Felly ymnertha di, fy mab, yn y gras sydd yng Nghrist Iesu.
2 Timotheus 2:1
Mae gras yn beth rhyfeddol. Y bore ma’ fel Cristion mae crëwr y cosmos a’r un sy’n rhoi pwrpas ac ystyr i bob peth yn dy garu y tu hwnt i fesur. Mae’r un a osododd y planedau yn eu lle ac sy’n dal y môr yng nghledr ei law yn dy garu ac yn gweithio yn dy galon – am fraint!
Cyn i’r byd ddechrau, fe fwriadodd dy achub, nid oherwydd pwy fyddet ti neu’r pethau gwych y byddet ti’n eu gwneud drosto. Na, fe’th achubodd trwy ei bwrpas a’i ras ei hun ac er ei ogoniant ei hunan. Mewn ffordd real iawn rwyt yn seren ddisglair yn disgleirio gras Duw mewn byd pechadurus, tlws i’w gariad a’i drugaredd a fydd yn sefyll am dragwyddoldeb.
Sut mae hyn yn gwneud i ti deimlo?
Mae gras Duw yn cael effaith ryfeddol arnom ni. Mae gras yn dod â ni i’n gliniau wrth inni sylweddoli mewn parchedig ofn beth wnaeth y Duw sanctaidd i ni ar Galfaria. Mae’n cymryd ymaith pob balchder wrth inni sylweddoli ein bod yn bechadurus ac yn gwbl anhaeddiannol o’i gariad. O’i ddeall a’i brofi yn gywir, mae’n cymryd i ffwrdd yr ansicrwydd o fyw bywyd i geisio ennill ffafr Duw gan ein bod ni’n cael ein derbyn yn llwyr trwy’r hyn a wnaeth Iesu droson ni. Mae’n rhoi tân yn ein calonnau, tir cadarn o dan ein traed ac yn dod â chysur i’r enaid – yn syml, mae’n rhoi nerth inni.
Wrth i ni ddechrau ar wythnos waith arall, gadewch i ni gael ein cryfhau gan y gras sydd yng Nghrist Iesu. Gadewch i’w ras roi’r cymhelliant inni ymdrechu am sancteiddrwydd, gadewch iddo lenwi’n calonnau â chariad tuag at eraill, a gadewch iddo ddod â phenderfyniad clir i fyw bob eiliad er ei ogoniant!
Steffan Job (Capel y Ffynnon, Bangor)