Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 30 Mai 2020

28 Mai 2020 | gan Meirion Thomas | Effesiaid 6

Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef.

Effesiaid 6:10

 

Ydych chi’n ffansïo trip i ddinas hynafol Effesus? Bydd yn newid bach neis o ddiflastod lockdown!

Roedd Effesus yn ddinas ysblennydd ac yn borthladd prysur oedd yn cysylltu ffyrdd masnachol pwysicaf Asia â’r Môr Canoldir a thu hwnt. Ond mewn adeilad yn anad dim arall yr ymfalchïai ac yr ymhyfrydai’r ddinas – yn nheml anferth Artemis, un o saith rhyfeddod yr hen fyd. Yn Actau 19 cawn gyfeiriadau nid yn unig at y deml ond at ei duwies, Artemis, a defnyddir y gair ‘mawr’ i’w disgrifio bedair gwaith. Yn wir, darllenwn am dyrfa o grefftwyr a dinasyddion afreolus yn “gweiddi am tua dwy awr, “Mawr yw Artemis yr Effesiaid””. Mae felly’n gwbl amhosibl i ni ddiystyru effaith pensaernïaeth ac adeiladwaith syfrdanol teml Effesus a dylanwad crefyddol aruthrol ei duwies ar y bobl. Yn eu tyb nhw roedd ei nerth, ei gallu a’i mawredd yn ddiguro. Heddiw mae’n diwylliant ni yn cael ei dominyddu gan ddelwau a chanolfannau paganaidd fel temlau sy’n ceisio ennill serch addolwyr at eu cysegrfeydd.

Pa effaith oedd awyrgylch Effesus yn ei gael ar y credinwyr Cristnogol? Oedden nhw weithiau’n cael eu llorio wrth feddwl mor fach a distadl oedden nhw o’u cymharu? Adeilad eang, mawreddog ac amlwg y deml leol ar y naill law: ar y llaw arall dim cymaint ag un adeilad eglwysig cyhoeddus. Oedden nhw’n ymwybodol o’u gwendid, eu diffyg nerth a’u hanallu? Pa ffynhonnell o nerth a gallu oedd ar gael iddyn nhw? A oedd unrhyw un yn fwy gogoneddus, yn fwy nerthol, yn fwy galluog nag Artemis yr Effesiaid? Pan fydd eich anallu a’ch diffygion yn eich nychu chi, oni fyddwch chithau weithiau’n ymwybodol o’ch gwendid fel crediniwr?

Dair gwaith yn ei lythyr at yr Effesiaid mae Paul yn annog y credinwyr i edrych uwchlaw a thu hwnt i’r deml leol a’i duwies. Mae’n gweddïo ar i Dduw “oleuo llygaid eich meddwl, a’ch dwyn i wybod…beth yw aruthrol fawredd y gallu sydd ganddo o’n plaid ni sy’n credu, y grymuster hwnnw a gyflawnodd yng ngrym ei nerth yng Nghrist Iesu pan gyfododd ef oddi wrth y meirw, a’i osod i eistedd ar ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd, ymhell uwchlaw pob tywysogaeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth, a phob teitl a geir, nid yn unig yn yr oes bresennol, ond hefyd yn yr oes sydd i ddod” (Effesiaid 1:18-21). Mae’r grymuster a “nerth ei allu” wedi’u lleoli ym mherson y Crist atgyfodedig, buddugoliaethus ac maen nhw “o’n plaid ni sy’n credu”.

Ym Mhennod 3, adnodau 16, 18, ac 19 mae Paul unwaith eto’n gweddïo ar i Dduw “ganiatáu i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, gryfder a nerth mewnol trwy’r Ysbryd…a’ch galluogi i amgyffred ynghyd â’r holl saint beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist, a gwybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth. Felly dygir chwi i gyflawnder, hyd at holl gyflawnder Duw.” A allai Artemis fyth gystadlu â darpariaeth ac adnoddau rhyfeddol a dihysbydd Tad, Mab ac Ysbryd Glân? Gallu’r Drindod wedi’i arddangos ac i’w brofi yn y cariad a seliwyd ar ‘arw groes’ bryn Calfaria.

Yn Effesiaid 6:10 mae Paul am y drydedd waith yn annog y Cristnogion – “Ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef”. Ni fwriadwyd erioed i ni fod yn nerthol ynom ein hunain, nac i ddibynnu ar ein hadnoddau cyfyngedig. Doedden ni ddim yn ddigon galluog i achub ein hunain. Does gyda ni ddim digon o allu i gynnal a chadw’n hunain chwaith. Ond yn Nuw, yng Nghrist ac yn yr Ysbryd Glân mae i ni adnoddau dihysbydd. Nid yw’r paned te yn eich llaw yn cynrychioli’r cyflawnder o ddŵr sydd yn y gronfa leol: yn yr un modd nid yw’r ychydig ras a chariad y gwyddom ni amdanynt ond swm bychan o’r hyn sydd ar gael yn narpariaeth helaeth Duw. Gadewch i ni fynd ato mewn gweddi heddiw a gofyn iddo am fwy o nerth, mwy o allu a mwy o’i gariad anorchfygol i’n cynnal a’n cadw. Gadewch i ni weld na all neb gystadlu â’n Harglwydd Iesu – mae ef yn fwy, yn gryfach, yn rymusach ac yn odidocach na phawb a phopeth arall.

Meirion R. Thomas​, Malpas Road