Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 18 Mai 2020

15 Mai 2020 | gan Steffan Job | Ioan 5

Pan welodd Iesu ef yn gorwedd yno, a deall ei fod fel hyn ers amser maith, gofynnodd iddo, “A wyt ti’n dymuno cael dy wella?” Atebodd y claf ef, “Syr, nid oes gennyf neb i’m gosod yn y pwll pan ddaw cynnwrf i’r dwr, a thra byddaf fi ar fy ffordd bydd rhywun arall yn mynd i mewn o’m blaen i.”

Ioan 5:6-7

 

Toes gan bob un ohonom ni ddarlun penodol o sut y dylid gwneud pethau?! Daeth hyn yn amlwg iawn i mi’n ddiweddar wrth i mi fynd allan am dro gyda’r plant. Caf drafferth i esbonio iddyn nhw bod gan wahanol bobl wahanol syniadau am beth sydd yn dderbyniol ac am beth yw lled dwy fedr! Weithiau mae’n gwbl ddiniwed – rhywun yn edrych yn gam arnom wrth fynd heibio, ond weithiau gall ddatblygu i mewn i rywbeth llawer mwy bygythiol, fel neges Facebook yn pwyntio’r drosedd allan yn gyhoeddus (rwy’n ddiolchgar nad wyf wedi derbyn un felly hyd yma!)

Gall agwedd debyg sleifio i mewn i’n bywydau Cristnogol, yn enwedig yn y modd y byddwn yn trin pobl eraill o fewn ac o’r tu allan i deulu’r eglwys. Gallwn osod disgwyliadau o ran rhyw safonau penodol, trefn benodol neu batrymau bywyd penodol ar fywydau eraill ac ar sut mae nhw’n ymateb i ni.

Nid awgrymu ydw i na ddylem fod ag unrhyw ddisgwyliadau oddi wrth ein gilydd, ond ysgwn i a oes gwers ar ein cyfer o edrych ar beth wnaeth Iesu wrth bwll Bethesda?

A sylwoch chi na ofynnodd y dyn yma ar i Iesu ei iachau? Yn amlwg toes ganddo ddim syniad pwy sydd yn siarad gydag ef ger ymyl y pwll (na ffydd ynddo chwaith). Mor wahanol fyddai’r sefyllfa petai wedi sylweddoli mai Iesu oedd hwn, creawdwr y byd a mab Duw a oedd â’r gallu i’w iachau trwy ddweud gair yn unig! Sylwch ar ei ymateb pan ofynnodd Iesu iddo os oedd eisiau cael ei iachau – mae’n gwbl eglur nad oedd erioed wedi ystyried bod opsiwn arall ganddo ar gyfer iachâd heblaw cael i mewn i’r pwll. Feddyliodd o erioed y gallai Iesu ei iachau.

Beth yw ymateb Iesu felly? Sylwch nad yw’n rhuthro at gynnal astudiaeth o’r Torah er mwyn esbonio pwy ydi o, ac nad yw’n disgwyl derbyn unrhyw beth gan y dyn – tydi o ddim hyd yn oed yn aros am iddo sylweddoli pwy ydi o nac yn aros iddo ofyn am gael ei iachau. Mae’n ei iachau yn syth bin. Gwelwn allu a thrugaredd Iesu. Y cwbl mae’n ei weld yw angen y dyn am iachâd wedi iddo ddioddef blynyddoedd o aros wrth ymyl y pwll.

Gadewch i ni fod yn drugarog tuag at ein gilydd yr wythnos hon, gan faddau i’n gilydd yn llawn cariad a thynerwch, yn yr un modd ag y maddeuodd Duw i ni yng Nghrist Iesu.

Wrth rannu’n ffydd, gadewch i ni beidio ag aros nes dod o hyd i’r union fath o berson fydd, yn ein tyb ni, yn ymateb “yn gadarnhaol”. Yn hytrach gadewch i ni fod yn drugarog a rhannu’r efengyl gyda phawb yn ddiwahân.

Wrth i ni sgwrsio gydag aelodau o deulu’r eglwys tros y ffôn neu ar Zoom, gadewch i ni beidio colli amynedd os ydyn nhw’n ailadrodd am y canfed tro yr un hen gŵyn neu’r un hen stori. Gadewch i ni wrando’n garedig a gwneud beth bynnag sydd ei angen i’w helpu.

Os oes rhywun rydym yn cydfyw â nhw yn ei chael hi’n anodd, gadewch i ni gynnig help llaw caredig ar unwaith heb geisio na disgwyl cydnabyddiaeth. Cofiwn eiriau Paul yn Philipiaid 2:

Peidiwch â gwneud dim o gymhellion hunanol nac o ymffrost gwag, ond mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nac ef ei hun. Bydded gofal gan bob un ohonoch, nid am eich buddiannau eich hunain yn unig ond am fuddiannau pobl eraill hefyd. Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl honno sydd, yn wir, yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu. Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i’w gipio, ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol. O’i gael ar ddull dyn, fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes.

Steffan Job, Capel y Ffynnon