Oherwydd nid ysbryd caethiwed sydd unwaith eto’n peri ofn yr ydych wedi ei dderbyn, ond Ysbryd mabwysiad, yr ydym trwyddo yn llefain, “Abba! Dad!”
Rhufeiniaid 8:15
Daw’r defosiwn isod allan o lyfr Mari Jones Yng Nghysgod y Gorlan a gyhoeddwyd gan y Mudiad nifer o flynyddoedd yn ôl.
Y Fref
Hesbin ifanc dwyflwydd oed oedd hi, ac angen cymorth arni i esgor ar ei hoen cyntaf. Bu raid defnyddio’r cŵn i’w hamgylchu droeon cyn ei chornelu. ‘Chydig a gysidrai yn ei styfnigrwydd mai cymwynas â hi oedd ei dal. Cafodd ollyngdod buan o’i phwn a’i phoen. Mewn byr amser roedd ei hoen yn un swp melyn gwlyb wrth ei hochr. Ond, y gnawes, ‘wnâi hi ddim â fo! ‘Chymerai hi ddim sylw ohono. Gynted ag y gallodd, i ffwrdd â hi, fel pe’n gwadu bod ganddi hi unrhyw gysylltiad ag o. Er ei dychwel ato droeon, yr un oedd ei hadwaith – y swpyn bach diamddiffyn yn methu denu serch ei fam. Fe’i cynhyrfwyd o bosib gan y profiad newydd o esgor am y tro cyntaf. Ac yn sicr, fe’i gwylltiwyd gan y cŵn nes iddi anwybyddu’n llwyr ei greddf gynhenid.
‘Doedd dim amdani ond ei gyrru gyda chynhorthwy’r cŵn i’r ysgubor, i’w chornelu mewn lle cyfyng iddi gael cyfle i ymgydnabod â’i hoen. Digwyddai fod cryn bellter rhyngddynt a’r tŷ, a thipyn o orchwyl oedd cario ar fraich oen bach yn syth o’r bru heb ei lyfu, yn llysnafedd melyn i gyd. Yn arferol, y peth cyntaf a wna dafad wedi bwrw ei hoen yw ei lyfu, ac yna llyncu y wisg sydd amdano, y brych a’r cyfan. Yn nhrefn natur, fel hyn y dychwel iddi yr haearn ac am bell fitamin a roes ei chorff i’w hoen wrth ei gario.
A hwythau o fewn golwg i’r ysgubor wedi cerdded rhyw hanner milltir, dyma’r oen bach yng nghôl John yn rhoi bref – ei frefiad cyntaf erioed. Yr eiliad yna safodd ei fam yn stond, a throdd yn ei hôl yn sydyn gan edrych yn eiddgar i gyfeiriad yr oen. Deffrôdd y fref honno rywbeth cynhenid yn y ddafad ac adweithiodd fel pe bai cloc wedi taro o’i mewn. Ymatebodd y funud honno. Dyna ryfedd – bref na chlywodd erioed mohoni o’r blaen yn dweud wrthi yn ddiamheuol mai ei heiddo hi oedd yr oen.
Ni ellid rhoi yr oen i lawr yn ddigon buan; fe’i hawliodd y funud honno. Mor gyflym a distaw ag oedd bosib fe’u gadawyd hwy yno gyda’i gilydd. Symudodd y ddafad hithau ‘run cam oddi wrtho nes ei lyfu’n Iân, a’r olwg ddiwethaf a gaed arnynt oedd y bychan yn sugno ac yn etifeddu y cariad a’r gofal y gall mam wlanog ei roi. Dychwelodd John i’r tŷ yn fudr wlyb i’w groen, nid yn unig i ‘molchi a newid ei ddillad, ond hefyd i lawen ryfeddu wrth adrodd yr hanes.
Fel gwaith pob cennad o’r gwirionedd, y cyfan a allai’r bugail ei wneud oedd dod â’r fam a’r oen at ei gilydd. Dod â newyddion da’r Efengyl i glyw’r bobl, dod â’r iachawdwriaeth sydd yn yr Arglwydd Iesu Grist a fewn cyrraedd iddynt, dyna yw gwaith gweision Duw. Greddf a barodd i’r oen frefu ac i’r fam ymateb. A greddf a blannodd Duw yn ei blant o’i ras trwy’r Ysbryd Glân a ddeffry’r gri ‘Abba, Dad’ ynom ninnau. A phan ddigwydd, ymetyb Duw hefyd yn ddi-ffael. Yna fe geir cyfathrach a chymdeithas, ac fe etifeddwn ninnau y cariad a’r gofal sydd yn Nuw ar ein cyfer.