Ac fe ofynnaf innau i’m Tad ac fe rydd Ef i chi Eiriolwr arall i fod gyda chi am byth.
Ioan 14:16
Fe ofynnodd rhywun i’r pregethwr enwog, C.H. Spurgeon, “Pa un sydd bwysicaf Mr Spurgeon, darllen y Beibl neu weddïo?” Meddai Spurgeon wrtho, “Fe atebai eich cwestiwn ar ôl i chi ateb fy nghwestiwn i – Pa un sydd bwysicaf, anadlu i mewn neu anadlu allan!”
Ym mhenodau 13-16 o Efengyl Ioan, gwelwn fod y disgyblion mewn ofn, dryswch a thristwch. I gysuro a helpu’r disgyblion mae’r Arglwydd Iesu Grist yn eu dysgu am bwysigrwydd yr Ysbryd Glan. Mae’n defnyddio dau enw am yr Ysbryd, sef ‘Eiriolwr’ ac ‘Ysbryd y Gwirionedd’ sy’n awgrymu mwy nag un swydd. Paracletos yw’r gair a ddefnyddir yn y Groeg. Ranc milwrol yn y fyddin oedd Paracletos, a hwn oedd y dyn oedd yn annog ac yn codi calon y milwyr eraill i godi ac i ymladd yn erbyn y gelyn. Gwelwn felly fod y gair ‘Eiriolwr’ yn cyfeirio at un sydd yn sefyll hefo ni drwy “ymbil trosom ni” (Rhufeiniaid 8:26) a thrwy fod yn Ddiddanydd gan ein cysuro a’n nerthu.
Ar yr adeg bryderus yma, does dim byd yn bwysicach na’n bod yn gwybod ac yn profi gwaith yr Ysbryd Glan yn ein bywydau, fel anogwr, eiriolwr a chysurwr. Ond sut mae’n gwneud y gwaith yma?
Ioan 14:16 – Gwyddom mai’r Arglwydd Iesu Grist ydi’r Eiriolwr cyntaf ond mae’r “arall” yn awgrymu fod yr Ysbryd o’r un natur – sylwch fel mae’r Gwaredwr yn siarad am y Drindod yma – y Tad, y Mab a’r Eiriolwr arall, yr Ysbryd Glan, yn gytûn yn y gwaith o gynorthwyo disgyblion Iesu Grist. Mae’r “arall” hefyd yn golygu yn ychwanegol. Bydd cwmni a chysur yr Ysbryd yn ddi-dor a thrwy’r Ysbryd y mae’r Cristion yn cael cwmni’r Gwaredwr ei hun. (14:18)
Ioan 14:26 – Mae’r Ysbryd yn cael ei roi gan y Tad yn enw Iesu Grist ac felly gydag awdurdod Iesu. Ar sail ei fuddugoliaeth ar ddiafol, cnawd a byd, bydd yn dysgu, yn atgoffa ac yn arwain at bob gwirionedd (16:12-13). Mae’n cysuro trwy ddod a geiriau’r Arglwydd Iesu Grist a Gair Duw yn agos atom ac yn fyw a pherthnasol i ni. Golyga hynny nad dim ond y ffeithiau moel a ddaw i ni, ond daw’r cyfan gyda gras, a’r nerth, a’r fendith sydd i’n heneidiau yng Ngair Duw – rhywbeth sy’n fwy gwerthfawr nag aur ac yn fwy melys na mel (Salm 19:9-10).
Ioan 15:26 – Mae’r Ysbryd yn goleuo’r Arglwydd Iesu Grist ac yn gwneud i ni edrych arno gan ddwyn gogoniant iddo (16:14.). Wedi’r cwbl, Yr Arglwydd Iesu Grist yw canolbwynt ein ffydd a’n bywyd! Swm a sylwedd y bywyd y Cristnogol yw byw i Iesu a mwynhau ei gwmni mewn addoliad a diolchgarwch am ei gariad a’i drugaredd yn marw drosom.
Heddiw, cofiwch anadlu i mewn (darllen, myfyrio a dysgu o Air Duw) a chofiwch hefyd anadlu allan (gweddïo, canmol ac addoli’r Arglwydd Iesu Grist).
Cadwch yn saff. Pob bendith heddiw.
Dewi Tudur, Eglwys Efengylaidd Ardudwy