Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 10 Mai 2020

7 Mai 2020 | gan Mari Jones | Salm 40

‘Cododd fi i fyny o’r pwll lleidiog, allan o’r mwd a’r baw; gosododd fy nhraed ar graig, a gwneud fy nghamau’n ddiogel.’

Salm 40:2

 

Daw’r defosiwn isod allan o lyfr Mari Jones Trwy Lygad y Bugail a gyhoeddwyd gan y Mudiad nifer o flynyddoedd yn ôl.

Un yn Unig

Daw pob tymor a’i waith ei hun i’r amaethwr. Ar ôl haf eithriadol sych ‘69, wedi gorffen â’r gwair,  dyma gyfle i godi terfynau’r mynydd. ‘Does dim mor bwysig i amaethwr â therfynau ei fferm. Bu bod hebddynt yn achos helynt a ffrwgwd a thorri ar gariad cymdogol llawer ardal. Gall amaethwr adael i’w anifeiliaid bori gwellt daear ei gymydog, ac yntau’n gwybod hynny, pryd na chymerai’r byd am ddwyn eiddo ei gymydog mewn unrhyw ffordd arall. Ceisia efallai ei esgusodi ei hun, a chuddio y tu ôl i’r posibilrwydd y bydd da ei gymydog yn ei dro yn pori ei dir yntau.

Manteisiodd llawer ar yr haf sych i fynd â’r tractor a llwythi o bolion a gwifrau i’r mynydd. Anodd yw cael y mynydd yn ddigon sych i hynny. Yn wir, hyd yn oed eleni, gorfu i’r dynion yma chwilio’n ddyfal am le digon sych lle gellid mynd â’r llwyth i ben ei daith yn ddiogel. Mewn man arbennig o wlyb, un lle yn unig oedd ag unrhyw sylfaen i lwybr drwyddo. Roedd caledwch yno, ond golygai fynd dipyn o’r ffordd i gael gafael ar yr union lwybr hwnnw bob tro. Llawer gwaith y ceisiodd y bechgyn a yrrai’r tractor ei chynnig hi mewn lle arall. Ceisio ffordd ferrach, ond er ceisio a cheisio, corsio fu’r hanes. Rhaid oedd dod yn ôl i’r un ffordd bob tro, man â’r caledwch yn sylfaen i’r llwybr.

Mor debyg y gallwn fod mewn bywyd wrth geisio cael gafael ar ffordd y gwirionedd a’r bywyd. Chwilfrydedd apêl y ‘short-cut’ yn ein gyrru i chwilio a chwilio yn ein ffordd ein hunain, a dod i ‘dead-end’ a chorsio am nad oedd sylfaen iddi. Dim ond un ffordd sydd, a honno’n barod ar ein cyfer, yn disgwyl i ni ei defnyddio.

  ‘Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi.’ loan 14:6

  ‘Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthych, lleidr ac ysbeiliwr yw’r sawl nad yw’n mynd i mewn trwy’r drws i gorlan y defaid, ond sy’n dringo i mewn rywle arall.’ loan 10:1

Mor ddiddorol yw ateb Cristion yn Taith y Pererin pan ofynnwyd iddo beth a wnâi yng Nghors Anobaith:

  Cristion: Syr, gŵr a elwir Efengylwr a archodd i mi fyned y ffordd yma, gan fy nghyfarwyddo i’r porth acw, fel y gallwn ffoi rhag y llid a fydd; ac fel yr oeddwn yn myned yno, mi a syrthiais i mewn yma.

Cymorth: Ond paham nad edrychaist am y cerrig camu?

Cristion: Ofn a’m dilynodd mor agos, nes peri i mi gymeryd y ffordd nesaf, ac felly syrthiais i mewn.

Pan holodd Cristion pam yr oedd Cors Anobaith ar ffordd pererinion, yr ateb a gafodd oedd mai argyhoeddiad o bechod yw’r gors. Ni chawn dir cadarn dan ein traed hyd nes y bydd ein traed wedi’u gosod ar Graig yr Oesoedd, sef Crist.

  ‘Cododd fi i fyny o’r pwll lleidiog, allan o’r mwd a’r baw; gosododd fy nhraed ar graig, a gwneud fy nghamau’n ddiogel.’ Salm 40:2

  ‘…pan yw fy nghalon ar suddo. Arwain fi at graig sy’n uwch na mi.’ Salm 61:2

Ffordd a drefnwyd cyn bod amser
I gael dihangfa o ddrygau’r ddraig;
Mewn addewid gynt yn Eden,
Fe gyhoeddwyd Had y wraig;
Ffordd i gyfiawnhau’r annuwiol,
Ffordd i godi’r meirw’n fyw;
Ffordd gyfreithlon i droseddwyr
l hedd a ffafor gyda Duw.
ANN GRIFFITHS