Y mae cariad yn goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf.
1 Corinthiaid 13:7
Myfyrdod ar Ddiwrnod VE
Roedd fy mam a nhad yno – ond ddim gyda’i gilydd. Roedd fy nhad yn yr Eidal fel Rhingyll Hyfforddi yn y Magnelau Brenhinol ac roedd Mam yn dysgu yn Lerpwl, yn teithio o Ogledd Cymru i’r ysgol bob dydd. Os oedd cyrch awyr, ei chyfrifoldeb hi oedd sicrhau bod y bechgyn yn aros yn y llochesi a baratowyd ar eu cyfer – hyd yn oed os oedd hynny’n golygu rhedeg rhwng llochesi tra oedd y cyrch ymlaen!
Roedd fy mam a nhad yn caru ei gilydd. Mae gen i rai o’u llythyrau. Mae un neu ddau wedi’u hysgrifennu tu chwith fel mai dim ond mewn drych mae’n bosib eu darllen! Rhaid bod hynny wedi cymryd tipyn o amser i’r ddau ohonynt!
O Ogledd Affrica ar Fai 20, 1943 ysgrifennodd fy nhad at “Fy anwylaf Ellen … Nawr gwranda – gallant fy anfon i unrhyw wlad yn y byd, hyd yn oed Hollywood, a fyddwn byth eisiau neb arall, dim ond fy Ellen i , rwyt ti fy merch annwyl yn fywyd i mi, ac oni bai dy fod ti gyda mi, wel dwi’n teimlo fel neidio i’r afon, ond alla i ddim gwneud hynny, does dim afonydd ffordd yma …… neb, neb arall….dim ond ti sy’n mynd i fod yn wraig i mi byth….. ”.
Yng nghanol rhyfel ofnadwy, a chyda thristwch ym mhob man ni allai dim rhwystro eu cariad.
Sut aethant drwy’r cyfan? Mae gen i gopi o weddi a awgrymwyd gan y Padre i gyplau gofio ei gilydd bob dydd. Mae’n gorffen “Gweddïwn ar i ti frysio’r diwrnod pan gawn ni gwrdd mewn heddwch….” Ac fe wnaethant – fi yw’r prawf o hynny!
Dim ond un stori yw hon ymhlith cynifer o hanesion anhygoel am filwyr, eu gwragedd a’u teuluoedd, oedd wedi’u dal mewn rhyfel na fuont yn gyfrifol am ei dechrau ond y bu’n rhaid iddynt ei hymladd – gartref a thramor.
Ac yn awr 75 mlynedd yn ddiweddarach rydym yn brwydro yn erbyn covid-19.
Rydym ni’n mynd trwyddi gyda’n gilydd ac mae’r frwydr yn un hynod o anodd i gynifer o bobl. Ond yr hyn a barhaodd trwy’r Ail Ryfel Byd a thu hwnt yw cariad – cariad rhyfeddol. Bydd cariad yn para ymhell y tu hwnt i covid-19.
“Nid yw cariad yn darfod byth.” Mae’r geiriau doeth hynny yn dod o’r Beibl. Felly hefyd y rhain, “Duw cariad yw”.
Mae ail-ymweld â chyfnod nad oeddwn wedi byw trwyddo ac amgylchiadau y gallwn prin eu dychmygu, ac emosiynau oedd wedi eu fflangellu gan brofiadau bywyd wedi cael effaith fawr arnaf. Ble byddwn i heb eu cariad? Ble byddwn i heb gariad anhygoel Duw – sy’n fwy na fy holl fethiannau?
Aberthodd Mam a Dad dros ein dyfodol – fel cymaint o rai eraill. Anfonodd Duw ei Fab a aberthodd Ei fywyd ar Groes Calfaria i’m hachub i – a phawb sy’n rhoi eu ffydd ynddo.
Cawsant yr hyfrydwch o fod yno ar ddiwrnod VE. Roedd “y fuddugoliaeth derfynol” wedi ei hennill. Er mor wych oedd hynny – gwnaeth Iesu Grist gymaint mwy. Trechodd farwolaeth a’r bedd. Mae wedi ennill y fuddugoliaeth derfynol fwyaf oll.
Mewn byd sinigaidd sy’n honni’n aml nad yw’n credu dim, mae geiriau 1 Corinthiaid 13, adnod 7, yn dal mor wir, “Mae cariad yn goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf.”
A beth amdanoch chi? Pwy ydych chi’n ei garu? Pwy ydych chi’n meddwl sy’n eich caru chi? Os ydych chi’n gwybod bod rhywun sy’n eich caru chi – mae hynny’n wych – yn union fel fy rhieni yng nghanol y rhyfel. Ond p’un a yw rhywun yn eich caru chi ai peidio, mae un hen emyn yn dweud y cwbl.
And yet I know that it is true:
He came to this poor world below,
And wept and toiled, and mourned and died,
Only because He loved us so.
But, even could I see him die,
I could but see a little part
Of that great love which, like a fire,
Is always burning in his heart.
And yet I want to love Thee, Lord;
O light the flame within my heart,
And I will love Thee more and more,
Until I see Thee as Thou art.
William Walsham How, ‘It is a thing most wonderful’.
Er cof am Edwin Dennis Norbury ac Ellen Eldridge (Norbury)
Dave Norbury