iesu Grist at yr eglwysi yn llyfr Datguddiad. Dro ar ôl tro yn y rhain, lle ceir addewid o fendith, mae’r fendith yn amodol: “i’r sawl sy’n gorchfygu” (Datguddiad 2:7).

Gall Paul hyd yn oed herio marwolaeth, y gelyn olaf: “O angau, ble mae dy fuddugoliaeth?” (1 Corinthiaid 15:55). Wedi gofyn y cwestiwn, dyma’r ateb yn dod: “Ond i Dduw y bo’r diolch, yr hwn sy’n rhoi’r fuddugoliaeth i ni trwy ein Harglwydd Iesu Grist” (1 Corinthiaid 15:57).

Yn olaf, beth am y dyfodol? Mae gennym hyder i’r dyfodol, mewn perthynas â thynged y byd ac achos Crist, oherwydd bod gwaedd yn y nef yn cyhoeddi: “y mae’r Llew o lwyth Jwda, Gwreiddyn Dafydd, wedi gorchfygu” (Datguddiad 5:5).

Iwan Rhys Jones, ‘Gorchfygu’, pennod allan o Geiriau Bywyd a gyhoeddwyd gan MEC yn 2017.